Mae chwaraeon yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru ac mae mynd i weld digwyddiad neu êm yn rhan hanfodol o astudio yn Y Drindod Dewi Sant.
Stadiwm Swansea.com
Agorodd Stadiwm Swansea.com yn 2005 yn gartref i dimau Swansea City a Rygbi’r Gweilch a rhoi cyfleuster i ymfalchïo ynddo i Abertawe.
Wedi’i yrru gan weledigaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe, adeiladwyd Stadiwm Swansea.com gyda Pharc Manwerthu Morfa ychydig funudau o ganol Dinas Abertawe.
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Mae cyfleusterau Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cynnwys Pwll Cenedlaethol Cymru sy’n un 50m, trac athletau awyr agored, caeau amlddefnydd, campfa, caeau hoci a llawer iawn mwy.
Cae Rygbi a Chriced San Helen
Mae Cae Rygbi a Chriced San Helen yn lleoliad chwaraeon yn Abertawe, sy’n gartref i Glwb Pêl-droed Rygbi Abertawe, Clwb Criced Abertawe a Chriced Morgannwg.
Parc y Scarlets
Cartref Rygbi Scarlets a lleoliad gwych ar gyfer cynadleddau, achlysuron a dathliadau o bob math.
Cae Rasio Ffos Las
Mae Cae Rasio Ffos Las wedi dod â rasio o’r radd flaenaf i Gymru ers ei agor yn 2009. Wedi’i leoli rhwng Llanelli a Chaerfyrddin, mae Ffos Las yn cynnal 23 o ornestau rasio dros y flwyddyn, yn ogystal â bod ar gael i’w logi ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau.
Parc Richmond, Caerfyrddin
Mae Parc Richmond yn stadiwm Uwchgynghrair Cymru yng Nghaerfyrddin. Wedi’i leoli ar Priory Street, caiff ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gemau pêl-droed ac mae’n gartref i CPD Tref Caerfyrddin.
Parc Caerfyrddin
Wedi’i agor yn 1900, gan Barc Caerfyrddin mae felodrom (trac seiclo) cyntaf Cymru ac un o’r ychydig felodromau cynnar i oroesi mewn cyflwr sy’n caniatáu ei ddefnyddio o hyd. Ynghyd â’i prif feinciau gwreiddiol, bandstand, porthdy, giatiau mynediad a rheiliau, mae Parc Caerfyrddin wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o chwaraeon, eisteddfodau, adloniannau, syrcasau a chyngherddau.
Cynefin
Mae Cynefin wedi’i lleoli ar safle werdd hyfryd ar gyrion Caerfyrddin, namyn 20 munud ar droed o’r campws. Mae’r safle wedi’i gysgodi ac mae’n breifat a chanddo ystod amrywiol o gynefinoedd naturiol a mynediad i ddyfrffyrdd a llwybrau troed. Mae lleoliad y ganolfan yn berffaith ar gyfer dysgu am addysg antur awyr agored.
Cwrs Golff Machynys
Dyluniwyd Machynys, ‘Ynys y Mynaich’, gan Nicklaus ac mae’n gwrs golff pencampwriaeth Links modern 7121 llathen a agorodd yn 2005, sydd eisoes wedi cynnal 14 o Bencampwriaethau digyffelyb, yn cynnwys 2 Pencampwriaeth ‘Royal & Ancient’ a 4 Pencampwriaethau Ewrop LET Ryder Cup Cymru.
Stadiwm Principality
Gyda’r to cyntaf yn y DU y gellir ei agor yn llawn, mae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn lleoliad digwyddiadau amlweddog o’r radd flaenaf, sy’n gartref i Undeb Rygbi Cymru.
Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
Ar lannau’r llyn dŵr ffres a grëwyd gan Forglawdd Bae Caerdydd, mae gan y Pentref Chwaraeon ddau gyfleuster chwaraeon safonol Olympaidd, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a Phwll Rhyngwladol Caerdydd, a defnyddiwyd y ddau fel lleoliadau hyfforddi ar gyfer gemau Llundain yn 2012. Ochr yn ochr â’r rhain mae Arena Viola, a gwblhawyd ym mis Mawrth 2016 mae’n ganolfan sglefrio cyhoeddus ac yn gartref i dîm hoci iâ Cynghrair Elît Cardiff Devils.
Gerddi Soffia
Stadiwm â 16,000 o seddi yw Gerddi Soffia yng Nghaerdydd, ac mae’n gartref i Griced Morgannwg ac yn lleoliad sefydledig ar gyfer criced rhyngwladol.
Stadiwm Dinas Caerdydd
Stadiwm Dinas Caerdydd yw cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Cardiff Arms Park
Cardiff Arms Park yw cartref Rygbi Caerdydd a CRP Caerdydd drws nesaf i Stadiwm Principality yng nghanol y brifddinas.