Ymaelodwch â’r Coleg Cymraeg Cendlaethol
Ydych chi’n aelod o Gangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol?
Annogir holl staff a myfyrwyr y Brifysgol sy’n siarad Cymraeg i ymaelodi â’r Gangen, boed yn weinyddol, yn academaidd neu’n gefnogol a chofiwch nad oes rhaid eich bod chi’n gwbl rugl eich Cymraeg i fod yn ’siaradwyr Cymraeg’, mae’r Gangen yn annog unrhyw rai sy’n dymuno ymarfer eu Cymraeg drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i ymaelodi â’r Gangen er mwyn derbyn gwybodaeth am yr holl gyfleoedd academaidd a chymdeithasol sydd ar gael.
Ymaelodwch a byddwch yn cael:
- Gwybodaeth am gyfleoedd cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol ynghyd ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau cymdeithasol y Gangen gan gynnwys Cinio Blynyddol a dathliadau Gŵyl Dewi
- Gwybodaeth am raglenni hyfforddiant a datblygiad staff Cenedlaethol
- Gwybodaeth am ddatblygiadau Cenedlaethol
- Gwahoddiad i gyfarfodydd y Gangen
- Cyngor a chefnogaeth i staff sy’n dymuno ymgeisio am nawdd i ddatblygu:
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Adnoddau cyfrwng Cymraeg
- Prosiectau a gweithgareddau er budd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg