Llinell o bobl ifanc yn gwisgo siwmperi Coleg Cymraeg

Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ysgoloriaeth Cymhelliant – sef £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) i’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (neu 40 credyd y flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgoloriaeth Cymhelliant gwerth £500

Prif Ysgoloriaeth, sef £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) i’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu astudio o leiaf 66% (neu 80 credyd y flwyddyn) o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.


40 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae holl gyrsiau'r Brifysgol sydd ag o leiaf 40 credyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


80 neu 120 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r cyrsiau isod yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 120 credyd neu 80 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:


Cofiwch hefyd am Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg/ Dwyieithog y Brifysgol
Dyfernir yr ysgoloriaeth i fyfyrwyr is-raddedig llawn amser sy’n cynnal y cyfan neu ran o’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog  - £50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog (rhaid bod o leiaf 50% o’r modylau yn ddwyieithog).

Swm y Dyfarniad: Hyd at £600 y flwyddyn i mewn rhaglenni gradd tair blynedd, neu £900 mewn rhaglenni gradd dwy flynedd ddwys.