Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  Y Coleg Doethurol

Y Coleg Doethurol

Mae’r Coleg Doethurol yn ganolfan i gyfoethogi hyfforddiant doethurol a datblygiad ein myfyrwyr fel ymchwilwyr. Darparwn adnoddau, cyfleoedd rhwydweithio a hyfforddiant ar gyfer ein myfyrwyr doethurol amrywiol, sydd ar wasgar yn ddaearyddol, o fewn cymuned fywiog sy'n tyfu.


Cymuned ddoethurol ddiddorol ac ysgogol

Mae’r Coleg Doethurol yn y Drindod Dewi Sant yn ganolfan ymchwil gyfoethog a bywiog sy’n darparu adnoddau, cyfleusterau, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ein holl ymchwilwyr PhD, DBA, EdD, Doethuriaeth Broffesiynol, DProf, MPhil, MRes a MA gan Ymchwil/ MSc yn ôl Ymchwil.

Mae ein myfyrwyr doethurol yn elwa o Raglen Datblygu Ymchwilwyr unigryw a luniwyd i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a’u sgiliau proffesiynol.

Lecturers looking at laptop

Lecturer and Student reading book

Rydym yn cefnogi myfyrwyr drwy:

  • Ddarparu cymorth cyson ragorol gan oruchwylwyr sydd ag arbenigedd a hyfforddiant perthnasol
  • Rhoi mynediad i lwyfan unigryw’r Gymuned Ddoethurol – llwyfan ar-lein ar gyfer rhwydweithio, mynediad at adnoddau a dogfennau rhaglenni
  • Darparu Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr cynhwysfawr sy’n cynnwys gweithdai, hyfforddiant ar-lein, a chyfleoedd datblygu eraill
  • Mae’r Symposia Posteri rheolaidd a’r Ysgol Haf Flynyddol ar gyfer pob myfyriwr doethurol wedi’u llunio i annog dull rhyngddisgyblaethol a rhannu adnoddau.