Adnoddau Addysgu
Symudodd y Brifysgol i ddarpariaeth ar-lein mewn ymateb i'r sefyllfa gyda COVID-19. Gweler yr adnoddau sydd ar gael i'ch cynorthwyo gyda'r ffordd newydd hon o ddysgu.
Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu
Yn dilyn penderfyniad y Brifysgol i addysgu a gweithredu ar-lein, ni fydd ein llyfrgelloedd yn ailagor tan o leiaf 15 o Chwefror. Mae ein gwasanaethau digidol ar gael fel arfer, yn cynnwys e-lyfrau, e-gylchgronau, ein Desg Rithiol a'n cymorth Sgiliau Gwybodaeth.
Bydd ein cymorth yn parhau i fod ar gael, ni waeth a yw’r adeiladau ar agor ai peidio. Rydym yn gweithredu Desg Ymholi Rhithiol y gellir ei chyrraedd drwy alw unrhyw un o rifau ffôn arferol y llyfrgell: Cysylltu â Ni
Cewch gysylltu â ni hefyd drwy e-bostio: library@uwtsd.ac.uk
Neu drwy Facebook, Instagram neu Twitter: @UWTSDLib
Fel arfer, bydd cymorth ar gael 9am-5pm dydd Llun i ddydd Iau ac 9am-4.30pm ar ddyddiau Gwener.
Cymorth TG
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi mabwysiadu Microsoft Teams fel y prif fecanwaith ar gyfer cyfathrebu a dysgu o bell ac mae ein holl ddulliau cyfathrebu i’r staff wedi symud i MS Teams (sgwrsio, cyfarfodydd, gwasanaethau ffôn) yn ystod y cyfyngiadau symud.
Gyda llwyddiant symud llawer o’n darlithoedd i MS Teams byddwn yn darparu galluoedd ychwanegol ar gyfer ein myfyrwyr drwy agor y nodwedd sgwrsio o fewn MS Teams er mwyn iddo ddatblygu i fod y man canolog ar gyfer ein holl gyfathrebu.
Yn yr wythnosau nesaf wrth i ni uwchraddio ein defnyddwyr bydd eicon ‘chat’ newydd o fewn Teams a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ‘sgwrsio’ gyda staff a myfyrwyr eraill o fewn rhaglen Teams.
Dyma ganllaw cyflym ar sut i gyrchu'r prif offer y mae’n debygol y bydd arnoch ei angen.
Rydym hefyd wedi rhoi adnoddau Microsoft Teams at ei gilydd i'ch cynorthwyo, gan gynnwys:
- Mae gwybodaeth gyffredinol am Teams ar gael yma - Microsoft Teams
- Canllawiau i ddefnyddwyr ar Teams gan gynnwys Cyfarfodydd
I gael mynediad i feddalwedd Microsoft Teams bydd rhaid i chi gofrestru gyda’ch e-bost myfyriwr a chyfrinair.
Bargeinion TG
Cofiwch y gallwch, fel myfyriwr yn YDDS, gael gafael ar rai bargeinion TG arbennig i’ch helpu i symud i ddarpariaeth ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys Microsoft Office 365 a Windows 10 am ddim, ynghyd ag Autodesk ac Adobe Creative Cloud (yn cynnwys Photoshop, illustrator a Premiere Pro).
Dysgwch ragor am y rhain a'r holl fargeinion TG eraill sydd ar gael
Ni fydd Cymorth TG ar gael ar y campws, ond gallwch gysylltu â’r Ddesg Wasanaeth TG ar 0300 500 5055 neu drwy gofnodi eich cais ar https://webhelp.uwtsd.ac.uk
Gwasanaeth TaSG y tu allan i oriau arferol:
O 5pm ymlaen, bydd cefnogaeth ffôn Desg y Gwasanaeth TG yn dychwelyd i ddarparu cymorth TG y tu allan i oriau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy ffonio 0300 500 5055
Mae meddalwedd Adobe Creative Cloud ar gael bellach dros dro i chi ei ddefnyddio gartref. Ceir rhagor o wybodaeth am y feddalwedd hon a chynigion arbennig eraill TG yma
Cofiwch gofnodi eich gwybodaeth ailosod cyfrinair fel y gallwch ailosod eich cyfrinair eich hun os bydd angen trwy fynd i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfrinair/
Noder: Mae Desg Gwasanaeth TG yn ymdrin â nifer fawr o geisiadau ar hyn o bryd ac mae hyn yn golygu bydd peth oedi cyn ymateb. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth.