Diweddarwyd diwethaf 23 Chwefror 2021
Math o firws yw coronafeirws ac fel grŵp maent yn gyffredin ar draws y byd. Mae Novel coronafeirws (2019-nCov) yn straen newydd o goronafeirws a nodwyd gyntaf yn Ninas Wuhan, Tseina.
Mae symptomau nodweddiadol coronafirws yn cynnwys twymyn a pheswch a allai symud ymlaen i niwmonia difrifol gan achosi prinder anadl ac anawsterau anadlu.
Yn gyffredinol, gall coronafirws achosi symptomau mwy difrifol mewn pobl â systemau imiwnedd gwan, pobl hŷn, a'r rheini â chyflyrau tymor hir fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint.
Mae’r Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol wedi sefydlu strategaeth gyfathrebu barhaus gyda Phartneriaid Cydweithredol y Brifysgol er mwyn darparu cefnogaeth a chyfarwyddyd yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Diben y strategaeth gyfathrebu hon yw sicrhau’r canlynol:
- bod yr holl negeseuon yn gyson â’r negeseuon sefydliadol a anfonir at bob corff sy’n allanol;
- bod yr holl negeseuon yn gyson â’r camau y mae’r Brifysgol yn eu cymryd yn ganolog ynghylch trefniadau academaidd (ac wedi’u haddasu’n briodol ar gyfer Partneriaid Cydweithredol);
- bod modd darparu’r holl gyfarwyddyd y gall fod ei angen ar Bartneriaid Cydweithredol mewn fformat cyson a chefnogol;
- bod goruchwylio canolog ar unrhyw addasiadau neu randdirymiadau y mae angen eu gwneud mewn asesiadau/rhaglenni gan Bartneriaid Cydweithredol;
- bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn modd cyson nad yw’n arwain at orlwytho gwybodaeth a/neu faich gweinyddol ychwanegol i staff Sefydliadau Partneriaid Cydweithredol.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau brys neu angen am eglurhad i’r Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol er mwyn sicrhau y gallwn ymateb mewn modd cyson a threfnus. Bydd y Swyddfa yn sicrhau bod Arweinyddion Timau Partneriaeth yn cael eu copïo i mewn i unrhyw ohebiaeth, er mwyn iddynt fod yn llwyr ymwybodol o’r hyn sydd wedi’i drafod/gytuno.
Mae gan y Brifysgol bortffolio amrywiol o Bartneriaid Cydweithredol, sydd oll ar gamau gwahanol wrth ymateb i’r pandemig cyfredol. Felly blaenoriaeth y Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol yw bod mor gefnogol iddynt â phosibl a chasglu pa wybodaeth bynnag sy’n angenrheidiol, er mwyn i ni asesu’r sefyllfa sy’n datblygu’n barhaus, a’r effaith bosibl y gallai’r hinsawdd gyfredol ei chael ar barhad busnes i’r Partneriaid Cydweithredol ac i’r Brifysgol ei hun.
Mae gwybodaeth ar gyfer Partneriaid Cydweithredol yn cael ei choladu a bydd ar gael ar wefan y Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol https://www.uwtsd.ac.uk/collaborative-partnerships/.