Diweddarwyd diwethaf 07 Ebrill 2022


Gwiriwch y wefan hon yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cyngor diweddaraf.

O safbwynt unrhyw ymholiadau eraill nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin hyn, dylech drafod gyda'ch rheolwr llinell neu e-bostiwch Cyfathrebu-Communications@uwtsd.ac.uk 

Dylid cyfeirio ymholiadau myfyrwyr yn ymwneud â Hwb hwb@pcydds.ac.uk


Cyfyngiadau Presennol  

Canllawiau Presennol

Ceir gwybodaeth ac arweiniad manwl ynghylch y sefyllfa bresennol ar wefan Llywodraeth Cymru. Ceir cyngor Covid-19 ar gyfer Lloegr ar wefan Llywodraeth San Steffan.


Gweithio ar y Campws

Beth ddylwn i ei wneud os bydd myfyriwr yn fy hysbysu ei fod wedi datblygu symptomau neu ei fod yn gyswllt agos ag achos positif?

Os yw myfyriwr yn eich hysbysu ei fod wedi datblygu symptomau COVID-19 neu eu bod yn gyswllt agos ag achos positif, gofynwch iddynt ddilyn canllawiau ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru neu ddilyn canllawiau Llywodraeth San Steffan ar gyfer pobl sy'n byw yn Lloegr.

Os oes angen iddyn hunan-ynysu, dylid eu hatgoffa hefyd bod angen iddynt lenwi'r ffurflen hunan-ynysu myfyrwyr, ac yn dilyn hyn rhoddir cyngor pellach iddynt.

E-bostiwch covid-19@uwtsd.ac.uk i'n hysbysu am yr achos neu sefyllfa debyg.

Beth alla i ei wneud i gadw fy hun ac eraill yn ddiogel wrth weithio ar y campws?

Mae nifer o fesurau diogelwch wedi bod ar waith ar y campws yn ystod y pandemig a bydd y Brifysgol yn dal i ddefnyddio dull ar sail asesiadau risg i sicrhau amgylchedd gwaith diogel.  

Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy'n gymwys i fanteisio ar gyfle i gael brechiad  neu bigiad atgyfnerthu  i wneud hynny. 

Gofynnwn i aelodau ein cymuned barhau i ddilyn y canllawiau canlynol wrth weithio ar y campws:

  • cynghorir profion llif ochrol (LFT) i bawb ar y safle gyda chitiau LFT am ddim ar gael o'r derbynfeydd.
  • gwneud defnydd o'r gorsafoedd glanweithdra ar y campws a golchi'ch dwylo'n rheolaidd
  • defnyddiwch y Ffurflen Hunan-ynysu Staff i ddweud wrthym a ydych wedi cael eich cynghori i aros gartref.

Rydym yn annog unrhyw un sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechiad neu atgyfnerthiad i wneud hynny.

A fydd y Brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i mi barhau i wisgo gorchudd wyneb?

Nid oes gofyniad ar staff a myfyrwyr i wisgo gorchuddion wyneb dan do ar y campws, gan gynnwys mannau addysgu a dysgu.

Mae gorchuddion wyneb ar gael yn y derbynfeydd os bydd angen un arnoch. neu atgyfnerthiad i wneud hynny.

Pa drefniadau profi sydd ar waith pan fyddaf yn gweithio ar y campws?

Mae’r Brifysgol yn annog staff a myfyrwyr i wneud profion Llif Unffordd. Fe’u cynigir gan y Brifysgol a gellir eu casglu fel y nodir isod.  Mae gwybodaeth bellach ynghylch profion llif unffordd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan Llywodraeth y DU.

Mae staff bellach yn gallu casglu citiau prawf cartref Coronafeirws o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 2pm, o'r safleoedd canlynol:

  • Llambed - Derbynfa Caergaint
  • Caerfyrddin - Derbynfa Dewi
  • Abertawe - Bob Derbynfa
  • Caerdydd - Y Gofrestrfa
  • Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
  • Derbynfeydd Llundain a Birmingham

 


Profi symptomig a hunanynysu

Rwyf wedi datblygu symptomau neu wedi profi’n bositif am y Coronafeirws, beth ddylwn i ei wneud?

Os nad ydych ar gampws y Brifysgol dylechi:

Os byddwch yn datblygu unrhyw un o symptomau’r Coronafeirws neu profi'n bositif tra yn y brifysgol, ni waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi wneud y canlynol:

Os ydych yn teimlo'n ddigon da, ac yn gallu gweithio o bell, gallwch wneud hynny trwy gydol y cyfnod aros adref. Os byddwch yn mynd yn sâl ac yn rhy sâl i barhau i weithio, dylech roi gwybod i'ch rheolwr eich bod yn sâl a bydd y gweithdrefnau absenoldeb salwch arferol yn berthnasol. Os profwch yn bositif am Coronafeirws yn ystod y cyfnod hwn dylech hysbysu eich rheolwr llinell a diweddaru'r Ffurflen Hunanynysu Staff.

Pryd alla’i ddychwelyd i weithio ar y campws ar ôl cael prawf Coronafeirws positif?

Dylech ddilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru os ydych yn byw yng Nghymru, neu gyfarwyddyd llywodraeth San Steffan os ydych yn byw yn Lloegr.

Os byddwch yn cael eich cynghori i aros gartref, defnyddiwch y Ffurflen Hunan-ynysu Staff i roi gwybod am eich hunanynysu a hysbysu eich rheolwr llinell. Dylech gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â’ch rheolwr llinell a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am eich statws iechyd. Bydd eich rheolwr llinell yn cynnal trafodaeth dychwelyd i’r gwaith gyda chi i wneud yn siŵr eich bod yn ddigon iach i ddychwelyd i’ch dyletswyddau ac i weld a oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch.

Beth yw’r diffiniad o gysylltiad agos?

Yng nghyfarwyddyd y llywodraeth diffinnir cysylltiadau agos fel a ganlyn:  

  • cyswllt wyneb yn wyneb gan gynnwys rhywun yn pesychu arnoch neu gael sgwrs o fewn 1 metr
  • cyswllt corfforol croen â chroen am unrhyw gyfnod o amser
  • cyswllt o fewn 1 metr am funud neu fwy heb gyswllt wyneb yn wyneb
  • cyswllt o fewn 2 fetr â rhywun am fwy na 15 munud (fel cyswllt un-tro, neu wedi’u hychwanegu at ei gilydd dros 1 diwrnod)
  • wedi teithio yn yr un cerbyd neu awyren
  • unrhyw un sy’n byw ar aelwyd â phrawf llif unffordd neu PCR positif ar gyfer COVID

Dylech ddilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru os ydych yn byw yng Nghymru, neu gyfarwyddyd llywodraeth San Steffan os ydych yn byw yn Lloegr.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd rhywun sy’n byw gyda mi yn cael symptomau Covid-19 neu’n cael prawf positif?

Os ydych chi'n gyswllt agos â rhywun sy'n derbyn prawf positif, bydd y broses hunan-ynysu a phrofi yn dibynnu ar:

  • eich statws brechu
  • eich oedran
  • eich galwedigaeth
  • lle rydych yn byw

Dylech ddilyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru os ydych yn byw yng Nghymru, neu gyfarwyddyd llywodraeth San Steffan os ydych yn byw yn Lloegr.

Os ydych yn cael eich cynghori i aros gartref dylech ddefnyddio’r ffurflen hunanynysu i staff i roi gwybod eich bod yn hunanynysu a dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell. Os ydych yn parhau i fod yn ddigon iach, ac yn gallu gweithio o bell, gallwch wneud hynny gydol y cyfnod hunanynysu. 

Os byddwch yn mynd yn sâl ac rydych yn rhy sâl i barhau i weithio, dylech roi gwybod i’ch rheolwr eich bod yn sâl a bydd y gweithdrefnau arferol o ran absenoldeb oherwydd salwch yn berthnasol.  Os cewch brawf Coronafeirws positif yn ystod y cyfnod hwn dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell a diweddaru’r ffurflen hunanynysu i staff.


Gweithio Hybrid

Pa gymorth sydd ar gael i mi wrth imi barhau i weithio o bell?

Cyfeiriwch os gwelwch yn dda at bolisi gweithio gartref dros dro’r Brifysgol a gyhoeddwyd ar MyDay mewn fformat PDF.

Mae ein tîm Thechnoleg a Systemau Gwybodaeth (TaSG ) wedi creu safle penodol sy'n cynnwys gwybodaeth berthnasol ynghylch manteisio ar wasanaethau TG wrth weithio gartref.

Gall staff hefyd fanteisio ar amrywiaeth o gyrsiau a hyfforddiant a dysgu ar-lein drwy MyMentor

Sut mae cael mynediad i Wasanaethau TG PCYDDS oddi ar y campws?

Mae TaSG wedi llunio gwybodaeth a chyfarwyddyd pellach ar weithio o gartref ar eu gwefan benodedig. Mae hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i gael mynediad i systemau TG allweddol y bydd eu hangen arnoch i weithio o gartref.

Os bydd arnoch angen cyngor neu gymorth pellach ewch i dudalennau Desg Wasanaeth TG am wybodaeth cysylltu, neu ewch i hafan Technoleg a Systemau Gwybodaeth i gael gwybodaeth fwy cyffredinol ar y Gwasanaethau TG a gynigir.

Wrth weithio o gartref, beth ddylwn i feddwl amdano o ran defnyddio cyfrifiadur PC / gliniadur?

Gallwch ddarllen y cyfarwyddyd Iechyd a Diogelwch a dod o hyd i wybodaeth, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gydosod yn gywir gweithfan gartref, ar y dudalen Offer Sgrin Arddangos sydd ar SharePoint.

GDPR a sut mae’n berthnasol i weithio gartref

Cyflwyniad

Yn y cyfnod anodd hwn, argymhellir ein bod yn gweithio o bell, fodd bynnag mae hyn yn dod â buddion sylweddol ond risgiau posibl hefyd.  Efallai bod gan staff fynediad o bell i wybodaeth a gedwir ar weinyddion diogel ar y campws, ond mae hyn heb yr amddiffynfeydd ffisegol sydd ar gael ar y safle a’r amddiffynfeydd a ddarperir ar gyfer y rhwydwaith gan waliau tân a rheoli mynediad.  Hefyd mae risg lawer yn uwch o ran mynediad heb awdurdod i ddata, a cholli neu ddifrodi’r data hynny, wrth weithio fel hyn.

Ydy’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn berthnasol os ydw i’n gweithio gartref?

Ydy, os ydych yn prosesu data personol adnabyddadwy unrhyw unigolyn byw yn rhan o’ch dyletswyddau dan gyfarwyddyd, rhaid gwneud hyn yn unol â GDPR. Mae hyn yn cynnwys data ar bapur.

Beth dylwn i ei wneud pan fyddaf yn gweithio gartref?

Wrth weithio gartref rhaid i chi sicrhau bod eich cyfrifiadur wedi’i ddiogelu’n briodol gyda’r feddalwedd wrthfeirysol a gwrthfaleiswedd ddiweddaraf wedi’i gosod.  Peidiwch ag ysgrifennu’ch Enw Defnyddiwr a’ch Cyfrinair er mwyn eu gwneud yn haws eu cofio. 

Peidiwch â gadael y sgrin ymlaen pan na fyddwch bellach yn defnyddio’r cyfrifiadur oherwydd gallai hyn adael i ddata sensitif gael eu gweld gan bobl eraill.  Pan fo’n bosibl dylech ddefnyddio cysylltiad diogel megis Direct Access, VPN neu Citrix (os y’u darperir) i gael mynediad i ffeiliau a’u cadw. 

Pan fyddwch wedi gorffen gweithio gwnewch yn siŵr eich bod yn cau pob cymhwysiad rydych wedi bod yn ei ddefnyddio, yn enwedig y cysylltiad diogel rydych o bosibl wedi’i sefydlu’n flaenorol.

Pan fyddaf yn gweithio gartref o ble dylwn i weithio?

Dylech sicrhau eich bod yn cynnal lefel o breifatrwydd wrth weithio gartref sy’n debyg i’r lefel y byddech yn ei chynnal yn eich gweithfan arferol.  Dylech sicrhau drwy’r amser nad yw’n bosibl i unrhyw un arall weld eich sgrin pan fo’n bosibl. 

Mae angen i mi anfon ffeil sy’n cynnwys data personol at aelod arall o staff, beth dylwn i ei wneud?

Yn hytrach nag anfon y ffeil data byddai’n well defnyddio cymhwysiad megis Microsoft OneDrive neu Teams i roi mynediad i’r ffeil yn y fan a’r lle.  Os na allwch wneud hyn, peidiwch ag anfon y ffeil data i gyfeiriad e-bost personol oherwydd byddai hyn yn cael ei ystyried yn dor diogelwch data, a dylech sicrhau bod y ffeil wedi’i hamgryptio cyn ei hanfon.   

Beth dylwn i ei wneud os caf e-bost sy’n cynnwys atodiad sy’n cynnwys Data Personol?

Cyn agor unrhyw ffeil rhaid i chi fod yn sicr ei bod  wedi’i hanfon o ffynhonnell ddilys.  Dylid cymryd gofal arbennig i sicrhau, pryd nad oes angen y data bellach, ei bod yn cael ei dileu o’ch dyfais leol.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw ffeiliau sydd wedi’u cadw’n awtomatig yn rhan o’r broses lawrlwytho.

Rwy’n amau bod Tor Diogelwch Data wedi digwydd tra oeddwn yn gweithio gartref, beth dylwn i ei wneud?

Os byddwch yn amau bod tor diogelwch data wedi digwydd tra oeddech yn gweithio gartref, dylech adrodd yn ôl am y tor diogelwch data posibl i’ch Swyddog Diogelu Data.   Wedyn ymchwilir i’r tor diogelwch data posibl  ac mae’n debyg y cysylltir â chi eto yn ystod yr ymchwiliad i gael gwybodaeth bellach.