Hafan YDDS - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Am y Gyfadran
Mwynhewch brofiad ysgol gelf mewn prifysgol gyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe, sy’n rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Rydyn ni’n parchu ac yn dathlu ein traddodiadau, a dyna pam rydyn ni wedi cadw offer a phrosesau traddodiadol. Rydyn ni hefyd yn flaengar ein meddwl, ac mae ein hadeiladau’n gyforiog o dechnoleg newydd.
Rydyn ni’n ymfalchïo yn y profiad a gaiff myfyrwyr, mae gobeithion graddedigion yn bennaf yn yr hyn a gynigiwn ac mae’r amser cyswllt a gaiff y myfyrwyr gyda’r staff hefyd gyda’r uchaf yn y wlad.
Mae Abertawe yn lle gwych i astudio Celf a Dylunio, dinas glan môr, sy’n cofleidio grym creadigol dŵr: yn ddigon mawr i gynnig i chi’r lle y mae arnoch ei angen; yn ddigon bach i wneud i chi deimlo eich bod chi’n perthyn.
Hefyd, ar hyn o bryd ni yw’r 12 sefydliad gorau yn y DU am Gelf a Dylunio (The Times & Sunday Times Good University Guide 2021), y 1af yng Nghymru a’r 8th yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau, a’r 1af yng Nghymru a’r 3rd yn y DU am Ddylunio a Chrefft (Tabl Cynghrair y Guardian, 2021) – gweler pob un.
Dechrau eich taith greadigol yng Ngholeg Celf Abertawe.
Cysylltu â ni
E-bost: artanddesign@uwtsd.ac.uk
Ffôn: 01792 481000

Rydym yn cynnig cyrsiau mewn Celf, Dylunio, y Cyfryngau, Cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio ar lefel sylfaenol, gradd ac ôl-raddedig.

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys ein Sioeau Haf, symposia graddedigion a digwyddiadau diwydiant.

Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys Mark Eley o gwmni ffasiwn a dylunio byd-eang Eley Kishimoto a Karen MacKinnon – Cyfarwyddwr Artes Mundi.

Mae pob un o’n cyrsiau yn manteisio ar dîm o staff sydd â chymwysterau uchel ac sy’n weithgar yn eu meysydd arbenigol.

Rydym yn cynnig diwrnod agored a Diwrnodau Blasu gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn croesawu grwpiau ysgol ac unigolion ar adegau eraill, cysylltwch â ni i gael manylion.

Cyhoeddiadau Coleg Celf Abertawe gan gynnwys ein llyfr Celf a Dylunio, canllaw cyfweliadau a chatalogau Sioeau Haf.

Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau ymgysylltu sy’n cynnig cyflwyniad i brofiad coleg celf mewn lleoliad prifysgol fodern.

Mae Coleg Celf Abertawe yn falch dros ben o arddangos gwaith ein myfyrwyr yn y Sioeau Gradd Haf!