Hafan YDDS  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Coleg Celf Abertawe  -  Celf Gain  -  Astudiaethau Achos Celf Gain

Rydym yn ffodus iawn i fod â chysylltiadau gydag orielau sefydledig ar draws y DU ac mae myfyrwyr yn cael profiadau proffesiynol gwerthfawr yn rhan o’u Hastudiaethau Proffesiynol a’u Prosiect Mawr / Cyswllt Allanol. Mae myfyrwyr wedi gweithio gyda Gwobr Ryngwladol Artes Mundi a’r Venice Biennale.

Yn ogystal, mae myfyrwyr wedi trefnu arddangosfeydd o’u gwaith mewn lleoliadau allanol o gwmpas Abertawe.

Mae pob myfyriwr yn arddangos ei g/waith drwy gydol eu cwrs sy’n dod i’w anterth yn eu sioe gradd yn y flwyddyn olaf. Mae’r math hwn o gyfle’n aml yn arwain ar bosibiliadau gyrfaol cyffrous.

Mae graddedigion Celf Gain diweddar wedi mynd ymlaen i ddilyn ystod o opsiynau gyrfaol, gan gynnwys artist ar ei liwt ei hun, arfer celf gweledol, gweinyddu’r celfyddydau, curaduron yn ogystal â datblygu mentrau a arweinir gan artistiaid.

Alex Duncan

Alex Duncan Work

Mae graddedigion Celf Gain diweddar wedi mynd ymlaen i ddilyn ystod o opsiynau gyrfaol, gan gynnwys artist ar ei liwt ei hun, arfer celf gweledol, gweinyddu’r celfyddydau, curaduron yn ogystal â datblygu mentrau a arweinir gan artistiaid. Magwyd Alexander Duncan yn Abertawe lle buodd yn astudio ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen cyn cwblhau ei BA mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe yn 2007. Pan raddiodd, cydweithiodd Alex gydag un o’i gyd-raddedigion, Jonathan Anderson, ar nifer o sioeau dau-berson gan gynnwys ‘Real Estate’ yn Elysium. Yn 2011, ddim yn hir ar ôl symud i Lundain, cafodd Alex ei sioe unigol cyntaf ‘Surge’ yn Oriel Mission. 

Aeth Alex yn ei flaen i astudio MA mewn Cerflunio yn y Coleg Celf Brenhinol yn 2015, yr un flwyddyn a chafodd ei ddethol am y ‘London Open’ yn Oriel Whitechapel a rhoddwyd iddo Wobr Wakelin gan Oriel Gelf Glynn Vivian. Yn 2017, cafodd Alex ei sioe unigol ryngwladol cyntaf ‘Blow’ yn Oriel Aldama Fabre, Bilbao. Mae’n gweithio rhwng Abertawe a Llundain lle mae ei stiwdio ac mae’n cyd-gyfarwyddo man prosiect, ArtLacuna. “Mae’r staff addysgu’n wirioneddol gofalu am eu myfyrwyr ac yn llwyddo i ddod o hyd i gryfderau unigol pob myfyriwr er mwyn datblygu eu set sgiliau.”

Erin Rickard

Erin Rickard work

Ers graddio rwyf wedi cael ystod eang o brofiadau, galluogodd y sgiliau a’r wybodaeth a ddatblygais yn ystod fy ngradd i mi weithio fel Cydlynydd Prosiect ar gyfer y sefydliad celfyddydau rhyngwladol Locws International, yn ogystal â swyddog cyfryngau gweledol a marchnata Theatr Volcano ac wedyn Oriel Gelf Glynn Vivian. Bu’n bleser o’r mwyaf cefnogi artistiaid rhyngwladol fel David Nash, Eddie Ladd a Bedwyr Williams.

Ymhlith y rolau hyn rwyf wedi parhau â’m harfer fy hun fel artist gweledol, gan arddangos mewn orielau a mannau cyhoeddus wrth weithio fel artist preswyl yng Nghymru, Gwlad Belg a’r Eidal. Ar hyn o bryd, rwy’n datblygu fy arfer curadurol, llynedd gweithiais gyda Josef Herman Art Foundation ac Amgueddfa Abertawe i guradu arddangosiad o arteffactau ochr yn ochr â gwaith celf Josef Herman gan gynnwys paneli’r Glowyr a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer Gŵyl Prydain ym 19

Catherine Angle

catherine-angle-800-480

“Rwyf wedi bod yn gweithio yn Chapter ers 2012 a dechreuais ar gychwyn EXPERIMENTICA 2012:UNSEEN, ein Perfformiad 5 diwrnod a gŵyl Live Art - does dim yn well na bwrw iddi’n syth.  Ers hynny, bun ddiddiwedd yn curadu arddangosfeydd yn rhan o’n rhaglen ‘Art in the Bar’, yn gweithio ar brosiectau oddi ar y safle fel ‘Love me or Leave me Alone’ Heather ac Ivan Morrison ym Mae Caerdydd ac yn fwy diweddar yn gweithio fel Rheolwr Prosiect ar 'Cymru yn Fenis', yn cyflwyno ‘James Richards: Music for the gift’ gyda’r Curadur Hannah Firth”.

Katherine Ridgeway

katherine-ridgeway-800-480

Katherine Ridgeway – Swyddog Addysg yn yr Oriel Mission, Abertawe

Mae Kat Ridgway yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu ystod o weithgareddau, digwyddiadau a mentrau newydd oddi mewn i Raglen Addysg Oriel Mission i’w cydblethu’n agos â’r arddangosfa a’r mannau crefftau. Mae hi’n rhan o waith allgymorth ymgysylltu a chyfranogi cymunedol ar draws amrywiaeth o ffurfiau a gweithiau celf gydag artistiaid ac addysgwyr, bob tro yng nghyd-destun ethos Oriel Mission 

Scott Mackenzie

Scott Mackenzie Fine art work

Mae gradd Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe wedi darparu platfform i gymryd rhan mewn arddangosfeydd a phreswylfeydd ar draws y DU ac i ddychwelyd ddwy flynedd yn ddiweddarach fe Artist Stiwdio. Defnyddir fy amser yng Ngholeg Abertawe i archwilio i brosesau a defnyddiau gwahanol, i herio fy hun a bod yn rhan o amgylchedd celf dynamig. Mae syniadau’n pennu’r dechneg a’r corff o waith sy’n dod i’r amlwg ac yn amgylchynu popeth o baentio i fideo, darlunio i  osodwaith, ond mae gwaith diweddar yn canolbwyntio ar feddwl am gerflunwaith fel paentiadau a phaentiadau fel cerflunwaith yn ymdrin â materion fel dadleoli, dieithriad ac unigrwydd mewn diwylliant cyfoes.

Doireann Cott

Doireann Cott

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio yn y Royal Academy of Arts fel cynorthwyydd i’r Cyfarwyddwr Artistig. Wedi astudio ar y rhaglen Celf Gain yn Abertawe, arhosais am flwyddyn ychwanegol fel Artist Preswyl y cwrs. Yn dilyn hyn, astudiais Radd Meistr mewn Estheteg a Hanes Celf ym Mhrifysgol Coleg Cork. Ar ôl ei chwblhau ymgymerais â Chymrodoriaeth Guradurol yn Oriel Glucksman ar y campws. Gan ddychwelyd i’m gwreiddiau cerfluniol a’m cariad at y gweithdy, derbyniais swydd yn y Ffatri Cerflunio Cenedlaethol yn Cork, wrth addysgu Celf a Hanes Celf yn fy hen ysgol uwchradd. Yna, penderfynais symud i Lundain! 

Mae byw yn Llundain yn addysg gelf ei hun, mae’r ddinas fel petai’n treiddio i’n cyrff ac addysgu ein golwg. Gan ffeindio fy nhraed eto, dechreuais arlunio. Cariad a ddatblygwyd drwy hyfforddiant ac arweiniad Sue Williams Y Drindod. Mynychais gwrs nos yn yr Ysgol Ddarlunio Brenhinol gan dreulio wythnosau o’m gwyliau haf yno’n archwilio i natur arlunio ei hun. 

Mae fy rôl diweddar yn yr Academi ar adeg ryfedd yn hanes y sefydliad cysegredig hwn, a sefydlwyd gan artist yn 1768 ac sy’n dal i gael ei redeg gan artistiaid heddiw, sef estyniad ac agor campws newydd ochr yn ochr â ffocws parhaus ar greu’r lle gorau ar gyfer celf a syniadau, wedi cynnig platfform ar gyfer gyrfa gelf gyffrous yn y dyfodol.

Geraint Ross Evans

Gerain Ross Evans

Ganed Geraint Ross Evans yn 1988 yng Nghaerffili ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd, Cymru. Ar ôl graddio o’r Drindod Dewi Sant yn 2009 gyda BA (Anrh) mewn Celf Gain; daeth Geraint i weithio’n agos gyda sîn gelf De Cymru, yn fwyaf nodedig gyda chyn oriel a stiwdios TactileBosch yng Nghaerdydd. Yn dilyn ei arddangosfa unigol cyntaf, symudodd Geraint i Lundain lle dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i astudio yn y Royal Drawing School, ar eu rhaglen ôl-radd The Drawing Year (2014-15). Ar ôl ei gwblhau, dyfarnwyd iddo’r Wobr Cyfarwyddwr ac yn fuan wedyn, Gwobr Richard Ford o’r Gronfa Richard Ford (Royal Academy of Arts) i astudio’r paentiadau yn Amgueddfa Prado ym Madrid. Erbyn hyn, mae stiwdio Geraint yng Nghaerdydd; mae’n parhau i weithio ac addysgu rhwng Caerdydd a Llundain.

Yn rhan o gyfadran yr Ysgol Ddarlunio Frenhinol, mae Geraint yn addysgu’n rheolaidd ar gampws Trinity Buoy Warf ar y Flwyddyn Sylfaen ac mewn lleoliadau eraill ar draw Llundain gan gynnwys; yr Amgueddfa Brydeinig a’r Oriel Genedlaethol, fel tiwtor Rhaglen Artistiaid Ifanc. Yn aml, mae Geraint yn cefnogi’r Flwyddyn Ddarlunio ar eu sesiynau Rhaglen Craidd Mercher; gweithdy lefel ôl-radd a addysgir gan aelodau’r uwch gyfadran. Fel Llysgennad Myfyrwyr RDS, mae Geraint hefyd yn teithio i brifysgolion ar draws y wlad, i siarad gyda myfyrwyr celf gain a darlunio am ei arfer a’i brofiad o astudio ar y Flwyddyn Ddarlunio.