Hafan YDDS  -  Sefydliadau ac Academïau  -  Coleg Celf Abertawe  -  Celf Gain  -  Cyfleusterau Celf Gain

Fine art- workshop

Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol.

Mae ein cyfleusterau rhagorol hefyd yn cynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherameg, yn ogystal â thorwyr laser a chwistrell ddŵr a mynediad i stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll, dosbarthiadau darlunio byw a chyfleusterau gwneud printiau. 

Mae’r ardal gwneud printiau’n cynnwys offer ar gyfer ysgythru, torri lino, monobrintio a phrintio sgrîn sidan. Mae gan y gweithdy metel dorwyr plasma ac offer weldio a sgwrio â thywod. Mae’r gweithdy resin yn cynnwys ardal plastr a mowldio ac yn defnyddio prosesau diwydiannol. Caiff yr odynau yn y stiwdio cerameg hefyd eu defnyddio ar gyfer ffiwsio gwydr.

Mae’r torrwr chwistrell dŵr yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio ac arbrofi ymhellach gyda metel, carreg, gwydr, pren a ffelt. Yn ogystal â’r ystafell darlunio bywyd, mae’r adran hefyd yn cynnwys stiwdios mawr a hyblyg ar gyfer pob myfyriwr.