Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Celf Gain - Staff Celf Gain
Sue Williams
Mae Sue yn gweithio gyda materion heriol a chythruddol yn gysylltiedig â chenedl a rhywioldeb trwy osodwaith darlunio a phaentio mawr. Mae ei gwaith wedi ymestyn i’r theatr/perfformio a ffilm.
Mae hi wedi cyflawni enwogrwydd rhyngwladol gyda’i gwaith yn cael ei ddewis ar gyfer Artes Mundi 2006, fel derbynnydd nifer o wobrau mawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyrff ariannu eraill ac mae’n arddangos ar hyd a lled y byd.
Rhwng 2016-2017 dangoswyd ei gwaith yn yr Almaen, Madrid, India, Awstralia a Chanada. Yn 2015 cafodd wobr fawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gwaith ar y cyd â chardiolegydd rhyngwladol ar gamweithredu rhywiol.
Y flwyddyn hon fe fydd yn gweithio ar gyhoeddiad newydd o’i gwaith ar y cyd â’r artist, ysgrifennydd a damcaniaethwr Dr. Marilyn Allen.
Craig Wood
Gellir disgrifio gwaith Craig fel safle-benodol neu safle-sensitif. Mae ei arfer wedi esblygu o fod yn safle-benodol pensaernïol ar ddechrau’r 1990au, i mewn i ymchwiliad ag arlliw i sefyllfaoedd cymdeithasol a diwylliannol. Mae’n gweithio’n aml yn y man arddangos yn hytrach na mewn stiwdio.
Daeth i’r amlwg yn rhan o’r genhedlaeth YBA cychwynnol ar ddechrau’r 1990au ac mae wedi derbyn y breswyliaeth DAAD mawreddog ym Merlin a bu’n Gymrawd Gregory mewn Astudiaethau Cerfluniol gyda’r Henry Moore Foundation ym Mhrifysgol Leeds, 1997- 2000.
Ers 1995, mae wedi bod yn gweithio o De Orllewin Cymru sydd wedi bod yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith. Mae’n arddangos ei waith yn gyson yn genedlaethol a rhyngwladol.