
Hafan YDDS - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Dylunio Graffig
Mae Dylunio Graffig yn rhan annatod o’n diwylliant gweledol ac mae dylunwyr graffig proffesiynol yn chwarae rhan allweddol fel prif gynhyrchwyr diwylliannol. Mae dylunwyr graffig yn creu, trin a rhoi ffurf weledol i eiriau a delwedd er mwyn hysbysu, dwyn perswâd, rhoi pleser – ac weithiau ysgytio.
Mae’r rhaglen yn rhoi ichi addysg eang mewn dylunio graffig, a gan fod elfen o hyblygrwydd yn perthyn i’r rhaglen, mae’n eich galluogi i ddilyn diddordebau unigol, boed y rheiny ym maes graffeg gorfforaethol a hunaniaeth brand, cyhoeddi, dylunio cyffredinol ar gyfer argraffu, pecynnu neu ddylunio rhyngweithiol ar sgrin.