
Hafan YDDS - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Dylunio Patrwm Arwyneb
Diben y portffolio Dylunio Patrwm Arwyneb yw creu arwynebau a strwythurau cyffrous ac arloesol, sy’n ystyried lliw, gwead, delwedd a chysyniad o fewn cyd-destun arfer dylunio cyfoes.
Gall y byd i gyd fod o’ch blaen chi drwy’r cwrs hwn. Mae gennym ystod anhygoel a rhagorol o offer digidol a chyfleusterau gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiadura moethus, torwyr ac ysgythrwyr laser, argraffwyr tecstil digidol, a brodwr digidol a thorrwr chwistrell dŵr. Mae ein hoffer annigidol yr un mor nodedig, gyda chyfleusterau llawn ar gyfer lliwio, printio sgrin, pwytho, gwaith metel a llawer mwy. Yn ogystal â hyn, bydd gennych eich lle personol eich hun yn ein stiwdio fywiog, olau ac awyrog sydd â lle i bob un o bedair blynedd y cwrs.