Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Ffilm a Theledu - Astudiaethau achos Ffilm a Theledu
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i rolau cynhyrchu ar draws y diwydiant ffilm a theledu, gyda graddedigion diweddar yn gweithio ar brosiectau fel Mission Impossible, The Grand Tour, His Dark Materials, Paddington 2, Guardians of the Galaxy a llawer iawn mwy. Mae graddedigion eraill wedi cael swyddi gyda mawrion y diwydiant, gan gynnwys y BBC, Sky, Amazon a Milk VFX. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr hefyd wedi llwyddo fel gweithwyr ar eu liwt eu hunain, neu wedi creu eu cwmnïau cynhyrchu eu hunain.
Dave Clarke
Ers graddio yn 2011, mae Dave Clarke wedi llunio gyrfa lwyddiannus fel Prif Grip yn gweithio ar lu o ffilmiau a sioeau teledu gan gynnwys Paddington 2, Casualty a llawer iawn o rai eraill. Am y 5 mlynedd ddiwethaf, mae e wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Grip ar y cychwyn ac yna’n ddiweddarach fel Grip. Bellach, mae’n gyfrifol am yr adran Grip, gan ddarparu cefnogaeth a datrysiadau rigio i’r adran camerâu. O offer syml fel trybeddau a phennau camerâu i gyfuniadau trac a doli mwy cymhleth yn ogystal â rigiau car a chraeniau.
Josie Morgan
Wedi gweithio ar ffilmiau mawr fel Fury a chyfres Mission Impossible.
Nick Perry & Dan Williams
Ffurfiwyd Copper Films ganddynt, ac mae eu ffilm mawr cyntaf Heart of Steel wrthi’n cael ei ôl-gynhyrchu.
Siri Vålberg Saugstad
Ffotograffydd Newyddion a golygydd ar gyfer NRK, Norwy.