Ydds Hafan  -  Ein Hysgolion a'n Cyfadrannau Academaidd  -  Coleg Celf Abertawe  -  Ffilm a Theledu  -  Cyfleusterau Ffilm a Theledu

Mae gan y cwrs gyfleusterau ac offer rhagorol ar gyfer cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu ffilm a theledu. Er mwyn cynhyrchu lleoliadau, gall myfyrwyr ddefnyddio ystod eang o offer camerâu HD, HD DSLR, XD-CAM a 4K, gan gynnwys camerâu Canon a RED, gyda chitiau lens pennaf, ynghyd â chitiau goleuo Kino, Arri a Dedo ac offer recordio sain. Gallwch hefyd defnyddio llithryddion camera proffesiynol, rigiau ysgwydd, trac a throliau a systemau Steadicam i greu symudiadau camerâu llyfn. 

Film facilities 2

Ar gyfer ôl-gynhyrchu, mae gan holl offer y Gyfadran feddalwedd cynhyrchu ffilm a theledu o safon diwydiant gan gynnwys Adobe Creative Suite (gan gynnwys Premiere, Photoshop, After Effects), ProTools a DaVinci Resolve.  Mae’r systemau golygu hyn yn delio â ffilm manylder uwch heb ei gywasgu mewn amser real.

Film facilities 3

Yn ogystal, mae llawer o gyfrifiaduron yn cynnwys meddalwedd arall cynhyrchu ffilm a theledu o safon diwydiant gan gynnwys Final Draft, MovieMagic Scheduling a MovieMagic Budgeting. Hefyd, mae gan yr adran sgrin plasma mawr a 3D LED  a thaflunwyr digidol ar gyfer dangos y gwaith arnynt.

Film facilities 1