Hafan YDDS - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Ffilm a Theledu - Ffilm a Theledu - Cysylltiadau Diwydiannol
Drwy fod yn fyfyriwr ar ein cwrs Ffilm a Theledu byddwch yn elwa o gysylltiadau gyda nifer o brif sefydliadau’r diwydiant, gan gynnwys BAFTA, RTS, Copper Films a Bad Wolf. Byddwch yn mynychu teithiau astudio ar draws y DU a thu hwnt, yn ymweld â stiwdios, tai cynhyrchu a lleoliadau set, gan roi ichi brofiad ac ysbrydoliaeth.
Anogir ein myfyrwyr i gyflwyno eu ffilmiau i ddigwyddiadau a gwyliau’r diwydiant a chânt eu henwebu am wobrau’n aml – eleni, enillodd myfyrwyr dair o wobrau RTS Cymru.
Cewch hefyd gyfle i redeg gŵyl ffilm y cwrs ei hun. Gŵyl Ffilm Copper Coast yw prif ddigwyddiad cyfryngau’r gyfadran, sy’n ennyn diddordeb o bob cwr o’r byd ac sy’n cael miloedd o gyflwyniadau ffilm fer y flwyddyn.