UWTSD Home - Sefydliadau ac Academïau - Coleg Celf Abertawe - Ffotograffiaeth - Astudiaeth Achos Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau
Lāsma Poiša
Lāsma Poiša
Artist lens-seiliedig o Latfia yw Lāsma Poiša, sydd ar hyn o bryd yn byw a gweithio ym Manceinion.
Mae arfer Poiša yn defnyddio dulliau portreadu, hunan-bortreadu a pherfformio trwy ddelweddau llonydd a symudol.
Ers graddio yn 2012, mae gwaith Lāsma wedi cael ei arddangos yn helaeth a chafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar mewn Cylchgrawn yn yr Almaen o’r enw Nido. Mae hi wedi cael nifer o breswyliadau ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ym Mhrifysgol Salford.
Pål Henrick Ekern
Pål Henrick Ekern
Artist a Churadur – yn gweithio ar hyn o bryd yn oriel ffotograffiaeth genedlaethol Norwy, The Preus Museum.
Yn ystod fy astudiaethau yng Ngholeg Celf Abertawe YDDS, bu i mi gwrdd â llawer o ffrindiau da iawn ac fel grŵp o fyfyrwyr buom yn helpu ein gilydd trwy gynnal trafodaethau beirniadol am ein gwaith. Rwy’n dal i fod mewn cysylltiad â llawer o bobl o’r cwrs, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol, gan ein bod yn cynnal prosiectau gyda’n gilydd ac wedi arddangos gwaith gyda’n gilydd ers graddio”
Ossi Piispinen
Ossi Piispinen
Ffotograffydd o’r Ffindir, sy’n gweithio o Lundain Mae’n gweithio ar brosiectau personol ochr yn ochr â gwaith masnachol gyda chleientiaid fel Levi’s, Adidas, Sony, Nike a Jack Daniels.
“Roedd y prosiect mawr yn y 3edd flwyddyn yn bwysig iawn i mi. Drwy gael blwyddyn gyfan i weithio ar brosiect, cefais y rhyddid i roi cynnig ar bopeth, a bu arbrofi a rhannu’r canlyniadau mewn grwpiau seminar yn ddefnyddiol iawn. Mae cael beirniadaeth adeiladol o fewn grŵp yn broses hanfodol wrth ddiffinio eich diddordeb a’ch arddull unigol mewn ffotograffiaeth”.
Johanne Lian Olsen
Johanne Lian Olsen
Dylunydd graffig â phrofiad rhyngwladol sy’n gweithio gyda dylunio teip, dylunio golygyddol a darlunio. Ymhlith y cleieintiaid mae IKEA, Nike ac Unseen.
“Er bod caffael gwybodaeth dechnegol yn rhywbeth rwyf wedi’i ddefnyddio’n helaeth yn fy ngwaith, i mi y peth pwysicaf a ddysgais yng Ngholeg Celf Abertawe oedd y theori y tu ôl i’r ffotograffiaeth. Wrth weithio fel dylunydd rwy’n defnyddio artistiaid a’u defnydd o’r cyfrwng hwn fel cyfeirnod wrth siarad gyda chleientiaid. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y prosiect mawr terfynol amser i mi ddod o hyd i’m iaith weledol a darganfod pwy oeddwn i fel artist”.
Tom Pope
Tom Pope
Artist a chyd-gyfarwyddwr ffotograffig Art Lacuna (link here http://artlacuna.org) yn Llundain.
"Wrth astudio yng Nghole Celf Abertawe YDDS datblygais ymagwedd arbrofol at wneud gwaith. Gan ddefnyddio perfformio ar y cyd â ffotograffiaeth, trawsnewidiais y weithred o droi ffotograff yn ddigwyddiad... Mae’r broses hon o wneud ffotograffau, cofleidio hwyl, siawns ac ailadrodd yn dal i fod yn rhan annatod o’r gwaith rwy’n ei greu nawr.”
Mark Gostick
Mark Gostick
(graddiodd yn 2000)
Gwneuthurwr Ffilmiau a Chynhyrchydd yn Llundain, sy’n gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol fel Marks and Spencer, Pronovias, Vero Moda ac Outnet.