Hafan YDDS  -  Bywyd Myfyrwyr  -  Cyflogadwyedd

Cyflogadwyedd

#OAstudiaethiGyflogaeth

O ran effaith, mae gennym hanes eithaf da. Ni yw Rhif 1 y DU ar gyfer busnesau graddedigion sy’n goroesi (HEBCIS 2020/21), sy’n golygu ein bod wedi cefnogi busnesau newydd graddedigion yn llwyddiannus i ddod yn fusnesau llewyrchus.

Mae gennym hefyd enw da byd-eang hir-sefydlog am fenter ac entrepreneuriaeth – ar ôl cynghori’r Cenhedloedd Unedig a’r Comisiwn Ewropeaidd drwy ein Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol.

Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod bod gan eich datblygiadau arloesol y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Er enghraifft, mae ein Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) wedi bod yn gweithio gyda’r myfyriwr gradd meistr a graddedig Dylunio Cynnyrch PCYDDS Adam Higgins wrth iddo ddatblygu ei ystod o Animal Magic [Hud Anifeiliaid]! Cynhyrchion PreMedPrep, sydd wedi’u hanelu at baratoi plant ymlaen llaw ar gyfer profion gwaed, archwiliadau calon a thymheredd, a defnyddio nebiwlyddion ar gyfer cymryd meddyginiaeth.

Gan wrando ar uchelgeisiau myfyrwyr, rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr i adnabod y galluoedd creiddiol y mae disgwyl i weithwyr newydd feddu arnynt, dadansoddi’r sgiliau a ddisgwylir gan entrepreneuriaid ac ymdrin yn weithredol â thrawsnewid digidol.  

Rydym yn falch o lwyddiannau ein graddedigion ac rydym yn rhannu eu straeon o dan #OAstudiaethiAddysg. Dewiswch astudio gyda ni a byddwn yn edrych ymlaen at glywed eich un chi.


Roedd 94% o raddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach, ar fin cychwyn swydd newydd neu astudiaethau pellach, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel gofalu am rywun, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs - Arolwg data 2019/20 Hynt Graddedigion HESA.