Cymorth a chyngor arbenigol i wneuthurwyr Cymru fabwysiadu technolegau digidol
BETH
Mae Cyflymydd Digidol SMART yn dîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i hybu eu helw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a'i gefnogi gan y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes yna unrhyw gostau ariannol i'r busnesau sy'n cymryd rhan.
PAM
Mae gweithgynhyrchu yn hanfodol i lesiant Cymru yn y dyfodol. Mae angen i ni sicrhau bod ein diwydiant gweithgynhyrchu yn llewyrchus, yn effeithlon, yn gydnerth ac yn ffyniannus.
Gan fod yna gynifer o dechnolegau newydd ar gael, gall fod yn anodd nodi pa rai a fydd yn iawn i'ch busnes, i'ch helpu i ddatrys y problemau yr ydych yn eu hwynebu 'nawr ac y byddwch yn eu hwynebu yn y dyfodol. Ond gyda chymorth Cyflymydd Digidol SMART, gallwch fanteisio ar gyfleoedd newydd, tyfu fel sefydliad, a gwella eich cystadleurwydd.
Mae'r cyfle gwerthfawr hwn i weithgynhyrchwyr yn darparu mynediad at dîm amrywiol o arbenigwyr talentog a phrofiadol sy'n dod o'r byd academaidd ac o fyd diwydiant.
SUT
Mae ein rhaglen yn dilyn tri phrif gam:
- Deall eich sefyllfa bresennol a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol
- Darganfod yr hyn sy'n eich atal rhag cyflawni'r cynlluniau hyn
- Argymell technoleg sy'n briodol i'ch busnes
Bydd ein tîm yn ymweld â'ch cwmni yn unol ag amserlen sy'n gyfleus i'r ddwy ochr, gan weithio gyda chi i ddatblygu dealltwriaeth glir o'ch amgylchiadau presennol a'r heriau gweithredol sy'n eich wynebu. Byddwn wedyn yn nodi lle y gellid defnyddio technolegau digidol i helpu i fynd i'r afael â'ch heriau.
PWY
Mae ein tîm yn cynnwys arbenigwyr o PCYDDS, AMRC Cymru a busnesau yng Nghymru.
Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad â'n gilydd a Llywodraeth Cymru i helpu sefydliadau fel eich un chi i gyflawni newid gwirioneddol a chadarnhaol.
Technoleg
Efelychu Digidol
Gefeillio Digidol
Realiti Estynedig (AR)
Realiti Rhithwir (VR)
Awtomatiaeth
Robotiaid
Cobotiaid
Galluogwyr Cyfathrebu Torfol (EMC)
Technolegau Digidol Diwydiannol
Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Data Mawr
Y Rhyngrwyd Pethau (IoT)
Cysylltedd
5G
Rhwydwaith ardal eang pŵer isel (LPWAN)
Technoleg i ddatblygu prosesau cysylltiedig, deallus
Newyddion a Digwyddiadau

AMRC Cymru yn ymuno â PCYDDS ar genhadaeth i hybu gweithgynhyrchu yng Nghymru
By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART & Matt Booth, AMRC Cymru
Dydd Mercher, Mai 11, 2022

Labordy Seiber-ffisegol Festo PCYDDS ar waith
By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Iau, Mai 5, 2022

PCYDDS yn croesawu arbenigwyr arloesi Llywodraeth Cymru i SA1
By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Iau, Ebrill 28, 2022

Myfyriwr ffilm PCYDDS yn gweithio yn rôl intern i gwmni technoleg twf uchel
By Lucy Beddall, Cyflymydd Digidol SMART
Dydd Mawrth, Ebrill 12, 2022

Ai dychwelyd gweithredoedd adref yw'r ateb i argyfwng byd-eang y gadwyn gyflenwi?
By Dr John R. Thomas
Dydd Iau, Mawrth 24, 2022
Cysylltu
Cyflymydd Digidol SMART
PCYDDS
Campws Glannau Abertawe SA1
Heol y Brenin
Abertawe SA1 8EW
E-bost: accelerator@uwtsd.ac.uk