Poeni am ffioedd? Peidiwch â phoeni, mae cymorth ar gael
Y ffeithiau allweddol yw nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu dim ymlaen llaw ac ni fydd yn rhaid iddynt ei ad-dalu tan y byddant yn ennill dros £27,295 y flwyddyn fel person graddedig.
Os ydych chi’n gymwys am gymorth i fyfyrwyr y DU, byddwch yn ad-dalu’r un faint waeth beth yw’r ffi dysgu.
Ar ôl i chi orffen eich cwrs, tynnir y taliad yn awtomatig o’ch cyflog, os ydych yn gweithio yn y Deyrnas Unedig, yn union fel treth ac yswiriant gwladol.
Beth fydd cost fy nghwrs?
Mae cost eich cwrs yn dibynnu ar nifer o bethau, yn bennaf pa gwrs rydych yn ei ddewis a ble rydych chi’n byw pan rydych yn ymgeisio am y cwrs. Cliciwch isod i ddysgu rhagor:
Ysgoloriaethau a Bwrsarïau
Er bod ffioedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i fyfyrwyr amser llawn o’r Deyrnas Unedig/Undeb Ewropeaidd yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer ein cyrsiau israddedig, mae gennym ystod eang o Ysgoloriaethau a Bwrsarïau sy’n darparu cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr.
Ewch i’n hadran Cymorth Ariannol i gael rhagor o fanylion.