Ymhlith y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys:
- Bwrsarïau’r Brifysgol
- Cronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr PCYDDS (ar gyfer myfyrwyr sydd o dan bwysau’n ariannol)
- Chynllun hepgor ffioedd israddedigion rhan-amser CCAUC
- (ar gyfer rhai myfyrwyr rhan-amser sy’n cael rhai o fudd-daliadau’r Adran Waith a Phensiynau).
Costau Byw Cyllidebu - Cymorth ac Adnoddau
Cynigia’r Brifysgol ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr.
Yn eu plith:
- Cymorth i fyfyrwyr o gefndiroedd isel eu hincwm
- Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog
- Cymorth ar gyfer gadawyr gofal
- Cymorth gyda chostau gofal plant
- Datblygiad Gyrfa a Swyddi Preswyl
- Cymorth â chostau ychwanegol eich cwrs e.e. llyfrau, printio ayyb
Mae pob ysgoloriaeth a bwrsari’n amodol ar wneud cais llwyddiannus trwy Gwasanaethau Myfyrwyr.
Ymweld ein tudalen Ysgoloriaethau a Bwrsarïau
Ffynhonnell cymorth ariannol ychwanegol yw hon i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael Benthyciad Myfyriwr (os yw’n gymwys) ac sy’n dioddef caledi ariannol.
Mae’n rhaid i ymgeisydd brofi hefyd ei fod wedi defnyddio pob ffynhonnell arall, gan gynnwys ei ddarpariaeth gorddrafft yn llawn cyn y gellid ystyried cais.
Bydd gofyn i fyfyrwyr Rhyngwladol ddarparu prawf o sut y mae'r arian a oedd yn ofynnol ar gyfer y visa Tier IV wedi cael ei ddefnyddio a beth sydd wedi achosi'r anhwaster ariannol annisgwyl.
Noder nad oes modd i'r gronfa gynnig cymorth â chostau ffioedd dysgu.
Mae cymorth ariannol ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio o leiaf 40 credyd mewn blwyddyn acdemaidd. Gall myfyriwr wneud cais am arian unrhyw bryd yn ystod y cwrs, a gall ymgeisio eilwaith os bydd mewn trafferthion ariannol. Fel arfer, ni ad-delir yr arian.
Gweinyddir yr arian gan Bwyllgor Cronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr PCYDDS sy’n cynrychioli’r Adran Gyllid, Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r Pwyllgor hwn yn cyfarfod bob wythnos yn ystod y tymor.
Er nad oes cyfarfodydd ffurfiol yn ystod cyfnodau gwyliau, fe rhoir ystyriaeth i geisiadau yn ystod y cyfnodau yma yn unol ag argaeledd staff.
Ffurflen gais: Ffurflen gais Cronfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr
Gwybodaeth bellach
Tîm Cymorth Ariannol
E-bost: moneysupport@uwtsd.ac.uk
Mae myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn gallu ceisio am y cynllun hepgor ffioedd, trwy gwrdd ag amodau penodol. Mae’r cynllun yn dibynnu ar pryd gwnaethant ddechrau astudio yn y Brifysgol.
Gall myfyrwyr sy’n astudio llai na 30 credyd yn y flwyddyn academaidd hawli hepgor ffioedd os ydynt yn astudio am eu Gradd Gyntaf, Gradd Sylfaen, HNC, HND neu gwrs addysg uwch israddedig arall wedi’i seilio ar gredydau ac a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru).
Meini prawf cymhwystra myfyrwyr
Rhaid i fyfyriwr sydd wedi’i gofrestru ar gwrs cymwys:
(i) cael ei ystyried yn rhywun cymwys yn ôl y diffiniad a ddarparwyd yn arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) CCAUC
(ii) bod yn rhywun sy’n hanu o Gymru (byddai darparu cyfeiriad yng Nghymru gan y myfyriwr yn cael ei ystyried fel arfer yn dystiolaeth ddigonol ei fod yn hanu o Gymru). a bodloni un neu fwy nag un o'r amodau canlynol:
a) mae’r myfyriwr neu deulu’r myfyriwr yn cael:
- Credyd Cynhwysol neu’r budd-daliadau a’i rhagflaenodd
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
b) mae’r myfyriwr yn cael:
- Lwfans gofalwr neu gredyd gofalwr
- Premiwm anabledd neu gymorth ariannol arall sy’n gysylltiedig ag anabledd • Budd-daliadau profedigaeth
c) bod o grŵp yr ystyrir ei fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch, megis:
- myfyrwyr o bob oed o ardaloedd yn nau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
- myfyrwyr o bob oed o ardaloedd yn y DU sydd â chyfranogiad isel mewn AU fel a fesurwyd gan y gyfran o oedolion o oedran gweithio â chymwysterau AU o gyfrifiad 2011 (y ddau gwintel isaf)
- pobl ifanc sy’n gadael gofal neu fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal
- myfyrwyr ag anableddau • myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
- myfyrwyr LHDTC+
- ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu
- y rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
At ddiben maen prawf (a) mae’r diffiniad o ‘teulu’ fel a ganlyn: cwpl priod, mewn partneriaeth sifil neu ddi-briod, neu gwpl priod neu'n ddi-briod, neu cwpl mewn partneriaeth sifil â phlant dibynnol, neu rhiant sengl â phlant dibynnol.
Gweler y meini prawf llawn yn y ddogfen atodol:
Canllawiau Cynllun Hepgor Ffioedd HEFCW
Nid yw myfyrwyr yn gymwys am gyllid i ailadrodd cwrs neu unrhyw fodylau neu unedau o fewn cwrs o dan unrhyw amgylchiadau.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol y caiff y cynllun hwn ei adolygu’n flynyddol gan CCAUC; fe allai gael ei dynnu’n ôl cyn i chi gyflawni’r cymhwyster llawn.
Os hoffech ymgeisio, agorwch y ffurflen gais trwy ddefnyddio’r ddolen hon: Ffurflen Hepgor Ffioedd