Anelwn at gymhwyso'r myfyrwyr y mae arnynt angen cymorth i'w galluogi i weithio yn unol â'u potensial a dangos gwir lefel eu galluoedd fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig. Gobeithio, hefyd, y byddant yn elwa o’u profiad gyda Chymorth Dysgu yn y Brifysgol mewn modd a fydd yn eu cyfoethogi â sgiliau, strategaethau a gwell lefelau o hunanhyder, ac a fydd hefyd o fudd iddynt gydol eu bywydau fel oedolion.
Mae 95% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda 'Cefnogaeth Anabledd' yn arolwg rhyngwladol yr ISBSB, Hydref 2015.
Mae’n debyg mai’ch pwynt cyswllt cyntaf fydd Ymgynghorydd Anabledd. Efallai y bydd myfyrwyr yn gofyn am gyfweliad i drafod eu hanghenion neu eu pryderon ar unrhyw adeg yn ystod eu cwrs. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Gymorth Dysgu trwy’r dolenni isod:
I’r rheini sy’n astudio o bell, mae modd i ni ddarparu nifer o wasanaethau i hwyluso’ch profiad astudio.
Gall ein tîm cymorth arbenigol ddarparu cymorth unigol arbenigol o bell i’r rheini sydd â hawl i gymorth a ariennir o dan LMA, er enghraifft trwy MS Teams, Skype neu dros y ffôn.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth Sgiliau Astudio i bob myfyrwyr trwy studyskillsdistance@pcydds.ac.uk ar slotiau a amserlennir yn rheolaidd trwy MS Teams. Mae'r amserlen ar gael ar y Hwb Myfyrwyr.
Cynigir help i unrhyw fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol megis dyslecsia, ADD, Aspergers gyda cheisiadau am LMA, tiwtora unigol, cymorth priodol ynghyd â chyngor ac arweiniad ynghylch consesiynau mewn arholiadau. Cynigir cymorth mewn llawer o feysydd, megis:
- Sut i wella'ch aseiniadau
- Adolygu'n effeithiol ar gyfer arholiadau
- Trefnu amser, eich hun a gwaith
Gwybodaeth am Ddyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol eraill i ddarpar fyfyrwyr
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â dyslecsia arnynt ac Anawsterau Dysgu Penodol eraill. Gallwn wneud trefniadau ar gyfer:
- Darparu gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol
- Sgrinio cychwynnol
- Asesu
- Manteisio as LMA
- Cymorth tiwtora cynnar a phriodol
- Eiriol ar staff y Brifysgol
- Consesiynau lle bo angen
Os ydych eisoes wedi’ch asesu’n un sydd â dyslecsia neu os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol arall, argymhellwn eich bod yn cysylltu a Gwasanaethau Myfyrwyr cyn gynted a phosibl.
Gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr PCYDDS:
Campysau Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe
Mae gan y Brifysgol ei Chanolfan Asesu ei hun sy’n sicrhau bod yr holl ddarpar fyfyrwyr yn cael mynediad i aseswyr â gwybodaeth gynhwysfawr am y rhwydwaith cefnogi a’r rhaglenni a gynigiwn. I drefnu apwyntiad cysylltwch â’r Brif Ganolfan yng Ngholeg Sir Gâr ar 01267 225191 neu anfonwch e-bost at accesscentre@colegsirgar.ac.uk.
Sylwer: Gall myfyrwyr sy’n gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) gael eu Hasesiad Anghenion mewn unrhyw ganolfan.
Y nod yw darparu i bob myfyriwr, gan gynnwys y rheini sydd ag anableddau, gyfleoedd cyfartal i gyfarfod â’r ystod eang o brofiadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol sydd gennym. Ceisiwn – gydag addasu rhesymol – ddiwallu anghenion a goresgyn nawsterau, er mwyn sicrhau na fydd y rhain yn rhwystr bellach i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr sydd ag anghenion ychwanegol. Ni fydd datganiad o anabledd yn eich rhoi o dan unrhyw anfantais yn y broses o wneud cais. Anogir myfyrwyr ag anabledd datganedig i ymweled cyn gwneud cais er mwyn gweld y cyfleusterau sydd ar gael. Mae Ymgynghorwyr Anabledd a'r Rheolwr Cymorth Dysgu ar gael i drafod anghenion unigol, yn enwedig unrhyw drefniadau penodol sydd eu hangen ar gyfer mynediad, cymorth dysgu, cymorth astudio, lleoliadau, asesiadau ac arholiadau.
Bydd nifer ohonoch eisoes wedi cael ychydig o gymorth gyda’ch astudiaethau, naill ai yn yr ysgol neu’r coleg, ac wedi cael bod cymorth wedi’ch helpu i gyflawni canlyniadau da. Mae llawer o fyfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant hefyd yn cael budd o gymorth gyda’u hastudiaethau. Os gwyddoch eisoes fod rheswm penodol pam y bydd arnoch angen cymorth, y peth gorau fyddai i chi gysylltu â’r Cynghorydd Anabledd.
Ar hyn o bryd rydym yn dilyn canllawiau Adran Addysg y Llywodraeth.
Llenwch ein Ffurflen Ymholi ynghylch Anghenion Cymorth i drafod sut allwn eich cynorthwyo i astudio gyda Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Darparwn amgylchedd dysgu a gyfryngir lle perchir y myfyriwr a’r staff fel ei gilydd a grymusir y rheini sy'n rhan o'r broses ddysgu. Adlewyrcha hyn yr amgylchedd cyfreithiol, lle anogir ymgynghori ac ystyrir bod cynnwys y defnyddwyr yn hanfodol.
Ystyrir pob deunydd ynghylch anghenion ychwanegol yn gyfrinachol oni bai fod y myfyriwr yn dymuno neu’n llofnodi datganiad sy’n awdurdodi datgeliad, i ddarlithwyr, staff cymorth neu arholwyr.
Mae Contract Dysgu Unigol i bennu lefelau o ran yr hyn y gall y naill ochr ei ddisgwyl gan y llall, a thrafodir hyn gan y myfyriwr a'i staff cymorth, ac wedyn fe'i llofnodir gan bob un sy'n cymryd rhan. Adolygir hyn ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn
Cynhorydd LMA
Gwasanaethau Myfyrwyr
Helen Davies
Ffôn: 01267 676822
E-bost: h.e.davies@ydds.ac.uk
Cynghorydd LMA
Gwasanaethau Myfyrwyr
Nerys Williams
Ffôn: 01570 424960
E-bost: nerys.williams@ydds.ac.uk
Cynghorwyr LMA
Gwasanaethau Myfyrwyr
Kimberley Jenkins / Louise Salmon
Ffôn: 01792 481195
E-bost: kimberley.jenkins@uwtsd.ac.uk / l.salmon@uwtsd.ac.uk
Daliadau Cynorthwy-ydd Anfeddygol
Prifysgol Y Drindod Dewi Sant - Cyfraddau Cynorthwywyr Anfeddygol
Cyfnod dan sylw – 01/09/2020 hyd at 31/08/2021
Cyfraddau Cynorthwywyr Anfeddygol
(pob awr)
Band 1
Cynorthwydd Cymorth Ymarferol
Net £15.00
TAW £3.00
Cyfanswm £18.00
Band 2
Cynorthwydd Astudio
Net £24.17
TAW £4.83
Cyfanswm £29.00
Cynorthwydd Cymorth Arholiadau
Net £23.34
TAW £4.66
Cyfanswm £28.00
Person Cymryd Nodiadau
Net £23.34
TAW £4.66
Cyfanswm £28.00
Band 4
Mentor Arbenigol - Iechyd Meddwl
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Mentor Arbenigol - Sbectrwm Awtistig
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 (Anhawsterau Dysgu Penodol)
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 (Sbecrwm Awtistig)
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
_______________________________________________________________________________________
Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Darparieth rhwydwaith
Cyfraddau Cynorthwywyr Anfeddygol
(pob awr)
Band 1
Cynorthwydd Cymorth Ymarferol
Net
TAW
Cyfanswm
Band 2
Cynorthwydd Astudio
Net £24.17
TAW £4.83
Cyfanswm £29.00
Cynorthwydd Cymorth Arholiadau
Net £23.34
TAW £4.66
Cyfanswm £28.00
Person Cymryd Nodiadau
Net £23.34
TAW £4.66
Cyfanswm £28.00
Band 4
Mentor Arbenigol - Iechyd Meddwl
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Mentor Arbenigol - Sbectrwm Awtistig
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 (Anhawsterau Dysgu Penodol)
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 (Sbecrwm Awtistig)
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00
________________________________________________________________________________________
Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol
Net £50.00
TAW £10.00
Cyfanswm £60.00