
Hafan YDDS - Y Brifysgol - Sefydliadau ac Academïau - Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg - Cynhadledd Cyn-fyfyrwyr Peirianneg
Roedd yn bleser gweld rhai wynebau cyfarwydd nôl ar y campws newydd. #Dechrau’rDaith nôl yn 1993 gyda phrosiect Chwaraeon Moduro, 1998 y rhaglen Chwaraeon Moduro gyntaf; trwy Formula Student i’r timau rasio proffesiynol a arweinir gan fyfyrwyr YDDS heddiw: MSportEng YDDS Orthrus Racing.
Agorir y gynhadledd gan Ddeon y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg, yr Athro Michael Fernando a bydd gwesteion hefyd yn cael eu croesawu gan Roger Dowden o Ysgol Peirianneg y Brifysgol. Bydd siaradwyr o blith y cyn-fyfyrwyr yn cynnwys Craig Davies o IMechE; Matt Last o Red Bull KTM Tech 3 Racing; Francesco Cavalli o Tech 3 Moto2 Racing; Sarah Chappell-Smith, Reinshaw a Harley Gasson, McLaren Automotive.
Hefyd bydd anerchiadau gan George Warrington, Honda R&D Europe; Chris Walkingshaw, Prodrive; Ben Buesnel, MPA Creative a Sam Myers, Ford UK; Jeremy Vick, Red Bull Racing a thraddodir y prif anerchiad gan yr Athro Ymarfer John Iley o Iley Design.
Rydym wrth ein boddau gyda’r gyrfaoedd gwych a gyflawnwyd drwy’r rhaglenni gradd hyn.