Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -  Gwasanaethau Proffesiynol  -  Cynaliadwyedd

Cynaliadwyedd

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i greu cymuned o staff a myfyrwyr sy’n cefnogi cynaliadwyedd trwy gyfrifoldeb cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws holl feysydd y brifysgol i gydweithredu ac addysgu unigolion am y ffyrdd y gallwn ddylanwadu’n effeithiol ar y gymdeithas sydd ohoni a chenedlaethau i ddod.

Sicrhau eich Dyfodol

Datganodd Y Drindod Dewi Sant argyfwng hinsawdd yn 2019 ac rydym yn gweithio’n galed i ddiogelu eich planed er mwyn i chi allu cael y dyfodol gorau posibl.

Yr hyn rydym wedi’i wneud:

  • Buddsoddi dros £1M mewn prosiectau Solar ffotofoltäig er mwyn i ni allu cynhyrchu ein hynni ein hunain
  • Plannu 200 o goed i ddathlu 200 mlynedd o’r Drindod Dewi Sant
  • Cyflawni statws campws cyfeillgar i ddraenogod
  • Gwahardd plastig untro o’n mannau gwerthu bwyd ac rydym yn cael gwared ar gwpanau coffi tafladwy yn raddol.
  • Ennill statws Baner Werdd ar gampysau Caerfyrddin a Llambed am gynnal tiroedd hardd ac ecosystemau i bawb eu fwynhau
  • Lleihau ein gwastraff a chynyddu ein cyfraddau ailgylchu
  • Caiff adeiladau newydd eu hadeiladu yn unol â safon ‘Ardderchog’ Sero Net BREEAM
  • Rydym wedi tyfu dolydd blodau gwyllt lle mae natur yn ffynnu
  • Mae gennym ‘Lyfrgell Pethau’ ar y campws ar gyfer y trugareddau hynny y byddwch chi’n eu hanghofio.

Beth allwch chi ei wneud:

  • Siopa’n lleol
  • Gwneud dewisiadau teithio ar sail gwybodaeth amgylcheddol.
  • Ailddefnyddio neu ailgylchu
  • Dweud NA i gwpanau coffi tafladwy
  • Gwrthod plastigau untro
  • Bwyta llai o gig
  • Diffodd pŵer – diffodd goleuadau, gliniaduron, ffonau, ac ati…
  • Peidio â defnyddio aerosolau
  • Defnyddio llai o ddŵr