Os ydych chi'n fyfyriwr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiectau cynaliadwyedd, neu efallai eich bod am wneud y byd ychydig yn fwy gwyrdd, edrychwch ar yr holl gyfleoedd y gallwch fynd i’r afael â nhw isod!
Interniaethau INSPIRE
Ar gyfer myfyrwyr Israddedig sy’n astudio ar draws campysau Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, mae Interniaethau INSPIRE ar gael i fyfyrwyr i weithio mewn partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol ar brosiectau perthnasol i hybu byw’n gynaliadwy. Mae’r rhain yn interniaethau â thâl sydd wedi'u cynllunio i weithio o amgylch eich astudiaethau tra'n cefnogi eich dysgu a'ch angerdd am gynaliadwyedd.
Mae prosiectau allweddol yn y gorffennol wedi cynnwys Wythnos Byddwch Wyrdd, prosiect Plannu Bach, ymchwil i'r hyn y mae cynaliadwyedd yn ei olygu i fyfyrwyr, rhandiroedd ar y campws, a mwy! Cewch eich cefnogi'n llawn gan Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, gydag arweiniad gan uwch staff y brifysgol yn cynnwys Profostiaid campysau Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin.
Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae Interniaid INSPIRE wedi bod yn ei wneud trwy edrych ar y dolenni isod:
Mae Interniaid INSPIRE yn cael eu recriwtio bob blwyddyn, felly cadwch lygad ar wefan Undeb y Myfyrwyr am ragor o fanylion! Os hoffech gael gwybod rhagor, e-bostiwch Union@uwtsd.ac.uk.
Gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig llu o gyfleoedd i chi gymryd rhan, o gymdeithasau i wirfoddoli!
Swyddog Cynaliadwyedd
Mae swyddi ar gael drwy etholiad ar gyfer Swyddogion Cynaliadwyedd (yn Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin), lle cewch sedd ar Gyngor y Campws a chyfle i redeg ymgyrchoedd a gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i sicrhau bod arfer cynaliadwy yn cael lle blaenllaw yn yr hyn a wnawn!
Cynhelir etholiadau yn y Gwanwyn a’r Hydref, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, neu e-bostiwch Election@uwtsd.ac.uk i gael gwybod mwy.
Cymdeithasau
Mae cymdeithasau cynaliadwyedd ar gael y gallwch ymuno â nhw, ond os ydych chi eisiau dechrau un mewn rhyw faes penodol, neu os nad oes un ar eich campws chi, gallwch ddechrau eich cymdeithas eich hun i gael myfyrwyr eraill i gymryd rhan! Darllenwch ragor am gymdeithasau yma ar wefan Undeb y Myfyrwyr, neu cysylltwch â’ch Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr ar gyfer eich Campws.
Syniadau Mawr
A oes gennych syniad sut i wneud eich profiad myfyrwyr yn fwy cynaliadwy? Beth am gyflwyno Syniad Mawr?!
Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno syniad, a fydd wedyn yn mynd trwy Gyngor y Campws a Chyngor yr Undeb i bleidleisio arno fel polisi! Gall hyn roi mandad i’ch Swyddogion Etholedig lobïo am newid, neu i redeg ymgyrch! Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Syniadau Mawr, gallwch edrych ar y wefan yma neu e-bostio’r Tîm Llais Myfyrwyr ar StudentVoice@uwtsd.ac.uk.
Traethodau Hir er Lles
Ydych chi am i’ch traethawd hir wneud gwahaniaeth? Mae cynllun Traethodau Hir er Lles gan UCM yn rhoi cyfle i chi gwblhau traethawd hir mewn cydweithrediad â sefydliad anacademaidd, sy’n golygu y gallai eich prosiect gyfrannu at faes ymchwil arloesol!
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar wefan NUS For Good.
Campws Cyfeillgar i Ddraenogod
Wyddoch chi fod dirywiad mawr wedi bod ym mhoblogaeth draenogod ers y 1950au gyda dirywiad cyffredinol yn y boblogaeth o 97%. Ers 2000, mae eu poblogaeth wedi dirywio o 50% mewn ardaloedd gwledig a 30% mewn ardaloedd dinesig. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd gweithredu cynlluniau i ddiogelu cynefin a hyrwyddo mannau diogel i’r draenogod yn ein campysau gwledig a dinesig.
Cofrestrodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn yr ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod yn 2022 i helpu i warchod dyfodol hoff famal tir y DU. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:
- cynnal arolygon draenogod a ddaeth o hyd i ddraenogod ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin
- casglu sbwriel
- cael y tîm tiroedd i ddilyn hyfforddiant diogel i ddraenogod
- arolygu iechyd ein gwrychoedd
- gosod tai draenogod i ddarparu safleoedd gaeafgysgu a bridio diogel.
Roedd 2022 yn flwyddyn hanesyddol i ddraenogod gan fod poblogaethau wedi sefydlogi am y tro cyntaf mewn degawdau. Amlyga hyn fod gweithredu lleol ar raddfa fach sy’n digwydd ledled y DU fel rhan o’r Ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod a Chymdeithas Gwarchod Draenogod Prydain yn creu newid byd go iawn ar lefel genedlaethol. Os hoffech gymryd rhan yn yr Ymgyrch Campws Cyfeillgar i Ddraenogod ar unrhyw un o’n campysau, anfonwch e-bost at sustainability+hog@uwtsd.ac.uk
Rhoi’n ôl
Mae gwirfoddoli gyda sefydliad lleol yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, gwella eich cymuned leol, cwrdd â phobl o’r un anian a chael profiad gwerthfawr sy’n edrych yn wych ar eich CV!
Isod ceir rhai dolenni i’ch rhoi ar ben ffordd, ond mae cyfoeth o gyfleoedd allan yno i chi gymryd rhan felly cymerwch olwg!
Cymru
Sefydliad | Disgrifiad |
---|---|
Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd | Ymunwch â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd wrth iddynt fynd o gwmpas y lle yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gefn gwlad! |
Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru | Ar gyfer yr holl brosiectau gwirfoddoli yn Ne Cymru, gan gynnwys cyfleoedd cynaliadwy ac amgylcheddol yng Nghaerdydd. |
Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru | Ar y wefan hon cewch wybodaeth am waith Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru gan gynnwys: camau gweithredu ac amcanion cenedlaethol a lleol; newyddion a digwyddiadau yn ymwneud â bioamrywiaeth; a sut gallwch chi helpu bioamrywiaeth. |
Cadwch Gymru'n Daclus | Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio ar draws Cymru i warchod ein hamgylchedd. Maent yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n rhoi cyfle i chi weithredu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned. |
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) | Mae CAVS yn cefnogi gwaith gwirfoddol ar draws Sir Gaerfyrddin ac mae ganddynt restr o gyfleoedd cyfredol ar eu gwefan. |
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) | Edrychwch ar wefan SCVS am gyfleoedd gwirfoddoli lleol yn Abertawe. |
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) | Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli lleol yng Ngheredigion ar wefan CAVO. |
Gwirfoddoli Cymru | Mae Gwirfoddoli Cymru yn gyfeiriadur o gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru. |
Lloegr
Sefydliad | Disgrifiad |
---|---|
Eco Birmingham | Mae Eco Birmingham yn edrych ar gynaliadwyedd yn gyfannol ac yn gallu darparu cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous i fyfyrwyr i dyfu a datblygu mewn amrywiaeth o feysydd. Cysylltwch â nhw i gael gwybod rhagor! |
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Birmingham | Ar gyfer yr holl gyfleoedd gwirfoddoli yn Birmingham. |
Gwirfoddolwyr Cadwraeth (TCV) | Gwirfoddolwch i gefnogi mannau gwyrdd Llundain ar draws y ddinas. O sgiliau adeiladu a chwrdd â phobl newydd, mae gan TCV doreth o gyfleoedd. |
Thames 21 | Mae Thames 21 yn edrych i wella afonydd a chamlesi Llundain drwy weithio gyda chymunedau. Os oes gennych ychydig o amser i’w cefnogi nhw a’u cenhadaeth i lanhau’r dyfrffyrdd, cysylltwch â nhw! |