Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Carlam

Camu 'Mlaen Yn Gynt gyda'r Drindod Dewi Sant



Cyrsiau Carlam

Byddwch yn barod i lwyddo gyda’n cyrsiau carlam newydd.  Dechrau ym mis Hydref.  

Cael cymhwyster mewn 12 mis (neu llai)

Cais am Wybodaeth

Byddwch ar eich ennill gyda’n cyrsiau carlam yn YDDS! Rhoi hwb i’ch hyder, meithrin eich sgiliau, datblygu’ch gwybodaeth.  

Mae Tystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster lefel 4 ac mae’n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd amser llawn. I gyflawni’r cymhwyster, rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 120 credyd.

Gall cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i ail flwyddyn rhaglen Gradd Sylfaen neu Radd Anrhydedd briodol.

  • Cymwysterau dilysedig Prifysgol yn dechrau mis Hydref* (hyd at 1 flwyddyn)
  • Cyrsiau’n amrywio rhwng 7 mis ac 1 flwyddyn
  • Dysgu cyfunol gyda darpariaeth ar-lein ac ar gampws
  • Wedi’u dylunio i chi gydbwyso ymrwymiadau teuluol a gwaith ochr yn ochr â'ch astudiaethau
  • Cyllid ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru
  • Bwrsariaethau Prifysgol ar gael gan gynnwys cymorth gydag offer TG a chysylltedd
  • Nifer o gyrsiau yn cael eu dysgu mewn sawl lleoliad ledled De Cymru**

Tystysgrif Addysg Uwch i’w gyflwyno dros 32 wythnos 
*yn unol â niferoedd digonol

Dewis o ystod eang o gyrsiau

Eiriolaeth, Cwnsela ac Iechyd Meddwl

  • Eiriolaeth
  • Deall Iechyd Meddwl
  • Sgiliau Cwnsela Ymarferol (Ionawr)

Busnes a Rheoli

Celf a Dylunio

  • Sefydliad Celf a Dylunio

Celfyddydau Perfformio

  • Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned

Cyfrifiadureg, Peirianneg ac Adeiladu

  • Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Adeiladu
  • Sgiliau ar gyfer Peirianneg
  • Sgiliau Digidol
  • Sgiliau Cyfrifiadureg ar gyfer y Gweithle
  • Sgiliau ar gyfer Electroneg

Iechyd a Ffordd o Fyw

Y Gyfraith

  • Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol

Addysgu

  • Sgiliau Addysgu a Hyfforddi ar gyfer Cyd-destunau Proffesiynol (Tachwedd)

Twristiaeth a Lletygarwch

  • Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol
  • Twristiaeth y DU
Astudio fforddiadwy

Ennill wrth i chi ddysgu a gwneud i’ch misoedd gyfrif.  Newid eich bywyd mewn 12 mis!

Gallwch gael hyd at £4,500 o gyllid tuag at gostau byw wrth astudio un o gyrsiau rhan-amser YDDS.  Mae grantiau cynhaliaeth hyd at £4,500 ar gael nawr ac nid benthyciad mo’r arian a gewch – ni fydd rhaid ei dalu yn ôl.  Gallwch hefyd wneud cais am fenthyciad ychwanegol i wneud y gwahaniaeth.

Faint gewch chi?

Sut i wneud cais am gyllid

Dylech wneud cais uniongyrchol i Gyllid Myfyrwyr Cymru.  

I gyflwyno’ch cais, dilynwch y camau syml hyn:

  1. Dewis eich cymhwyster a chofrestru arno
  2. Mynd i Gyllid Myfyrwyr Cymru a gwneud cais am eich cymorth costau byw.

Poeni am ffioedd? Peidiwch â phoeni, mae cymorth ar gael

Y prif ffeithiau yw na fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu dim yn syth ac ni fydd yn rhaid iddynt ei dalu’n ôl tan eu bod yn ennill dros £25,725 y flwyddyn fel person â gradd.

Ffioedd Myfyrwyr

Dysgu hygyrch

Pam aros tan y flwyddyn nesaf? Rhowch hwb i’ch hyder. Gwnewch eich marc.  Ewch am y swydd yna.  Cael eich dyrchafu.  Ewch â’ch gyrfa ymhellach gyda’n cyrsiau carlam.

Yn YDDS, rydym yn credu’n gryf mewn cynnig patrymau dysgu hyblyg sy’n gweddu i ddysgwyr o bob cefndir ac i’r rheini sy’n cydbwyso ymrwymiadau eraill.

Gall myfyrwyr YDDS fod yn siŵr y bydd ein dull cyfunol ar gyfer dysgu ac addysgu yn sicrhau trosi di-dor o gyflwyno wyneb yn wyneb i gyflwyno ar-lein, fel sy’n briodol i amgylchiadau’r dyfodol, gan sicrhau eich bod yn gallu cwblhau’ch astudiaethau yn ôl eich bwriad.

Yn gynt eleni trosglwyddodd y Brifysgol ei holl addysgu i fod ar-lein, addasodd yr asesiadau, a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod modd i fwyafrif helaeth ein myfyrwyr naill ai gwblhau eu dyfarniadau neu symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf.

Gan adeiladu ar ein profiad cyfredol, ein bwriad yw cyflwyno’r profiad addysgol gorau oll i’n myfyrwyr gan integreiddio addysgu wyneb yn wyneb ar y campws â chyflwyno ar-lein. Rydym yn dymuno sicrhau ein bod yn cynnig amgylchedd dysgu hyblyg, creadigol sy’n gwneud y defnydd gorau o amser myfyrwyr ar y campws ac yn cefnogi dysgu ymarferol a gweithgareddau cymdeithasol o fewn canllawiau cadw pellter cymdeithasol y llywodraeth.

Adnoddau Addysgu

Canlyniadau cyraeddadwy

Yn dyheu am ddysgu? Cymerwch gwrs blwyddyn o hyd i feithrin eich brwdfrydedd, rhoi hwb i’ch sgiliau a gwella’ch rhagolygon gyrfa.  Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hynny, gallwch ddarllen sut rydym wedi helpu eraill i fod yn barod i lwyddo!

Kelly Lewis-Bennett

Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei bod hi wedi cyflawni Tystysgrif Addysg Uwch (Tyst AU) mewn Rheoli Mentrau Cymdeithasol yn Ysgol Busnes Caerfyrddin, ar ôl defnyddio ei hastudiaethau i helpu ei gwaith gyda menter gymdeithasol. 

"Penderfynais astudio Menter Gymdeithasol a Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn cael gwybodaeth i'm helpu yn fy rôl gyda'r fenter gymdeithasol dwi’n rhan ohoni," meddai. "Roedd yn risg enfawr i mi gan nad oeddwn i’n mwynhau'r ysgol pan oeddwn i’n iau ac yn gadael heb unrhyw gymwysterau, felly doeddwn i ddim yn siŵr y byddwn i’n gallu rheoli neu ymdopi yn academaidd yn y brifysgol.

"Wedi dweud hynny,  hwn oedd un o'r penderfyniadau gorau dwi wedi'i wneud, a doeddwn i ddim yn sylweddoli tan hynny faint dwi'n caru dysgu. Mae astudio yn Ysgol Busnes Caerfyrddin wedi gweddnewid fy ffordd o feddwl; mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi ac mae’r clod am hynny yn mynd i’r gefnogaeth dwi wedi'i chael gan fy narlithwyr a'm cyd-fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn." 

Sandra Richards-Davies 

Mae Sandra’n astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch (CERT HE) mewn Menter Gymdeithasol yn PCDDS, er mwyn cynorthwyo ei busnes menter gymdeithasol i lwyddo yn Llandysul, Sir Gâr.

Dywedodd fod y grŵp amrywiol o fyfyrwyr ar ei rhaglen flwyddyn o hyd wedi dylanwadu ar ei ffordd o feddwl, a’i darlithwyr ar ei hawydd i barhau â’i haddysg.

“Mae’n grŵp sy’n cynnwys sawl cenhedlaeth ac mae clywed syniadau’r hen a’r ifanc wedi bod yn wych ac rwyf i wedi dysgu llawer,” dywedodd. “Mae’n bendant wedi effeithio ar y ffordd rwyf i’n meddwl ac yn cynllunio a strwythuro fy menter gymdeithasol. Cofrestrais i ddechrau am fy mod am helpu i dyfu fy menter gymdeithasol ac mae fy narlithydd Jessica wedi bod yn wych. Nid yn unig mae hi wedi fy nysgu a fy nghefnogi ond mae hefyd wedi hwyluso ein dysgu, rhannu adnoddau, sgiliau ac arbenigedd a’n hannog i wthio ymhellach yn ein gwaith. Felly rwyf i nawr wedi cofrestru ar y cwrs gradd.”

Jorna Ali

O’r 110 o fyfyrwyr a raddiodd o Gampws Busnes y Brifysgol yn Abertawe, mae 70 ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd, tra bod 40 o’r 80 a raddiodd o Ganolfannau Datblygu Allgymorth Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn mynd ymlaen i astudio rhaglenni gradd BA. 

Un myfyriwr sydd newydd raddio yw Jorna Ali, 43 o Gimla. Bu’n rhaid iddi adael addysg pan yn ifanc gan y bu’n rhaid iddi ofalu am ei phlant, yn ogystal â’i brodyr a chwiorydd ar ôl i’w mam farw.

“Ymgeisiais llynedd gan bod fy mhlant yn hŷn; roeddwn yn gobeithio gwneud rhywbeth i wella fy nghymwysterau,” meddai. 

“Mae’r cwrs wedi bod yn brofiad hapus iawn. Ar y pryd, roedd braidd yn anodd gan fy mod wedi bod allan o addysg am dros 25 mlynedd, ond rwyf wedi dod yn ffrindiau gyda’r darlithwyr a oedd yn cynnig cefnogaeth, ac yn y diwedd cyflawnais fy nôd.”


Astudiaethau Achos


Cais am Wybodaeth

Rhowch hwb i’ch bywyd! Dyrchafwch eich dysgu gyda chwrs carlam yn YDDS. Llenwch y ffurflen syml hon i roi cychwyn arni!