Mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym hefyd yn darparu cwrs hyfforddi sy'n benodol i'r rhai sy'n darparu Footie Families.
Mae Footie Families yn rhaglen sgiliau echddygol ymgysylltu â theuluoedd mewn lleoliadau cymunedol yng Nghymru, a'i nod yw gwella cymhwysedd echddygol plant cyn oed ysgol a dylanwadu ar arferion gweithgarwch corfforol teuluol.
Mae Footie Families yn defnyddio egwyddorion ein rhaglen SKIP-Cymru, ac mae'r hyfforddiant yn cynnwys blociau ar-lein unigryw sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu â rhieni a dulliau penodol o gyflwyno'r rhaglen.
Os oes gennych ddiddordeb mewn masnachfraint Footie Families, gallwch fynegi eich diddordeb i Rebecca Osland, sef Rheolwr Cyfranogiad Cenedlaethol Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru: rosland@fawtrust.cymru