Cyswllt Diwifr Eduroam

Eduroam yw’r rhwydwaith diwifr at ddefnydd staff a myfyrwyr ar draws pob campws. Bydd Eduroam hefyd yn rhoi mynediad i rwydweithiau diwifr unrhyw sefydliad arall ar draws y byd sy’n defnyddio Eduroam.

Gwelwch ble arall y cewch fynediad i Eduroam naill ai ar wefan Eduroam.

Gosodiadau Diwifr Myfyrwyr a Staff Y Drindod Dewi Sant

Gall holl fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant a'r staff greu mynediad i Eduroam ar eu gliniadur, eu ffôn symudol neu eu llechen.

Os ydych chi’n gwybod eich cyfeiriad e-bost yn Y Drindod Dewi Sant a’ch cyfrinair, does dim angen i chi fod ar y campws er mwyn gosod eich cyswllt chwaith, gallwch ei osod ar eich dyfeisiau cyn i chi gyrraedd er mwyn sicrhau eich bod ar-lein cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd y campws.

Er mwyn gosod eich mynediad at Eduroam yn gyflym ac yn hawdd, dilynwch y cyfarwyddiadau syml hyn...

Windows 10, 8/8.1, 7

  • Lawrlwythwch y gosodydd ar gyfer eich system weithredu;
  • Rhedeg y gosodydd
  • Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
    • Enghraifft myfyrwyr:
      • rhifmyfyriwr@student.pcydds.ac.uk
      • 123456@student.pcydds.ac.uk
    • Enghraifft staff:
      • bloggs@pcydds.ac.uk
      • bloggs@pcydds.ac.uk

 Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am y rhwydweithiau diwifr ar eich dyfais, cliciwch ar Eduroam a chlicio ar y botwm i gysylltu.

Apple iMac, MacBook, iPad, iPhone ac iPod

  • Lawrlwythwch y gosodydd ar eich system gweithredu;
    • Apple macOS
    • Gosodydd Eduroam Apple iPad, iPhone ac iPod
  • Rhedwch y gosodydd
  • Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
    • Enghraifft myfyrwyr:
      • rhifmyfyriwr@student.pcydds.ac.uk
      • 123456@student.pcydds.ac.uk
    • Enghraifft staff:
      • bloggs@pcydds.ac.uk
      • bloggs@pcydds.ac.uk

 Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch Eduroam a chlicio i gysylltu.

Android

Chrome OS (Chromebook)

  • Lawrlwythwch osodydd Eduroam Chrome OS (Chromebook)
  • Rhedwch y gosodydd
  • Agorwch Borwr Chrome a phori i chrome://net-internals/#chromeos
  • Defnyddiwch y botwm 'Import ONC file’ (mae’r mewnforio’n dawel, felly ni welwch unrhyw beth yn digwydd)
  • Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
    • Enghraifft myfyrwyr:
      • rhifmyfyriwr@student.pcydds.ac.uk
      • 123456@student.pcydds.ac.uk
    • Enghraifft staff:
      • bloggs@pcydds.ac.uk
      • bloggs@pcydds.ac.uk

Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch Eduroam a chlicio i gysylltu.

Os nad yw eich dyfais wedi ei rhestru neu fod angen i chi osod eich dyfais â llaw;

  • Cysylltu â’r rhwydwaith diwifr (SSID): Eduroam
  • Yn y parth ar gyfer yr enw defnyddiwr, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn Y Drindod Dewi Sant yn llawn
    • Enghraifft myfyrwyr:
      • rhifmyfyriwr@student.pcydds.ac.uk
      • 123456@myfyriwr.pcydds.ac.uk
    • Enghraifft staff:
      • bloggs@pcydds.ac.uk
      • bloggs@pcydds.ac.uk
  • Yn y parth ar gyfer y cyfrinair, rhowch eich cyfrinair yn Y Drindod Dewi Sant

Canllawiau Defnyddwyr Gosodiad Diwifr Y Drindod Dewi Sant

I gael canllawiau defnyddwyr sy’n esbonio sut i gysylltu eich dyfais ag Eduroam gan gynnwys cysylltu eich dyfais â llaw, ewch i’n .    

Gosodiad Ymwelwyr Eduroam

Mae modd i ymwelwyr ddefnyddio Eduroam ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,; fodd bynnag, bydd angen i chi gysylltu â gwasanaeth cymorth TG eich sefydliad i gael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Sylwer: tra byddwch yn cysylltu ag Eduroam ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fod Polisi Defnydd Derbyniol Y Drindod Dewi Sant  yn berthnasol i bob defnyddiwr westai.


Cyswllt Diwifr Gwesteion

Rhwydwaith diwifr Gwesteion Y Drindod Dewi Sant yw’r prif rwydwaith diwifr ar gyfer Gwesteion Y Drindod Dewi Sant

Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gwesteion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Sut y gallaf gysylltu â chyswllt Gwesteion Y Drindod Dewi Sant?

Campysau Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Birmingham

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol gan TaSG er mwyn manteisio ar y gwasanaeth hwn, mae’n darparu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer cyfnod o 8 awr. Os oes angen i chi gael cyfnod cysylltedd hwy, cysylltwch â Desg Wasanaeth TG yn bersonol neu ffoniwch 0300 500 5055 i gael rhagor o wybodaeth.

I gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  1. Ar eich dyfais o dan rwydwaith diwifr, dewiswch "UWTSD Guest" (nid oes angen unrhyw allwedd diogelwch).
  2. Unwaith y byddwch wedi eich cysylltu, cewch eich ailgyfeirio at dudalen cofrestru a gofynnir i chi roi eich Enw, Cyfeiriad e-bost a’ch Rheswm dros fynediad.
  3. Unwaith y byddwch wedi llenwi’r manylion hyn a derbyn y telerau defnydd, bydd modd i chi gael mynediad i’r rhyngrwyd.

Campysau Llambed ac Oval Llundain

I ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd angen i chi gael Tocyn Diwifr Gwestai, a gellir cael hwn o'r Dderbynfa.

I gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  1. Ar eich dyfais o dan rwydwaith diwifr, dewiswch "TSD Guest" (nid oes angen unrhyw allwedd diogelwch).
  2. Unwaith y byddwch wedi eich cysylltu, gofynnir i chi roi eich ‘Cod Tocyn Gwestai’ wedyn cliciwch i barhau
  3. Bellach bydd modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd.