Dathlu Daucanmlwyddiant Addysg Uwch yng Nghymru
Yn 2022, bydd Y Brifysgol yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru
Mae'r daucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 trwy osod y garreg sylfaen sy'n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn falch o'n hanes a sut mae wedi llunio'r Brifysgol yr ydym heddiw. O'r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl, a datblygiad ein campysau, rydym wedi tyfu i fod yn Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy'n darparu rhaglenni galwedigaethol berthnasol mewn partneriaeth â chyflogwyr.
Mae gan ein campysau gynnig a chymeriad nodedig
Mae ein campysau yn Llambed, Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd, Llundain a Birmingham yn nodedig yn eu cynnig a'u cymeriad academaidd ac wedi esblygu i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn darparu mynediad i addysg uwch i bobl o bob cefndir i gyflawni eu potensial ac yn ymateb i anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol eu rhanbarthau.
Wrth ddathlu sylfaen y Brifysgol, rydym hefyd yn dathlu esblygiad y Brifysgol a'i chenhadaeth barhaus o drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.