Hanes Campws Llambed

Sefydlwyd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - neu Goleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan fel y’i hadwaenid yn wreiddiol - gan yr Esgob Thomas Burgess yn 1822 i ddarparu addysg ryddfrydol i aelodau o’r glerigiaeth, a heddiw, ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr (Tachwedd 18), mae’r Brifysgol yn dathlu ei ben-blwydd.

Yn draddodiadol, mae’r Esgob Thomas Burgess o Dyddewi wedi’i anrhydeddu fel prif sylfaenydd a chymwynaswr yr hyn a fyddai’n datblygu’n Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Roedd yr Esgob Burgess yn ffigur sylweddol yn hanes diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol diwedd y ddeunawfed a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod cyfnod cynnar ei yrfa bu’n eiriol dros ryddhau caethweision ac yn gwneud gwaith efengylu ymhlith y tlodion, ond ym maes astudiaethau clasurol y gwnaeth ei brif gyfraniad ysgolheigaidd.

Bishop Thomas Burgess

Ymddengys mai ei syniad ef yn bennaf oedd sefydlu’r Brifysgol ac yn ystod y blynyddoedd cyn 1822 - pan osodwyd y garreg sylfaen - denodd gefnogaeth gan o ddeutu 130 o roddwyr eraill ar gyfer gwireddu’r syniad hwnnw, gan gynnwys cefnogaeth y brenin oedd yn teyrnasu ar y pryd, Siôr IV.

Gosodwyd Carreg Sylfaen Coleg Dewi Sant yn 1822 ar dir a roddwyd gan John Scandrett Harford a chroesawyd y myfyrwyr cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1827. Fodd bynnag ni chwblhawyd Siarter Corffori Brenhinol y Coleg tan 1828 pan dderbyniodd sêl y Brenin Siôr IV ar 6 Chwefror y flwyddyn honno. Yn wir ystyrid y Brenin yn ‘Sylfaenydd Brenhinol’ gyda’i Arfbais yn addurno tŵr Adeilad Dewi Sant.

Cafwyd rhestr hir o gymwynaswyr nodedig gan gynnwys perchnogion tir blaenllaw ond ymhlith y ffigurau mwyaf diddorol oedd y rheini oedd yn gysylltiedig â bancio, masnach, diwydiant a gwelliannau amaethyddol. Gellir cynnwys llawer o ymgyrchwyr dyneiddiol ar y rhestr hir o gefnogwyr hefyd, gan gynnwys William Wilberforce a Henry Thornton oedd yn ymgyrchu dros ddileu caethwasiaeth.

Roedd John Burgess, brawd hŷn yr esgob a chymwynaswr arall, yn nodweddiadol o’r entrepreneuriaid masnachol newydd - ef oedd sylfaenydd cwmni Burgess & Son yn Llundain, arloeswyr o ran archebion post ym maes sawsiau, olewau a phiclau. Roedd eraill yn cynnwys yr Arglwydd de Dunstanville; yr Arglwydd Carrington; William Henry Hoare a Walter Wilkins - oll yn fancwyr cyfoethog a dylanwadol. Roedd diwydianwyr arloesol hefyd yn awyddus i gyfrannu, gan gynnwys Thomas Mansel Talbot; Richard Crawshay; Benjamin Hall; yr Arglwydd de Dunstanville yn ogystal â’r Arglwydd Carrington ar ei ystâd yn Llanfair Clydogau ger y coleg. Roedd yr Arglwyddi Cawdor a Dynevor - y gwnaeth ill dau gyfraniadau sylweddol i wella amaethyddiaeth yng ngorllewin Cymru - hefyd yn awyddus i helpu i sefydlu’r sefydliad addysgol newydd.

O’r dechrau, cefnogwyd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan gan y ‘dosbarth canol’ newydd - arloeswyr, dynion busnes, diwydianwyr. Eu harian nhw oedd yn sylfaen iddo, ac adlewyrchir ehangder eu diddordebau yn y gweithiau a ddaeth i ffurfio’r llyfrgell.

Byddai’r myfyrwyr yn cael eu hannog i feddwl yn eang a meddwl yn fyd-eang - anghenraid i genhedlaeth newydd o glerigwyr, y byddai llawer ohonynt yn gwasanaethu yn nhrefi diwydiannol newydd de Cymru neu mewn ardaloedd lle’r oedd technegau amaethyddol newydd yn cael eu defnyddio’n gynyddol. Nid ar eu cyfer nhw yn unig oedd y llyfrgell yn bodoli; fe’i bwriadwyd hefyd i fod o fudd i entrepreneuriaid lleol, a denai sylw ysgolheigion o bell - hyd yn oed y Tywysog Lucien Bonaparte, nai’r Ymerawdwr Napoleon I.

Mae enw da Llanbedr Pont Steffan fel canolfan ar gyfer addysg aml-ffydd ac amlddiwylliannol ryngwladol wedi’i hen sefydlu, ond dros y blynyddoedd bu’n rhaid newid ac esblygu. Erbyn heddiw mae’n rhan annatod o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, prifysgol sector deuol sy’n cynnig llwybrau dilyniant o lefel mynediad hyd at astudiaethau doethurol.

Seiliwyd ar erthygl gan Dr John Morgan Guy a Sarah Roberts.