Mae’r gradd-brentisiaethau digidol wedi’u datblygu gyda’r tîm academaidd ar y cyd â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni eu bod yn bodloni anghenion dilyniant gyrfa presennol i gyd-fynd â gofynion y diwydiant.
Bydd y rhaglenni arloesol hyn yn helpu prentisiaid i ddatblygu lefelau uchel o sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaethau Prifysgol a dysgu yn y gwaith.
Byddwch yn astudio un diwrnod yr wythnos, neu mewn bloc neu’n gyfuniad o ddysgu ar-lein a thiwtorialau yn amodol ar raglen eich dewis.
Mae’r holl raglenni hyn wedi’u cymeradwyo a’u dilysu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac mae gan y rhaglen Peirianneg Feddalwedd achrediad Peirianneg Siartredig gyda’r Cyngor Peirianneg.
Bydd pob rhaglen yn arwain i Statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP). Mae’r rhaglenni wedi’u cymeradwyo gan Instructus Skills ar gyfer y Fframwaith Prentisiaeth FR04381.
Mae gradd-brentisiaeth yn dechrau ar Lefel 4(HNC), fodd bynnag bydd profiad blaenorol perthnasol a chymwysterau yn cael eu cymryd i ystyriaeth i sicrhau eich bod yn cychwyn y rhaglen ar y lefel gywir, boed hyn ar lefel 4, 5 neu 6.
Mae’r cyrsiau’n dechrau ym mis Medi bob blwyddyn ac fe’u cynhelir dros flwyddyn academaidd estynedig yn astudio 42 wythnos y flwyddyn, wedi’u cynnal ar sail diwrnod astudio ar gampws Bae Abertawe.
Mae chwe llwybr ar gael wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy CCAUC yn rhan o Fframwaith Prentisiaeth ar gyfer Cymru (FR05034).
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’n rhaglenni Gradd-brentisiaeth Digidol, cliciwch ar y botwm cofrestru eich diddordeb isod i wneud cais neu ddysgu rhagor.
Cofrestru eich diddordeb Cysylltu â ni Sesiynau blasu a diwrnodau agoredSwyddi i Brentisiaid
Ein Rhaglenni Gradd-brentisiaeth Digidol BSc
Cyflogwyr Yr Ydym Yn Gweithio Gyda Nhw












Dilysu ac Achredu




