Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Rheoli Pobl (Diploma Cysylltiol CIPD)

Rheoli Pobl (Diploma Cysylltiol CIPD)

Ymgeisio Nawr

Mae’r cymhwyster newydd hwn yn adeiladu ar y Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arfer Pobl a’i nod yw ymestyn arfer annibynnol dysgwyr ymhellach i’w galluogi i esblygu i mewn i rolau uwch o fewn sefydliadau fel weithwyr proffesiynol pobl. Yn bennaf, bydd gwaith dysgwyr yn weithredol gyda pheth cymhlethdod.

Gan ddefnyddio fframwaith o AD a dealltwriaeth o L&D, ymddygiad a datblygu sgiliau, mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr drosglwyddo i swyddi fel rheolwyr pobl. Mae’r cymhwyster hwn yn ymestyn a meithrin lefel dyfnach o ddealltwriaeth a chymhwysiad ac yn datblygu arbenigedd dysgwyr mewn arfer pobl yn naturiol. Mae’n addas ar gyfer unigolion sydd:

  • yn dechrau gyrfa mewn rheoli pobl 
  • yn gweithio mewn rôl arfer pobl ac yn dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i helpu siapio gwerth sefydliadol.
  • yn gweithio tuag at, neu’n gweithio mewn rôl rheoli pobl.

Logo swyddogol. Canolfan a gymeradwyir gan CIPD.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Sut i wneud cais

Gwneud cais yn uniongyrchol ar-lein.

Ewch i adran Sut i Wneud Cais y Brifysgol am ragor o wybodaeth


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: julie.thomas@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Julie Thomas


Dim ffi ar gyfer myfyrwyr cymwys (ariennir yn llawn)
Ddim yn berthnasol

Pam dewis y cwrs hwn

  • Cymhwyster proffesiynol yw hwn wedi’i seilio ar Fap Proffesiwn CIPD. Lansiwyd y Map yn 2018 wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag ystod eang o arbenigwyr yn gweithio yng nghalon y proffesiwn. Mae’n gosod y meincnod rhyngwladol ar gyfer y proffesiwn pobl ac yn darparu sylfaen gref ar gyfer rhoi i weithwyr proffesiynol pobl yr hyder a’r galluoedd i arwain eu prosesau gwneud penderfyniadau, gweithredoedd ac ymddygiad.
  • Bydd ei gwblhau’n llwyddiannus yn rhoi i ddysgwyr y wybodaeth, sgiliau a galluoedd i wneud cais am rolau rheoli pobl.
  • Caiff y cwrs hwn ei ariannu’n llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys.
  • Mae presenoldeb yn digwydd drwy 10 gweithdy wyneb-yn-wyneb dros 18 mis ac felly yn golygu ychydig iawn o amser o'r gwaith.
  • Nid oes dim arholiadau

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl CIPD yn gymhwyster newydd, wedi’i seilio ar y map proffesiynol newydd CIPD. Mae’n gyfwerth ag ail flwyddyn gradd prifysgol yn y DU. Mae gweithwyr mewn rolau AD neu’n ymgymryd â dyletswyddau AD ar hyn o bryd (ar unrhyw lefel) yn gymwys i ymgeisio.

Caiff dysgwyr eu cofrestru ar y Prentisiaeth Uwch mewn HRM gyda Choleg Sir Gar a byddant yn ymgymryd â’r cymhwyster hwn gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o’r Brentisiaeth.

Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dros 18 mis, i gwblhau’r Diploma. Wrth gwblhau’r Diploma’n llwyddiannus bydd ymgeiswyr yn dod yn aelodau Cysylltiol o’r CIPD. Caiff aelodaeth gysylltiol ei chydnabod yn lefel o aelodaeth broffesiynol ac mae gan ymgeiswyr llwyddiannus yr hawl i ddefnyddio’r dynodiad AssocCIPD ar ôl eu henw. 

Yn amodol ar brofiad a chymwysterau blaenorol, efallai y bydd hefyd raid i ddysgwyr gwblhau gwaith ychwanegol, yn rhan o ofynion sgiliau hanfodol y brentisiaeth – caiff hyn ei esbonio i chi yn rhan o’r broses ymgeisio.

Pynciau Modylau

Bydd y modylau a ganlyn yn cael eu hastudio:

  • Perfformiad a Diwylliant Cyfundrefnol ar waith
  • Ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Ymddygiad proffesiynol a gwerthfawrogi pobl
  • Rheoli Perthnasoedd Gwaith
  • Rheoli Talent a Chynllunio Gweithlu 
  • Gwobr am Berfformiad a Chyfraniad Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol
Asesiad

Mae asesiadau Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl CIPD yn cael ei yrru gan gyflogwyr ac wedi’i anelu at senarios go iawn y gall dysgwyr ddod ar eu traws yn eu gyrfa yn y dyfodol. Bydd y CIPD yn gosod aseiniadau ar gyfer pob uned craidd. Ar gyfer unedau eraill, bydd y Brifysgol yn dyfeisio eu hasesiadau eu hun, wedi’u seilio ar ganllawiau a ddarperir gan CIPD. Gallai’r rhain gynnwys astudiaethau achos, sioeau sleidiau, portffolios a dulliau asesu eraill. Ni fydd dim arholiadau.

Nid oes gradd ar gyfer y cymhwyster hwn. Bydd dysgwyr naill ai’n cael Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu i gyflawni Pas.

Ein Cyfleusterau

Campws Busnes Abertawe

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed neu’n hŷn sydd eisiau dysgu am arfer pobl neu arfer L&D. Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i ymgeiswyr ddangos y gallu i astudio ar lefel 5, naill ai drwy feddu ar gymwysterau ffurfiol, meddu ar brofiad perthnasol neu ddangos cymhwysedd mewn ffyrdd eraill.

Cyfleoedd Gyrfa

Bydd llwyddo i gyflawni Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD yn caniatáu dilyniant i’r Diploma Ôl-raddedig/MA lefel 7.

Bydd y cymhwyster yn galluogi i fyfyrwyr wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws Lefel 5 CIPD.

Costau Ychwanegol

Ariennir y cymhwyster hwn yn llawn ar gyfer myfyrwyr cymwys. I gael eu hystyried am y cyllid, rhaid i fyfyrwyr wneud cais i Goleg Sir Gâr a chwblhau’r broses gwneud cais am brentisiaeth. Mae’r manylion llawn ar gael ar gais oddi wrth y rheolwr rhaglen. Gall myfyrwyr ddewis cofrestru ar y cwrs heb gyllid – y ffi gyfredol yw £1700 (2022-2023).

Mae Aelodaeth Myfyrwyr o'r CIPD yn costio £98 y flwyddyn, yn ogystal â ffi ymuno o £40. (Chwefror 2022).

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.