Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig  -  Doethuriaeth mewn Addysg (EdD)

Doethuriaeth mewn Addysg (EdD)



Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgol neu mewn swydd gysylltiedig ag addysg, ac wedi’i hanelu’n benodol at y rheiny sy’n ymwneud ag addysg mewn ystod eang o swyddi:

  • athrawon
  • arweinwyr a rheolwyr mewn ysgolion
  • darlithwyr mewn sefydliadau AU ac AB
  • swyddogion y sectorau gwirfoddol a’r trydydd sector
  • staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
  • sefydliadau hyfforddi ac ati.

Bydd y rhaglen yn rhoi i weithwyr addysg proffesiynol y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gwestiynu ymchwil, beirniadu theori, ac i gynnal ymchwil cadarn a fydd yn effeithio ar bolisi ac arfer yn eu maes gweithgarwch proffesiynol.

Mae’r rhaglen yn cynnig llwybr cyfunol, sy’n cynnwys cymysgedd o ddysgu wyneb i wyneb a dysgu o bell, ac fe’i rhennir yn ddwy ran gysylltiedig: Rhan 1, sy’n datblygu sgiliau ysgrifennu, ymchwilio a dadansoddi beirniadol myfyrwyr; a Rhan 2, sef cwblhau traethawd hir 60,000 o eiriau mewn maes diddordeb o ddewis y myfyriwr. 

Mae mynychu pob sesiwn wyneb i wyneb yn orfodol, ni waeth beth yw’r llwybr dewisol (sylwer bod llawer mwy o sesiynau wyneb i wyneb ar y llwybr Llawn Amser). P’un a ydych yn astudio rhaglen Llawn Amser neu Ran Amser, cewch eich cefnogi trwy gydol y rhaglen gan dîm o ymarferwyr a staff academaidd profiadol, uchel eu parch.


Enw cyswllt rhan-amser: Junnine Thomas-Walters
Enw cyswllt rhan-amser: junnine.thomas-walters@uwtsd.ac.uk

E-bost cyswllt llawn-amser: Catherine Morgan
E-bost cyswllt llawn-amser: c.morgan@uwtsd.ac.uk


OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Mae gan yr EdD ddau lwybr: Llwybr Llawn Amser a Rhan Amser, yn amodol ar eich dewis ddull astudio. Caiff y llwybr Llawn Amser ei gynnal dros dair blynedd a bydd rhaid mynychu’r campws yn ystod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd, ac felly ni ellir ei astudio o bell. 

Cynhelir y llwybr Rhan Amser dros chwe blynedd ar y lleiaf a rhaid i fyfyrwyr fynychu’r campws ar ddau ddydd Sadwrn y semester, a chymryd rhan mewn cyfres o weminarau/diwtorialau ar-lein ategol.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol ar gyfer y naill lwybr neu’r llall drwy ddefnyddio’r botwm Ymgeisio ar frig y dudalen. 

Y broses gyfweld

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gyflwyno a’i gymeradwy, cewch eich gwahodd am gyfweliad.

Cyn eich cyfweliad, bydd rhaid i chi ysgrifennu crynodeb byr 500 o eiriau am eich diddordeb ymchwil. Dylai eich crynodeb archwilio agwedd ar addysg sydd o’r diddordeb mwyaf i chi, a dylech geisio dangos eich gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau cysylltiedig.

Dylid ysgrifennu’r crynodeb mewn arddull addas, gan ddefnyddio cyfeirnodau fel y bo’n briodol. Dylech fod yn barod i drafod eich crynodeb yn fanylach yn ystod y cyfweliad.

Rydym yn derbyn y bydd eich crynodeb yn agored i newid wrth i’r rhaglen ddatblygu, a dim ond awgrym cynnar o’ch ffordd o feddwl a ddisgwylir i chi ei rhoi bryd yma.

Yn ogystal â chymwysterau academaidd a phrofiad o arwain, gall y penderfyniad i’ch derbyn ar yr EdD gael ei seilio ar ffactorau ychwanegol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): ansawdd eich ysgrifennu/crynodeb, perfformiad yn y cyfweliad, a phrofiad proffesiynol perthnasol arall.

Lle bo’n bosibl, caiff cyfweliadau eu cynnal gan ddau aelod o’r tîm addysgu ac arwain EdD.


Cais am Wybodaeth Campysau Abertawe Dysgu Ar-lein

Rhan-amser (6 blynedd)
Cartref: £3,500 y flwyddyn

Amser Llawn (3 blynedd)
Cartref: £7,000 y flwyddyn
Tramor: £15,000 y flwyddyn

Rheswm dros astudio am Ddoethuriaeth mewn Addysg

  • Llwybr dysgu cyfunol, yn cynnwys astudiaeth grŵp ac annibynnol
  • Lefelau uchel o gefnogaeth a her academaidd
  • Modylau dulliau ymchwil a chyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil ar raddfa fach cyn eich prosiect ymchwil annibynnol
  • Cyswllt un i un gyda’ch goruchwylydd traethawd hir
  • Y cyfle i asio anghenion datblygiadol eich lleoliad gyda’ch ymchwil eich hun gan ddylanwadu ar welliant wrth i chi astudio.

‘Mae’r systemau addysg mwyaf llwyddiannus ... yn buddsoddi yn natblygiad eu hathrawon fel gweithwyr proffesiynol adfyfyriol, medrus ac ymholgar sydd â’r gallu i ymgysylltu’n llawn â chymhlethdodau addysg ac i fod yn gyfranwyr allweddol wrth lunio ac arwain newid addysgol.' (Donaldson, 2011)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant enw da hir-sefydlog am ragoriaeth ym maes dysgu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac ymchwil addysgol sy’n ffocysu ar addysgeg. Mae’r EdD yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgol neu mewn rôl sy’n gysylltiedig ag addysg ac yn meddu ar yr awydd i gymhwyso astudiaethau academaidd i lefel uwch ac ymchwil sy’n rhoi sylw manwl i arfer.

Gellir astudio’r rhaglen yn Llawn Amser neu’n Rhan Amser.

Mae’r llwybr Llawn Amser yn gofyn i fyfyrwyr fynychu’r campws drwy gydol y flwyddyn academaidd, ac felly ni ellir ei astudio o bell. Mae mynychu sesiynau wyneb i wyneb yn orfodol ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymrwymo i fod yn rhan lawn o fywyd y brifysgol.

Mae’r llwybr Rhan Amser wedi’i gynllunio gydag addysgwyr wrth eu gwaith mewn golwg, a chefnogir y dysgu ar-lein gan ddau ddigwyddiad dysgu diwrnod wyneb i wyneb bob semester. Mae’r llwybr hwn yn boblogaidd ymysg addysgwyr wrth eu gwaith ac ymhlith ein myfyrwyr cyfredol mae athrawon, arweinwyr ysgol, darlithwyr coleg/prifysgol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg.

Yr elfen adfyfyrio ar arfer proffesiynol yw’r gwahaniaeth rhwng y ddoethuriaeth broffesiynol a dyfarniad PhD.
Mae strwythur a fformat y rhaglen wedi’i gynllunio fel bod myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd dysgu, gan gynnwys gwaith unigol, seminarau grŵp, gweithdai, darlithoedd ffurfiol a arweinir gan diwtoriaid, yn ogystal â thiwtorialau ar-lein mewn grwpiau ac yn unigol.

Mae’r llwybr Llawn Amser a Rhan Amser yn cynnwys dwy ran, Lefel 7 a addysgir ar gyfer Rhan 1 a phrosiect ymchwil seiliedig ar waith ar lefel doethurol (Lefel 8) yn Rhan 2.

Pynciau Modylau

Rhan 1

Bydd ymgeiswyr yn astudio’r modylau Lefel 7 gorfodol a ganlyn yn y flwyddyn gyntaf:

  • Archwilio Materion Cyfoed mewn Addysg 1: Adolygu Polisi a Dadansoddi beirniadol (30 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Addysg (30 credyd; gorfodol).

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio dau fodiwl gorfodol.

  • Ysgrifennu Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth mewn Addysg (30 credyd; gorfodol)
  • Dylunio a Rheoli Ymchwil mewn Addysg (30 credyd; gorfodol).

Mae’r modiwlau hyn yn eich cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o’ch dewis faes ymchwil a dyfnhau eich sgiliau dylunio ymchwil.

Mae’r drydedd flwyddyn yn cynnwys un modiwl datblygu ymchwil ymarferol (eich prosiect ymchwil ar raddfa fach eich hun:

  • Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 2: Cymhwyso Sgiliau Beirniadol, gan Gyfrannu at Wybodaeth: Arwain Gwelliant (60 credyd; gorfodol).

Rhan 2

Mae ail ran y rhaglen yn cynnwys y credydau Traethawd Hir Ymchwil (360 credyd; gorfodol) ar Lefel 8 sy’n gofyn am gynhyrchu adroddiad 60,000 o eiriau.

Mae’r ymchwil yn ffocysu ar arfer yn y gweithle, gan alluogi ymarferwyr i ymgymryd â rhaglen ddoethurol gan hefyd wneud cyfraniad sylweddol i’w harfer proffesiynol eu hunain yn ogystal â’u datblygiad strategol eu sefydliad.

Asesiad

Mae ystod o brosesau asesu’n berthnasol i’r modylau a addysgir gan gynnwys cyflwyniadau, blogiau, aseiniadau seiliedig ar fideo a rhai ysgrifenedig.

Caiff Rhan 2 ei hasesu ar ffurf prosiect ymchwil seiliedig ar waith 60,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Yn ddelfrydol, byddwch yn gweithio mewn lleoliad addysgol neu leoliad sy’n gysylltiedig ag addysg ac eisoes yn meddu ar radd Meistr; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr a chanddynt beth profiad o astudio ar Lefel 7 a phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth i wneud cais.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg na’r Gymraeg yn iaith frodorol iddynt ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd yn y Saesneg neu’r Gymraeg sy’n ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil, yn unol â’r disgwyliadau a nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) adeg y cais. Bydd ceisiadau myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu prosesu fel y’i nodir ym Mholisi Derbyn PCYDDS adeg y cais.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu, yn bennaf, at y rheiny sydd eisoes mewn gwaith.  Fodd bynnag, fe fydd yn cyfoethogi a hyrwyddo cynnydd pellach yng ngyrfaoedd a chyfleoedd gyrfa myfyrwyr. Bydd y sgiliau dadansoddi a throsglwyddadwy cryf sy'n rhan annatod o'r rhaglen yn werthfawr i ystod o lwybrau gyrfa a meysydd galwedigaethol o fewn y cyd-destun addysgol eang.

Gyda ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a gwerthuso o radd uwch, bydd yr Ed D yn rhoi i’w fyfyrwyr set gadarn o sgiliau meddwl yn feirniadol, dadansoddi a datrys problemau. Awgryma’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer y sector addysg fod galw cynyddol am y sgiliau hyn ar draws y maes cyflogaeth hwn.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Llety

Ewch i’n tudalennau Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.