Mae hawl gan holl staff, myfyrwyr, ôl-raddedigion (rhaglenni ymchwil a rhaglenni a addysgir) ac aelodau cysylltiol i gyfrif e-bost yn y Brifysgol.
- Microsoft Exchange yw’r system e-bost i staff
- Microsoft Office 365 yw’r system e-bost i fyfyrwyr
Gwybodaeth am:
- gael mynediad i e-byst o ddyfeisiau symudol
- cyfyngiadau ar gyfrifon
- rhestrau postio
- diogelwch
- cymorth a chefnogaeth
I gyfrifon e-bost y Brifysgol yr anfonir negeseuon e-bost swyddogol gan y Brifysgol at staff a myfyrwyr.
Er mwyn osgoi colli negeseuon pwysig, dylech edrych ar eich cyfrif e-bost Prifysgol yn aml.
Mae’r Brifysgol yn darparu cyfeiriad e-bost ar gyfer pob defnyddiwr fel a ganlyn:
- rhifmyfyriwr@myfyriwr.ydds.ac.uk i fyfyrwyr (e.e. 12345678@myfyriwr.ydds.ac.uk)
- enwdefnyddiwr@ydds.ac.uk i staff yn cynnwys aelodau cysylltiol (e.e. J.Bloggs@ydds.ac.uk)
Gall staff gael mynediad i’w cyfrif e-bost wrth ddefnyddio porwr gwe drwy fynd i dudalen mynediad ar y we i Microsoft Outlook a theipio eu henw defnyddiwr a chyfrinair yn y Brifysgol.
Gall myfyrwyr gael mynediad i'w cyfrif e-bost wrth ddefnyddio porwr gwe drwy fynd i dudalen fewngofnodi Office 365 YDDS a theipio eu cyfeiriad e-bost a chyfrinair.