Mae Y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan mewn llawer o arolygon a thablau cynghrair; isod, ceir canlyniadau’r rhai diweddaraf.
Whatuni
Cafodd Y Drindod Dewi Sant ganlyniadau gwych yng Ngwobrau Whatuni Student Choice 2020.
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn:
- 1af yn y DU am ‘Gyrsiau a Darlithwyr’, ar ôl ennill y wobr yn 2019 hefyd
- 1af yn y DU am ‘Lety’
- Yn y 10 gorau yn y DU am ‘Gymorth Myfyrwyr’
- Yn y 10 gorau yn y DU am ‘Brifysgol y Flwyddyn’.
Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr
Mae’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) yn casglu barn myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf am eu profiad ar y cwrs.
Ymhlith yr uchafbwyntiau 2020 mae:
- 1af yng Nghymru am ei Chymuned Ddysgu
- gydradd 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Celf
- gydradd 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Seicoleg Gymhwysol
- 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Addysg
- 8fed yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
- 8fed yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol
- 8fed yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Cyfrifiadureg.
Tabl Cynghrair y Guardian
Daeth Y Drindod yn =74ain yn Nhabl Cynghrair The Guardian 2022, gydag uchafbwyntiau ychwanegol yn cynnwys:
- 5ed yn y DU a 1af yng Nghymru am Gelf
- 1af yng Nghymru am Glasuron a Hanes yr Henfyd
- 3ydd yn y DU a 1af yng Nghymru am Ddylunio a Chrefftau
- 1af yng Nghymru am Addysg
- 1af yng Nghymru am Beirianneg: Mecanyddol
- 9fed yn y DU a 1af yng Nghymru am Fasiwn a Thecstilau
- 1af yng Nghymru am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth
- 1af yng Nghymru am Wyddor Fforensig ac Archaeoleg
- 10fed yn y DU a 1af yng Nghymru am Hanes
- 1af yng Nghymru am Gerddoriaeth.
The Times & Sunday Times Good University Guide
Mae safleoedd The Times & Sunday Times yn darparu gwybodaeth sy’n galluogi i fyfyrwyr wneud dewis gwybodus am eu haddysg uwch.
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 13eg yn y DU am foddhad myfyrwyr gydag ansawdd yr addysgu yng nghanlyniadau 2022.
At hynny, roedd Y Drindod Dewi Sant yn rhestru:
- 8fed yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol
- 8fed yn y DU am y prisiau llety prifysgol rhataf
- 2il yn y DU am ansawdd addysgu ym maes Peirianneg Awyrennol a Gweithgynhyrchu
- 19eg yn y DU am Bensaernïaeth
- 19fed yn y DU am Gelf a Dylunio
- 3ydd yn y DU am ansawdd addysgu yn y Clasuron
- 3ydd yn y DU am ansawdd addysgu mewn Hanes
- 2il yn y DU am ansawdd addysgu mewn Peirianneg Fecanyddol.
Tabl Cynghrair y Complete University Guide
Mae’r Complete University Guide yn cynhyrchu tablau cynghrair a safleoedd blynyddol yn ôl prifysgol a phwnc.
Cafodd Y Brifysgol safleoedd rhagorol yn Complete University Guide 2022; dyma'r uchafbwyntiau:
- 6ed yn y DU am foddhad myfyrwyr
- 6ed yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Archaeoleg
- 9ed yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Celf a Dylunio
- =6ed yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Cyfrifiadureg
- 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol
- 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Cynhyrchu
- 2il yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr o ran Peirianneg Fecanyddol
- 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Athroniaeth
- 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Seicoleg
- =9fed yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Polisi Cymdeithasol
- 1af yng Nghymru am Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
The Times Higher Education Student Experience Survey
Cafodd y Brifysgol ganlyniadau gwych yn y Times Higher Education Student Experience Survey sy’n atgyfnerthu’r profiad addysgu a dysgu personol a gynigir gan y Brifysgol:
- Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 7fed yn y DU am Brofiad Academaidd
- Daeth Y Drindod Dewi Sant yn gydradd 6ed yn y DUam staff parod eu cymwynas/ymroddedig
- Daeth Y Drindod Dewi Sant yn gydradd 8fed yn yDU am gefnogaeth/lles da
- Daeth Y Drindod Dewi Sant yn gydradd 4ydd yn yDU am berthnasoedd personol da gyda staff addysgu
- Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 4ydd yn y DU am diwtora mewn grwpiau bach.
Hynt Graddedigion
Hynt Graddedigion yw arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y DU ac mae'n cofnodi safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion diweddar.
Yn arolwg 2018/19:
- Roedd 91.3% o raddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.
Arolwg Ymgysylltu y Deyrnas Unedig
Arolwg Ymgysylltu y Deyrnas Unedig yw'r unig arolwg cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig sy'n ffocysu ar ymgysylltu â myfyrwyr.
Yn 2018, fe ddaeth Y Drindod Dewi Sant yn:
- 4yddyn y DU
- 4yddyn y DU am gynhaliaeth
- 5edyn y DU am asesu
- 7fedyn y DU am gyflogadwyedd
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yw’r system ar gyfer asesu ansawdd ymchwil sefydliadau addysg uwch y DU.
Yn FfRhY 2021, cafodd 74% o waith ymchwil y Brifysgol ei farnu’n eithriadol (30%) neu’n sylweddol iawn (44%) o ran ei effaith a’i arwyddocâd. Dengys hyn gryfder gwaith ymchwil y Brifysgol a’r cyfraniad a wna wrth chwilio am ddatrysiadau i heriau’r byd go iawn.
Arolwg Profiad Ôl-raddedig a Addysgir 2018
Arolwg Profiad Ôl-raddedig a Addysgir yw'r unig arolwg addysg uwch yn y Deyrnas Unedig sy'n casglu mewnbwn wrth fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyrsiau a addysgir am eu profiad dysgu ac addysgu.
Yn arolwg 2018 fe ddaeth Y Drindod Dewi Sant yn:
- yn y chwartel uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol
- yn y chwartel uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol gyda chynhaliaeth
- 6edyn y DU am foddhad gydag asesiad
- 9fedyn y DU am foddhad gyda chyflogadwyedd
People & Planet University League Table
Y People & Planet’s University League yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU sy’n dangos eu perfformiad amgylcheddol a moesegol.
Dyfarnwyd statws ‘Dosbarth Cyntaf’ i’r Drindod Dewi Sant yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion People & Planet 2017.