Skip page header and navigation

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Datblygu graddedigion cyflogadwy, cadarn sy’n llythrennog yn ddigidol

Mewn byd sy’n fwy a mwy cymhleth a byd-eang, bydd angen i raddedigion llwyddiannus gaffael ac arddangos ystod o sgiliau a medrau proffesiynol a phersonol. Mae’r cyfryw sgiliau’n amhrisiadwy er mwyn diogelu swydd, dechrau busnes a gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas.

Nod y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion yw rhoi i chi’r arfau sydd eu hangen i fodloni’r cyfryw gyfleoedd a heriau ac i arddangos y sgiliau a medrau hynny i gyflogwyr.

Mae’r chwildro digidol wedi trawsnewid cymdeithas yn barod ac mae’r momentwm hwnnw’n cyflymu o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws, yn arbennig yn y gweithle. Er enghraifft, i wella cynhyrchedd bydd rhaid i gyflogwyr ddefnyddio awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, gan fod gweithio o adref wedi dod yn norm i lawer o bobl a chaiff ei hwyluso gan ddefnydd effeithiol o dechnoleg.

Beth yw Priodoleddau Graddedigion?

  • Rhinweddau, sgiliau a medrau lefel uchel y dylai myfyrwyr eu datblygu o ganlyniad i’w profiad prifysgol. Rhinweddau proffesiynol a phersonol ydynt – priodoleddau – â’r nod o wneud i chi sefyll allan ac a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr.

    Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel:

    • gallu i ymgyfaddasu
    • cyfathrebu
    • creu portffolios
    • meddwl yn greadigol
    • meddwl yn feirniadol
    • gwneud cyflwyniadau
    • datrys problemau
    • rheolaeth prosiect
    • ysgrifennu adroddiadau
    • hunan-fyfyrio
    • gwaith tîm a chydweithredu gyda chyd-fyfyrwyr
    • defnyddio technegau amlgyfrwng
    • gweithio’n annibynnol
    • gweithio i derfynau amser

    Rhai enghreifftiau o’r sgiliau trosglwyddadwy:

    Gallu i ymgyfaddasu

    Efallai y bydd angen edrych ar wahanol bynciau drwy wahanol lensys, sy’n golygu y byddwch yn datblygu’r gallu i newid i’r lens priodol ar yr amser priodol ar gyfer pa bynnag bwnc y maent yn edrych arno. Mae gallu gwneud hyn yn galw am hunan-reolaeth gofalus.

    Cyfathrebu

    Bydd eich sgiliau ysgrifenedig a llafar yn cael eu datblygu ar draws gwahanol ddulliau wrth i chi ddysgu’r dull gyfathrebu briodol ar gyfer maes pwnc penodol. Er enghraifft, fe allech ddod ar draws ystod o wahanol ddulliau asesu, yn cynnwys traethodau, adroddiadau, blogiau, vlogiau ac arholiadau, fel y bo’n briodol i wahanol feysydd pwnc.

    Meddwl yn Feirniadol

    Defnyddir a datblygir sgiliau meddwl beirniadol wrth i chi edrych ar draws ffiniau disgyblaethol i ystyried safbwyntiau eraill yn ogystal â dechrau cymharu a gwrthgyferbynnu cysyniadau ar draws meysydd pwnc.

    Datrys problemau

    Drwy astudio ar draws gwahanol ffiniau pwnc a thrwy astudio ystod ehangach o bynciau, byddwch yn datblygu sgiliau gwerthuso dyfnach wrth i chi ddysgu nifer o ymagweddau rhesymegol a methodolegol gwahanol a gallu dewis yr un gorau i’w ddefnyddio ar gyfer amgylchiadau penodol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio eich ystod o wybodaeth academaidd neu wybodaeth bwnc i adnabod datrysiadau o natur ymarferol neu dechnegol.

  • Rydym wedi gweithio gydag ystod o gyflogwyr i adnabod y medrau craidd sydd eu heisiau gan weithwyr newydd, wedi dadansoddi pa sgiliau sydd eu hangen ar entrepreneuriaid ac wedi gwrando ar yr hyn y mae ar fyfyrwyr eisiau ei gyflawni yn ystod eu hamser yn y Brifysgol.

    Rydym hefyd wedi adfyfyrio ar dueddiadau cyflogaeth cenedlaethol. Nawr, fe wyddom y bydd graddedigion y dyfodol yn cael 12 neu fwy o yrfaoedd ac y bydd technolegau newydd yn effeithio ar ddyfodol gwaith.

     Nod y modylau yw ffocysu ar briodoleddau:

    • Cyflogadwyedd
    • Sgiliau Digidol a
    • Dysgu am Oes

    Mae’r modylau, sydd wedi’u teilwra i’ch disgyblaeth pwnc, yn sicrhau bod graddedigion y Drindod Dewi Sant wedi’u paratoi am weithle digidol a fydd hefyd yn gweld cynnydd yn y galw am greadigrwydd, arloesi a chadernid.   

  • Mae’r modylau’n eich galluogi i ddatblygiad medrau sy’n ffocysu ar yrfaoedd wedi’u strwythuro trwy fframwaith llythrennedd digidol cyffrous.

    Caiff tri Phriodoledd Graddedigion Cyflogadwyedd, Sgiliau Digidol a Dysgu Gydol Oes eu tanategu gan 33 o fedrau sy’n berthnasol i’ch gradd.

    Byddwch yn astudio hyd at 40 o gredydau ar Lefelau 4, 5 a 6 sy’n gyfwerth â blynyddoedd 1, 2 a 3 gradd israddedig llawn amser.

    Mae’r modiwlau’n hwyluso dull rhyngddisgyblaethol sy’n eich galluogi i ehangu eich persbectif a deall pwysigrwydd meddwl amrywiol wrth greu syniadau a datrys problemau. Mae un o’r modiwlau, er enghraifft, yn cyflwyno’r cysyniad o ‘Wicked Problems’ fel anghydraddoldeb, gordewdra, tlodi a chynaliadwyedd ac yn ystyried sut y gall myfyrwyr weithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion posib.

  • Ar lefelau 4 a 5 mae dau asesiad i bob modiwl sydd wedi’u cynllunio gan diwtor y modiwl ac sy’n seiliedig ar bortffolio tystiolaeth sy’n gysylltiedig â disgyblaeth. Ar Lefel 6 byddwch yn cwblhau traethawd hir, prosiect, arddangosfa, cynhadledd neu arddangosfa sy’n gysylltiedig â’ch maes disgyblaeth.