Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth o safon uchel i’w myfyrwyr. Os myfyriwr sy’n dechrau ar Addysg Uwch ar ôl gadael gofal ydych chi, cewch fod yn dawel eich meddwl y bydd y Brifysgol yn darparu’r cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen.
Mae'r cymorth hwn ar gael wrth i chi benderfynu ar beth neu ble y dylech astudio, mae'n parhau gydol y broses o wneud cais i’r brifysgol, a bydd yn gymorth cyfredol unwaith y byddwch wedi dechrau ar eich cwrs. Mae help a gwybodaeth hefyd ar gael os ydych yn rhywun sy’n cynghori myfyriwr sydd wedi gadael gofal. Rydym yn falch dros ben o'r ffaith i Farc Ansawdd Buttle ar gyfer y DU gael ei ddyfarnu er cydnabod ein hymrwymiad wrth y rheini mewn addysg uwch sydd wedi gadael gofal.
Os ydych yn fyfyriwr sy’n gadael gofal, neu’n cynghori rhywun sydd wedi gadael gofal, eich cyswllt cyntaf yw’r person a enwir ar gyfer pobl sydd wedi gadael gofal:
Campws Caerfyrddin:
Delyth Lewis
Ffôn: 01267 676947
Ebost: d.lewis@ydds.ac.uk
Campws Llambed:
Lynda Lloyd-Davies
Ffôn: 01570 424722
Ebost: l.lloyd-davies@ydds.ac.uk
Campws Abertawe:
Sharon Alexander
Ffôn: 01792 481123
Ebost: sharon.alexander@sm.uwtsd.ac.uk
Myfyrwyr nad ydynt yn byw ar y campws:
Delyth Lewis
Ffôn: 01267 676947
Ebost: d.lewis@ydds.ac.uk
Maent yn gweithio yn adeiladau Gwasanaethau Myfyrwyr, a gallant roi gwybodaeth ichi am bob agwedd ar y cymorth a ddarperir gan y Brifysgol – cyn cael eich derbyn ac wrth astudio.
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, darperir y canlynol:
- Cyngor cyn cael eich derbyn gan y Cynghorydd Gyrfaoedd, a help lle bo angen wrth wneud cais a chael eich derbyn.
- Cymorth mentora gan gymheiriaid i’ch helpu i ymsefydlu yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.
- Cymorth ariannol wedi’i dargedu i bobl sydd wedi gadael gofal trwy arian bwrsarïau a chronfeydd ariannol wrth gefn y Brifysgol.
- Adran Gwasanaethau Myfyrwyr integredig, sy’n ei gwneud yn hawdd manteisio ar wasanaethau ar gyfer cymorth ariannol, llety, anghenion ychwanegol, cwnsela, a chymorth academaidd arbenigol.
- Cyfarfodydd rheolaidd rhwng y cyswllt a enwir a myfyrwyr sydd wedi gadael gofal i nodi gofynion cymorth, a chysylltu ag adrannau’r Brifysgol ac asiantaethau allanol lle bo’n briodol (ar ôl cael caniatâd y myfyriwr).
- Help gyda’r gwaith o gynllunio a threfnu eich llety ar gyfer y tymor a’r gwyliau fel ei gilydd.
- Gradd uchel o gyfrinachedd ar gyfer myfyrwyr o gefndir gofal ynghylch y gwasanaethau a ddarperir a threfniadau penodol.
Mae modd i chi ddatgan ar eich cais UCAS i chi fod mewn gofal, neu gall eich tîm gwasanaethau cymdeithasol roi gwybod i ni eich bod wedi gadael gofal. O’r herwydd, gallwn sicrhau bod cymorth ar gael yn gynnar iawn.
Lawrlwythwch y Canllaw fyfyrwyr gadael gofal 2011-2012 (pdf) neu gwyliwch ein Flipbook ar-lein