Benthyciadau Ôl-raddedig

Mae Cyllid Benthyciadau Meistr Ôl-raddedig bellach ar gael ar gyfer myfyrwyr y DU.

Mae cyllid ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig yn wahanol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.


Benthyciadau Meistr Ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr y DU sy’n byw yng Nghymru

Yn meddwl am ddechrau ar gwrs Meistr Ôl-raddedig eleni? Gwyliwch y fideos Cyllid Myfyrwyr Cymru er mwyn darganfod beth sydd ar gael ar eich cyfer, sut i wneud cais a beth , pryd a sut y byddwch yn ei ad-dalu.

Gall myfyriwr sy’n byw yng Nghymru ac sydd yn dechrau ar gwrs Meistr ôl-raddedig amser llawn neu ran amser (a addysgir neu sy’n seiliedig ar ymchwil) wneud cais am fenthyciad Meistr Ôl-raddedig (fel  cyfuniad o grant a benthyciad) hyd at:

  • £18,025 ar gyfer 2021 i 2022
  • £17,489 ar gyfer 2020 i 2021.

Caiff  llog ei godi ar Fenthyciadau Meistr Ôl-raddedig o’r diwrnod cyntaf y caiff arian ei dalu i chi. Byddwch yn gymwys i wneud ad-daliad y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu wedi ymadael â’r cwrs.  Am wybodaeth ar sut mae ad-dalu Benthyciadau Ôl-raddedig yn gweithio, ewch i Ad-dalu Cyllid Meistr Ôl-raddedig

Os yw eich cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, bydd angen i chi wneud cais am Fenthyciad Meistr Ôl-raddedig.

Dysgwch am y cyllid sydd ar gael o 1 Awst 2019:

  • Pwy sy’n gymwys i’w gael?
  • Faint gallaf ei gael?
  • Sut a Phryd i wneud cais
  • Rhieni a Phartneriaid
  • Myfyrwyr yr UE

Benthyciadau Meistr Ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr y DU sy’n byw yn Lloegr

Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw yn Lloegr, gallwch wneud cais am fenthyciad hyd at:

  • £11,570 os gwnaeth eich cwrs ddechrau yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-2022.
  • £11,222 os gwnaeth eich cwrs ddechrau yn ystod y flwyddyn academaidd 2020-2021.

Benthyciadau Doethur Ôl-raddedig


Os yr ydych yn dechrau ar gwrs Doethurol ôl-raddedig llawn-amser neu ran-amser o 1 Awst 2021, medrwch geisio am Fenthyciad Doethurol Ôl-raddedig fyny hyd at £27,265.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer astudio ôl-raddedig, ymwelwch â thudalennau gwe Astudio Ôl-raddedig Llywodraeth y DU.

Dysgwch am:

  • Gymhwyster
  • Y cymorth ariannol sydd ar gael
  • Sut a phryd i wneud cais

Benthyciadau Datblygu Gyrfa

Mae’n bosibl eich bod yn gymwys am Fenthyciad Datblygu Gyrfa os nad oes unrhyw gyllid arall ar gael ar eich cyfer. Pe baech yn penderfynu gwneud cais, dylech wneud hynny dri mis cyn i’ch cwrs ddechrau er mwyn rhoi digon o amser i’r banc i brosesu eich cais.

  • Benthyciadau banc  yw Benthyciadau Datblygiad Proffesiynol a Gyrfaoedd i dalu am gyrsiau a hyfforddiant sy’n helpu eich gyrfa neu’n eich helpu i mewn i waith.
  • Mae’n bosib y gallech fenthyca rhwng £300 a £10,000.
  • Fel arfer, cynigir benthyciadau ar gyfradd llog is, gyda’r llywodraeth yn talu’r llog tra eich bod chi’n astudio.

Ffoniwch Y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol ar 0800 100 900 i ddarganfod pa fanciau sy’n cynnig y benthyciad ac i archebu’r pecyn cais.


Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau (PCYDDS)

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau ac ysgoloriaethau sy’n darparu  cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr.

Mae’r dyfarniadau hyn yn cynnwys ysgoloriaethau ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr y DU/UE a myfyrwyr rhyngwladol, yn ogystal â bwrsarïau penodol ar gyfer y sawl sydd ag amgylchiadau arbennig. Dyfernir yr holl fwrsarïau ac ysgoloriaethau ar yr amod eich bod yn gwneud cais llwyddiannus drwy’r swyddfa berthnasol.

Ymwelwch â’n tudalennau bwrsarïau ac ysgoloriaethau am fanylion llawn y cyllid y mae’n bosibl y gallwch wneud cais amdano.


Addysg Gychwynnol Athrawon Ôl-raddedig

Mae cymorth ar gael i’ch helpu gyda chostau eich addysg athrawon os ydych yn astudio ar gwrs Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) amser llawn neu ran amser sy’n arwain at gymhwyster megis Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).

  • Mae cyrsiau ôl-raddedig AGA yn denu cyllid yn yr un ffordd â chyrsiau gradd israddedig eraill. Felly, gallwch wneud cais am ffioedd dysgu a chostau byw.
  • Mae’n bosib y byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn cymhellion AGA penodol neu grant gan gyngor ymchwil.
  • Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA) hefyd ar gael os oes gennych anabledd, gan gynnwys cyflwr iechyd hir dymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol. Grantiau yw LMA i helpu talu’r costau ychwanegol hanfodol a allai godi o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd.

Gall myfyrwyr AGA amser llawn ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais drwy ddefnyddio gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru:

Gall myfyrwyr AGA rhan amser ymweld ag adran ran amser gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru er mwyn dod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais.