Ein myfyrwyr sydd wrth wraidd popeth a wnawn

Ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, ein myfyrwyr sydd wrth wraidd popeth a wnawn, ac felly gwnaethom ofyn i rai o’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr i rannu eu profiadau gyda ni.

Addysg Gorfforol (MA)

Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (MSc)

“Hoffwn gymryd ychydig o amser dim ond i ddweud wrthych ba mor werthfawr yn fy marn i yw fy ngradd MSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol. Mae’r cwrs ei hun yn amrywiol iawn ac yn ymdrin â phob rhan o’r agenda amgylcheddol a chynaladwyedd, gan ddarparu platfform amhrisiadwy o wybodaeth a wnaeth, yn fy marn i, fy helpu i gael swydd ar y Tîm Newid yn yr Hinsawdd yma gyda Chyngor Dinas Cofentri. Hoffwn yn enwedig  gymeradwyo’r modylau Rheolaeth Amgylcheddol a Rheolaeth Gwastraff ac Adnoddau, oherwydd gwnaethant gwmpasu fy niddordebau penodol yn y maes ac arwain at fy newis o draethawd hir gan roi i mi  gyfle i weithio ochr yn ochr â Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd a wnaeth fy nghynorthwyo’n fawr iawn o ran fy natblygiad proffesiynol.  Yn ogystal â’r ystod wych o fodylau sydd ar gael, darganfûm fod y darlithwyr yn wybodus iawn  ac yn gefnogol dros ben, gan wneud y cwrs yn llawer mwy pleserus a’m darparu â sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa yn y maes. - Rhian Jones, Ymgynghorydd  Cynaladwyedd

Diwinyddiaeth (Moeseg Gristnogol) (PhD)

Astudiaethau Canoloesol (MA)

“Nid oeddwn wedi astudio’n ffurfiol am beth amser, ac nid oeddwn erioed wedi astudio ar lefel ôl-raddedig, ac felly, roedd fy nisgwyliadau yn rhai cyffredinol – diddordeb, her a meysydd newydd.  Mae wedi bodloni’r disgwyliadau hyn yn dda... Nid oeddwn wedi gallu dod o hyd yn lleol i gwrs meistr astudiaethau canoloesol  a addysgir yn Melbourne. Hwn oedd y cwrs dysgu o bell gorau y des i o hyd iddo o ran y modylau yr oedd yn eu cynnig, ac mae gan Y Drindod Dewi Sant brofiad o gynnal cyrsiau astudio o bell...  [Y pethau gorau am y cwrs hwn yw] cynnwys y modwl, adborth ar y traethawd ac e-byst prydlon a chefnogol gan y tiwtor.” - Anna Wells, Astudiaethau Canoloesol (MA) (ar-lein), Melbourne, Awstralia

Dylunio Diwydiannol (MSc)

“Astudiais y cwrs Meistr rhan-amser pan oeddwn yn gweithio mewn swydd amser llawn, ac felly roedd hi’n anodd cael amser i ymweld â’r Brifysgol; roedd y tiwtoriaid yn gynorthwyol a hyblyg dros ben.   Roeddwn yn gallu galw heibio a byddent yn gwneud amser ar gyfer cyfarfod.” - Matt Bellis MSc Dylunio Diwydiannol (rhan amser), Sir y Fflint, Cymru

Celf Gain (MA): Deialogau Cyfoes 

Textiles (MA): Contemporary Dialogues

“Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod ar y cwrs Tecstilau (MA) yn fawr iawn; mae wedi rhoi i mi'r amser, y gefnogaeth a’r amgylchedd canolbwyntiedig i ddatblygu fy arfer creadigol.  Y peth yr wyf wedi’i werthfawrogi fwyaf yw cael at offer a chyfleusterau, ac elwa oherwydd gwybodaeth dechnegol a damcaniaethol amhrisiadwy’r staff.   Byddwn yn cymeradwyo’r cwrs hwn yn fawr i bawb sydd am ddatblygu eu harfer a’u meddwl beirniadol” - Lucy Read, Tecstilau (MA): Deialogau Cyfoes

Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth (MSc)

Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol (MA)

“Roeddwn ers tro byd  eisiau astudio am fy ngradd MA, ond roedd yn ymddangos fel petai bywyd ac arian yn fy rhwystro bob tro.  Pan welais y cwrs MA hwn, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi astudio’r rhaglen, a dyma, mae’n debyg, oedd yr amser iawn i mi wneud hynny a chymryd rhan.  Roeddwn hefyd wedi profi rhai newidiadau mawr personol a rhai yn fy mywyd a wnaeth fy ysgogi i adolygu’r breuddwydion yr oeddwn bob amser wedi’u meithrin, ac felly eu gwireddu.  Mae cynnwys y cwrs yn fy swyno ac mae’r fformat (ar–lein) hefyd at fy nant.  Rwy’n hoff iawn o’r deunydd pwnc am ei fod yn berthnasol, drwy brofiad ac yn academaidd i’m profiad blaenorol.  Rwy’n chwilio am atebion ‘dwys’ i gwestiynau, ac mae’r cwrs hwn yn  rhoi cyfeiriad i mi wrth ateb y cwestiynau hynny...

“Yn gyffredinol, rwy’n hapus gyda’r cwrs yn ei gyfanrwydd ac felly mae’n anodd dewis yr un peth sydd orau gennyf.  Teimlaf fod y cwrs hwn yn unigryw ac yn arloesol ac mae’n rhoi cyfle i mi astudio syniadau sydd i weld fel petaent y tu allan i’r Academi... Dewisais astudio gyda’r Drindod Dewi Sant  oherwydd gwnaeth y cwrs MA Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol apelio i mi.  (Hefyd, rwy’n wir caru Cymru  er nad wyf yno yn gorfforol...gobeithiaf y gwnaiff astudio’r cwrs MA roi rheswm da a chyfle i mi ymweld â hi yn bersonol!)” - Caroline Denby, Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol (MA) (ar-lein), Ontario, Canada

Rheoli Eiddo a Chyfleusterau (MSc) 

 “Mae’r cwrs MSc wedi rhoi i mi fewnwelediad amhrisiadwy i gydrannau amrywiol rheoli cyfleusterau, ac mae wedi bod yn brofiad dysgu pleserus a chadarnhaol” – Rob Peake, MSc Rheoli Cyfleusterau, DU

Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (MSc) 

 “Gwnaeth y cwrs MSc roi’r cyfle i mi ymweld â’r Asores ac Antalya (Twrci) i astudio rheolaeth amgylcheddol.” - Tania Wadham, Ymgynghorydd Amgylcheddol

Ysgrifennu Creadigol (MA)

 “Yn ystod fy pum mlynedd ar y cwrs MA, cefais gyfle i archwilio nid yn unig damcaniaeth ac arfer genres traddodiadol, megis y ffuglen fer a barddoniaeth, ond hefyd  sgriptio ffilmiau  a dramâu radio. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i ddarganfod pa dalentau sydd efallai gennyf ar draws sbectrwm ysgrifennu eang.” - Ros Hudis , Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio (MA) (rhan amser), Aberystwyth, Cymru

Addysg (MA)

Astudiaethau Canoloesol (Tystysgrif Ôl-raddedig)

 “Hyd yn hyn, rwy’n ei fwynhau. Mae fy nhiwtor (a phob aelod arall o’r staff yr wyf wedi ymwneud â nhw) yn wybodus ac o gymorth ac mae’r deunydd pwnc yn ddiddorol... Roeddwn yn gwybod fy mod am astudio hanes canoloesol, a chefais fy nenu at y cwrs yn bennaf oherwydd ei fod yn ymdrin â hanes mynachaidd ac am fod ganddo diwtor sydd yn awdurdod cydnabyddedig yn y maes hwnnw.   Hefyd am ei fod yn bosibl ei astudio o bell ac roedd y gost yn rhesymol iawn” – Stephanie O’Donoghue Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Canoloesol (ar-lein), Suffolk, DU

Dylunio Trafnidiaeth (MA)

“Gwnaeth rhyddid a hunangyfeiriad y cwrs Meistr hwn  fy ngalluogi i ehangu fy sylfaen sgiliau gyda phrosiect rwy’n wir frwdfrydig drosodd.   Mae’r darlithwyr bob amser ar gael i gynnig cyngor – a pheidiwch â chael eich synnu os byddant yr un mor frwd dros eich prosiect ag yr ydych chithau. Mae gan y Brifysgol gyfoeth o offer ac adnoddau, ac mae cyfle ar gael i ymgysylltu â chymheiriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.   Hoffwn gymeradwyo’n fawr y cwrs Meistr hwn i bawb sy’n ystyried datblygu eu haddysg ymhellach.” - Ben Hammonds, Dylunio Trafnidiaeth (MA), Abertawe, DU

Astudiaethau Clasurol (MA)

 “Rwy’n fodlon iawn â’r deunyddiau dysgu ar-lein a’r cyswllt gyda thiwtoriaid”. - Diane Stankaitis Astudiaethau Clasurol (MA) (ar-lein), Leeds, DU

Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth (MSc)

Lladin (Tystysgrif Ôl-raddedig)

 “I ran helaeth, rwy’n ddysgwr hunangyfeiriol, ac felly, mae’r rhaglen dysgu o bell yn fy siwtio i’r dim.  Mae’r Gyfadran a chysylltiadau eraill wedi bod yn gyfeillgar ac o gymorth pan oedd angen help arnaf. Mae’n amgylchedd cefnogol, heb fod yn ymwthiol.

“Yn America, mae rhaglenni ôl-raddedig  Lladin o bell yn brin iawn, ac mae gan y rhai sydd ar gael wefannau rhagargoel. Mae gan wefan Y Drindod Dewi Sant ryw ymdeimlad cyfeillgar iddi; cefais yr argraff bod y rhaglen wedi’i dylunio ar gyfer boddhad myfyrwyr yn hytrach na i’r gwrthwyneb. “Rwy’n addysgu hanes ac athroniaeth mewn prifysgol fechan yn America, ac rwy’n meithrin ymagwedd sy’n gwneud i fyfyrwyr deimlo bod croeso cynnes iddynt. Pan fydd rhaid, rwy’n plygu i’w hamgylchiadau unigryw fel bod ganddynt bob cyfle i lwyddo yn eu gwaith cwrs. Mae’n ymddangos fel pe bai’ gan Y Drindod Dewi Sant yr un ymagwedd. Teimlodd fel y byddai'n fy ngweddu a dyna'n wir a fu'r achos!" - Carrie Bates, Lladin (Tystysgrif Ôl-raddedig) (ar lein) Efrog Newydd, UDA

Ffotograffiaeth: Deialogau Cyfoes (MA)

“Rwy wedi hoffi’r cwrs MA Deialogau Cyfoes yn fawr iawn oherwydd mae ei elfen amlddisgyblaethol yn gyffrous ac yn heriol, ac mae’n fy ngalluogi i ddatblygu i gyfeiriadau creadigol nad oeddwn erioed wedi eu hystyried.   Rhodd y cwrs amser i mi, a gwnaeth y tiwtoriaid ddisgwyl i mi arbrofi gan ddefnyddio nifer o wahanol ymagweddau at fy ngwaith.” - Phil McAthey, Ffotograffiaeth (MA), DU

Dylunio a Thechnoleg (TAR)

Astudiaethau Canoloesol (MA)

“Rwy’n hoffi testunau’r cwrs a chynullyddion y modwl, pob un ohonynt wedi rhoi adborth da ar yr aseiniadau... Dewisais astudio gyda’r Drindod Dewi Sant yn gyntaf oherwydd gwnaethant gynnig rhaglen dysgu o bell mewn maes a oedd o ddiddordeb i mi.  Mwynheais fy nghyfnod yn fyfyriwr Dysgu o Bell a phenderfynais barhau i astudio rhaglen arall a oedd o ddiddordeb i mi.” -Christopher Garwood, Astudiaethau Canoloesol (MA) (ar-lein) Manceinion, DU

Athroniaeth (MA)

“Staff cynorthwyol iawn (academaidd a chymorth) – a chyfathrebu da... Roeddwn yn chwilio am her, y tu allan i fy mywyd gwaith, ac mae athroniaeth wedi bod yn ddiddordeb parhaus.  Roedd y cwricwlwm i weld yn heriol, ond yn ddiddorol, ac roedd y trafodaethau gyda’r staff cyn i mi wneud cais yn addysgiadol ac yn gefnogol.  Gwnaeth y sefydliad ymddangos fel pe bai’n deall heriau dysgu ôl-raddedig o bell. O ganlyniad i hyn i gyd, roedd Y Drindod Dewi Sant a MA Athroniaeth yn ddewisiadau naturiol.” - Martin Whitworth, MA Athroniaeth (MA) (ar-lein), Banbury, DU

Arfer Proffesiynol (MA)