Mae ymchwil yn gwbl ganolog i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Lampeter

  • Ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol
  • Astudiaeth doethurol hyblyg trwy astudiaethau preswyl neu ddysgu o bell
  • Prifysgol hanesyddol, a arweinir gan ymchwil
  • Cymorth sgiliau ymchwil

Mae ymchwil ac ysgolheictod yn gwbl ganolog i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rydym yn croesawu ceisiadau i raddau ymchwil ac mae gennym brofiad sylweddol o oruchwylio myfyrwyr preswyl a rhai sy’n astudio o bell wrth iddynt gwblhau eu hastudiaethau.

Ein Graddau Ymchwil

  • Meistr Athroniaeth trwy Ymchwil – MPhil
  • Meistr Ymchwil - Mhres
  • Doctor Athroniaeth trwy Ymchwil – PhD
  • Doethuriaeth Broffesiynol - yn cynnwys y DBA
  • Doctor trwy Waith Cyhoeddedig – PhD

Ydw i’n gymwys?

Fel arfer, gofynion mynediad ymgeiswyr ar gyfer graddau ymchwil yw gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch neu radd Meistri sy’n berthnasol i’r prosiect ymchwil arfaethedig a ddyfarnwyd gan Brifysgol yn y DU neu Brifysgol gydnabyddedig arall neu sefydliad addysg uwch, neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA). Dylid trafod gofynion mynediad ymhellach gyda’r Ysgol.

Beth fydd y gost?

Mae’r ffioedd yn amrywio’n ôl y rhaglen rydych yn gwneud cais amdano, hyd y cwrs a p’un a ydych yn astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser. Ffioedd

Pryd alla’ i ddechrau?

Mae tri phwynt mynediad ar gyfer graddau PhD, MPhil, MA gan Ymchwil / MSc yn ôl Ymchwil, a PhD trwy Waith Cyhoeddedig:    

  • 1 Hydref
  • 1 Chwefror 
  • 1 Mehefin

Er mwyn gwarantu pwyntiau mynediad penodol, rhaid derbyn cais o leiaf 3 mis cyn y pwynt mynediad perthnasol. 

Ble a sut alla’ i astudio?

Naill ai adref neu yn un o’n campysau, yn rhan-amser neu’n amser llawn.