Ydds Hafan  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Ôl-raddedig  -  TAR Uwchradd Busnes gyda SAC

TAR Uwchradd Busnes gyda SAC

Mae addysg a hyfforddiant athrawon Busnes yn nodwedd hir-sefydlog o’r Drindod Dewi Sant a’r brifysgol yw prif ddarparwr athrawon Busnes yng Nghymru. Fel y cyfryw, mae’n fraint gennym fwynhau enw da i eiddigeddu wrtho yn y sector.

Mae’r cwrs yn ymgorffori’r newyddbethau a ffyrdd o feddwl mwyaf diweddar mewn addysgu Astudiaethau Busnes. Mae’r Llwybr Astudiaethau Busnes yn darparu hyfforddiant proffesiynol diddorol a pherthnasol sy’n eich galluogi i:

  • trawsnewid eich arbenigedd Astudiaethau Busnes yn addysgu cymwys ac effeithiol yn yr ystafell ddosbarth;
  • datblygu dealltwriaeth o sut mae disgyblion yn dysgu pynciau Busnes;
  • gwerthuso’n feirniadol a chyfoethogi eich addysgu i wella ansawdd ac effeithiolrwydd yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r cwricwlwm newydd yn awgrymu mai un o ddibenion allweddol y cwricwlwm yw bod dysgwyr yn ‘gyfranogion mentrus a chreadigol’.  Mae ein TAR yn cydnabod bod gan athrawon Busnes ran i’w chwarae wrth ddatblygu dysgwyr sy’n gallu mentro’n ofalus, meddwl yn greadigol, ac adnabod a gafael mewn cyfleoedd trwy addysgu ysbrydoledig a gwneud cysylltiadau rhwng y byd busnes ac addysg.

Mae gan y cwrs Astudiaethau Busnes gysylltiadau cryf gyda’r rhwydweithiau addysgu Astudiaethau Busnes proffesiynol ac ymhlith y siaradwyr gwadd mae swyddogion pwnc o CBAC yn ogystal â chynrychiolwyr allweddol o fentrau Llywodraeth Cymru.

Rydym yn hapus i gael cysylltiadau cryf gydag Ysgol Fusnes Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle mae’r ‘Big Business Bonanza’ yn rhoi i fyfyrwyr TAR Busnes gyfle blynyddol i ddarparu gweithdai arloesol a chyffrous i ddisgyblion Blwyddyn 10 sydd wedi dewis gwneud Busnes.

Dewch i ymuno â ni i helpu siapio pennod nesaf addysg Cymru!

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

TAR Uwchradd Astudiaethau Busnes gyda SAC
Cod UCAS: 2X5T
Ymgeisio drwy UCAS


Diwrnod Agored TAR Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Sut i Wneud Cais Cymorth ariannol UCAS
Enw'r cyswllt:: Alison Suzanne Evans

Ffioedd Dysgu 2021/22:
Cartref: £9,000
Ddim yn berthnasol

Pam dewis YDDS | Yr Athrofa i astudio ar gyfer eich TAR?

  • Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA
  • Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol
  • Cyfradd gyflogaeth ardderchog o 99% ar gyfer Graddedigion TAR (DLHE 2016/17)
  • Cewch astudio ar gampws newydd modern Glannau Abertawe (SA1) gwerth £350m a’r campws hanesyddol yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal mae gennym safle bychan yn y Tramshed Tech, Caerdydd
  • Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael

Map Addysg Cymru

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:

  • Modylau gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil

Pynciau Modylau

Mae cynnwys y rhaglen  wedi’i grwpio o dan bedwar pennawd modwl:

  • Y Dysgwr – pwy ydw i’n ei addysgu?
  • Dysgwyr, ysgolion a chymunedau – lle ydw i’n addysgu?
  • Ymchwilio i’r dysgu – beth, pam a sut ydw i’n addysgu? (ffocws ar ymchwil)
  • Arwain yr Addysgu – beth, pam a sut ydw i’n addysgu? (ffocws ar ddisgyblaeth pwnc ar waith)

Drwy drefnu’r modylau fel hyn byddwch yn gallu ffocysu ar y disgybl a chymryd ystyriaeth lawn o’r cyd-destun ehangach sy’n effeithio ar addysg.

Hefyd, byddwch yn gallu sicrhau bod eich arfer yn yr ystafell ddosbarth yn cael ei seilio ar sylfaen ymchwil gadarn.

Golyga hyn y bydd ein rhaglen yn eich herio’n ymarferol ac yn ddeallusol ar yr un pryd.

Caiff pob modwl ei asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, posteri a chyflwyniadau. Dylunnir yr aseiniadau i’ch galluogi i adfyfyrio ar eich arfer eich hun a pherthnasu’ch profiadau i’r ddamcaniaeth rydych wedi’i dysgu.

Caiff eich profiad addysgu proffesiynol ei asesu yn erbyn meini prawf y Safonau Addysgu Cymwysedig drwy arsylwadau gan eich tiwtoriaid a’ch mentoriaid a chyflwyno portffolio o waith sy’n brawf o’ch medrau yn erbyn y safonau hyn.

Llwybr Cyfrwng Cymraeg

Mae’r llwybr TAR Uwchradd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae ein graddedigion o’r llwybr TAR Uwchradd cyfrwng Cymraeg yn llwyddiannus wrth ddiogelu rolau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Asesiad

Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:

  • Astudiaethau achos
  • Portffolios
  • Cyflwyniad fideo
  • Prosiect Ymchwil

Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.

Dolenni Diddorol

Athrofa Partneriaeth Dysgu Proffesiynol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Gradd Israddedig

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

Cymwysterau TGAU

Gradd B neu uwch mewn TGAU Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg.

Hefyd, bydd ar fyfyrwyr sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg angen TGAU Cymraeg (iaith gyntaf) gradd B neu uwch.

Mae gweithdai a phrofion cywerthedd ar gael i’r rheiny sydd â Gradd C TGAU Saesneg Iaith, Mathemateg a Chymraeg.

Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

Profiad Gwaith

Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn  TeacherEd@uwtsd.ac.uk

Am beth ydym ni’n chwilio?

  • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
  • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
  • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
  • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
  • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
  • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
  • Gwydnwch a dibynadwyedd
  • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
  • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

  • Ansawdd y datganiad personol
  • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
  • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
  • Ansawdd y cyfweliad unigol
  • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
Cyfleoedd Gyrfa

Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.

Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.

Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen.  Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Costau Ychwanegol

Costau Ychwanegol

Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

Costau gorfodol:

  • Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
  • Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
  • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
  • Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
  • Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1

 Costau Angenrheidiol: 

  • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
  • Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
  • Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’

Dewisol:

  • Costau argraffu
  • Teithiau astudio dewisol
Dyfyniadau Myfyrwyr

Hannah Elizabeth Davies

"Gellir cymhwyso Busnes i fywyd go iawn am ei fod yn ymarferol a pherthnasol. Gall dewis TGAU Astudiaethau Busnes agor drysau ym mhobman."


Kate Morris

"Mae Busnes yn berthnasol i fywyd go iawn ac i bob pwnc a diwydiannau."


James Little

"Dewisais addysgu am mai plant yw’r dyfodol ac mae angen i ni fuddsoddi yn ein pobl ifanc os yw’r byd am fod yn well lle. Cafodd dysgu am fusnes effaith ar fy mywyd ac fe’m gwnaeth yn fwy penderfynol i weithio’n galed a gwneud arian."


Sam Hyde

"Roeddwn yn gweithio yn y diwydiant fel Rheolwr Gweithredol Rhanbarthol i gwmni cerbydau a’r rhan o’r swydd roeddwn yn ei charu fwyaf oedd hyfforddi a datblygu pobl a chael y gorau allan ohonynt. Wrth addysgu, roeddwn yn gallu cael y gorau allan o bobl bob dydd."


Bridie Phipps

"Mae popeth yn fusnes, mae busnes ym mhobman. Mae angen i’r genhedlaeth iau fod yn wybodus fel eu bod yn gallu ei ddefnyddio er lles iddyn nhw pan fyddant yn mynd allan i’r byd."


Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Bwrsariaethau Hyfforddi Athrawon TAR

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Disgrifiad y Rhaglen

Strwythur y Rhaglen

Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:

  • Modylau Gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Darpariaeth prifysgol

Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.

Ar gyfer rhai pynciau uwchradd, bydd y ddarpariaeth yn digwydd mewn man mwy arbenigol. Mae hyn yn cynnwys pynciau gwyddoniaeth uwchradd, a gynhelir yn y cyfleusterau gwych yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.  

Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.   

Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol

Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.

Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.

Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.

Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.

Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.

Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth