Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Ôl-raddedig - TAR Uwchradd Hanes gyda SAC
Mae’r llwybr TAR Uwchradd Celf a Dylunio yn gyffrous, arloesol a heriol. Fe fydd yn eich paratoi’n drylwyr at yr alwedigaeth addysgu.
Ein prif nod yw eich galluogi i fod yn athro Celf a Dylunio hyderus o ansawdd uchel sydd â gwybodaeth gadarn o ddatblygiad y cwricwlwm yng Nghymru. Rhoddir pwyslais ar weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, cyfoethogi eich sgiliau trwy weithdai ymarferol, yn ogystal â rhoi ichi brofiad o waith cydweithredol ac ymchwil gydag orielau ac amgueddfeydd.
Mae gwybodaeth pwnc, creadigrwydd, dychymyg, cymhelliant a brwdfrydedd rhagorol i wneud dysgu Celf a Dylunio yn brofiad pwrpasol i’w fwynhau i ddisgyblion yn ofynion hanfodol o’r cwrs.
Rydym yn rhoi ffocws arbennig ar ddefnyddio Celf gyfoes, gan gynnwys enghreifftiau Cymreig ac rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol fel Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Oriel Saatchi a Tate Modern.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio fel Artist Preswyl neu gael profiad mewn amgueddfa neu oriel ar gyfer lleoliad byr i gynyddu eich cyflogadwyedd.
Yn ogystal, byddwch yn paratoi i addysgu’r cwricwlwm newydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad: Celfyddydau Mynegiannol, a’r grwpiau arholiad ar gyfer cyrsiau Celf a Dylunio TGAU a Lefel A. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno sbectrwm llawn a chyffrous o brofiadau creadigol.
Dyluniwyd y llwybr hwn i ddatblygu eich gwybodaeth arbenigo, profiad a sgiliau i’ch galluogi i ddefnyddio’ch arbenigedd a’ch brwdfrydedd i ysbrydoli eich disgyblion ar draws yr ystod uwchradd.
* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.
TAR Uwchradd Hanes gyda SAC
UCAS Code: 2X5R
Ymgeisio drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Sesiwn Flasu Ar-lein Gofyn Am Fwy o Wybodaeth Sut i Wneud Cais Cymorth ariannol
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: £9,000
Dramor: £13,500
Pam dewis YDDS | Yr Athrofa i astudio ar gyfer eich TAR?
- Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA
- Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol
- Cyfradd gyflogaeth ardderchog o 99% ar gyfer Graddedigion TAR (DLHE 2016/17)
- Cewch astudio ar gampws newydd modern Glannau Abertawe (SA1) gwerth £350m a’r campws hanesyddol yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal mae gennym safle bychan yn y Tramshed Tech, Caerdydd
- Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:
- Modylau gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.
Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil.
Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.
Modylau Lefel 6
Cylch 3 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i’n ei addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Mae’r modiwl hwn yn gosod y plentyn/disgybl yng nghanol y rhaglen. Mae deall sut mae disgybl yn dysgu, wedi’i seilio ar ddamcaniaethau dysgu, tystiolaeth seiliedig ar arfer a lle iechyd a llesiant, yn hanfodol i addysgu a dysgu effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn herio tybiaethau a chredoau sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth diwylliannol a disgwyliadau model normadol o ddatblygiad plant.
Hefyd, mae’r modiwl hwn yn gosod yr athro fel gweithiwr proffesiynol trwy ystyried diogelu, amddiffyn plant, cytundebol, bugeiliol a chyfrifoldebau cyfreithiol.
Elfen asesu’r modiwl hwn yw aseiniad ysgrifenedig (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).
Cylch 3 Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Yn y modwl hwn datblygir yn glir wybodaeth am y pwnc sy’n briodol i gyfnod a gwybodaeth am gynnwys addysgegol sydd eu hangen i addysgu cynnwys cwricwlaidd pob maes dysgu a phrofiad yn effeithiol.
Mae’r modiwl hefyd yn archwilio i natur gymhleth yr amgylchedd dysgu a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli dysgwyr, adnoddau ac oedolion eraill. Bydd egwyddorion cynllunio, addysgu ac asesu ar gyfer dysgu wedi’u diogelu, a’r cymhwyso ymarferol wedi’i werthuso. Yn y modiwl hwn y daw dwy agwedd dysgu ddeallusol a thrwy brofiadau at ei gilydd yn y dosbarth a chefnogir myfyrwyr yn eu profiad addysgu proffesiynol gan athrawon wrth eu gwaith, cymheiriaid a thiwtoriaid prifysgol.
Elfen asesu’r modiwl hwn yw portffolio (100%; cyfwerth â 5000 o eiriau).
Modylau Lefel 7
Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble’r ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Yn y modwl hwn, mae graddedigion yn astudio pwysigrwydd lle a chyd-destun; lleol a chenedlaethol. Mae’r athro trawsnewidiol yn edrych tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned lle mae dysgwyr yn byw eu bywydau ac yn ceisio dylanwadu datblygiad yn y ddau. Golyga hyn deall natur amrywiol cymuned; effaith tlodi ac amddifadedd cymdeithasol a sut i ddefnyddio data i ddeall y materion hyn ymhellach.
Elfennau asesu’r modiwl hwn yw fideo unigol (50%; 10 munud) ac adroddiad ysgrifenedig (50%; 2,500 gair)
Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgegol: Ymchwilio i’r Dysgu: beth, sut a pham ydw i’n addysgu? (30 credyd; gorfodol)
Yn y modiwl hwn, caiff pedair nodwedd yr athro parod at ymchwil eu harchwilio’n fanwl: bod yn sgeptigol; bod yn foesol; bod yn ymchwilydd medrus, a bod yn rhan o broffesiwn sy’n ymholi. Mae darpar athrawon yn ymuno ag athrawon wrth eu gwaith i lunio cymunedau sy’n ymholi lle caiff problemau bywyd go iawn eu hadnabod yn y dosbarth a’u hymchwilio trwy ymagwedd agos-at-arfer. Archwilir gwahanol fethodoleg yn cynnwys astudiaeth gwers, astudiaeth achos ac ymchwil gweithredol ar raddfa fach.
Elfen asesu ‘r modiwl hwn yw prosiect ymchwil (100%; 5000 o eiriau gyda’r hyn sy’n gyfwerth â 1000 o eiriau wedi’i neilltuo i’r Ffurflen Foeseg).
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:
- Astudiaethau achos
- Portffolios
- Cyflwyniad fideo
- Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.
Dolenni Diddorol
Athrofa Partneriaeth Dysgu Proffesiynol
Gwybodaeth allweddol
Gradd Israddedig
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.
Cymwysterau TGAU
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).
I gael gwybodaeth bellach am safonau cyfwerth â gradd C, darllenwch y Canllawiau am Gyfwerthedd TGAU.
Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3
Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.
Profiad Gwaith
Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.
Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@uwtsd.ac.uk
Am beth ydym ni’n chwilio?
- Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
- Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
- Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
- Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
- Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
- Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
- Gwydnwch a dibynadwyedd
- Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
- Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?
- Ansawdd y datganiad personol
- Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
- Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
- Ansawdd y cyfweliad unigol
- Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.
Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.
Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen. Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.
Costau Ychwanegol
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau gorfodol:
- Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
- Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
- Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
- Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
- Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1
Costau Angenrheidiol:
- Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
- Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
- Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’
Dewisol:
- Costau argraffu
- Teithiau astudio dewisol
Mathew Jones
"Mae athrawon gwych yn dylanwadu ar fywydau plant. Cafodd brwdfrydedd fy athro addysg grefyddol effaith arna’i a hoffwn basio hynny ymlaen. Ysbrydoliaeth fawr. Mae addysg grefyddol yn agored ac yn berthnasol o hyd. Mae gwerth pawb yr un fath."
Georgia Evans
"Roedd fy athro yn anhygoel. Roedd hi’n caru’r pwnc a ddylanwadodd arnom ni. Roedd egni yn y pwnc, mae’n bwnc llawn hwyl. Rydych yn dysgu cymaint o hanes ond mae’n dal i fod yn gyfredol ac yn newid o hyd. Mae crefydd yn siapio barn pobl mae’n ffordd dda i annog pobl i siarad. Mae’r byd yn newid ac mae angen i bobl newid gydag ef."
Lauren Sheppard
"Mae Addysg Grefyddol ynn gweithredu moesau. Rydym yn byw mewn gwlad aml-ddiwylliant ac mae crefydd o’n cwmpas ym mhobman. Mae yna gymaint o negatifedd am y pwnc ond mae’n hwyl ac yn ddiddorol. Rwyf wedi caru Addysg Grefyddol o hyd, addysgu yw’r swydd berffaith."
Elle Murray
"Gwersi addysg grefyddol yn yr ysgol sydd wedi fy siapio i. Mae’n bwnc mor meddwl agored. Mae’n eich annog i archwilio eich credoau ac yn datblygu pobl ifanc yn ddinasyddion da, moesol, meddwl agored."
Lauren Slye
"Addysgu yw un o’r galwedigaethau hynny sy’n eich galluogi i newid bywydau. Mae pawb yn cofio’r un athro yna a gafodd effaith arnoch. Ni allwch ddianc rhag crefydd, mae’n rhan greiddiol o gymdeithas. Y mwyaf y gallwn annog goddefgarwch, dileu anwybodaeth a gwybod mwy, y gorau bydd ein cymdeithas. Mae athrawon Addysg Grefyddol yn parchu ei gilydd."
Tom Cross
"Addysgu yw un o’r galwedigaethau hynaf ar y blaned. Roedd Iesu, Gandhi, Martin Luther King ac Aristotle i gyd yn athrawon enwog. O ganlyniad, fel athro, rydych yn mynd i mewn i’r un llyfr. Gydag Addysg Grefyddol nid oes cywir neu anghywir, yr hyn rydych yn ei deimlo yn eich calon sy’n cyfrif. Mae crefydd yn cael effaith ar fywydau pobl."
Seren Speake
"Cafodd dysgu am addysg grefyddol yn yr ysgol uwchradd ddylanwad enfawr arna’i wrth ddewis pwnc gradd. Mae cymaint o gamsyniadau am Addysg Grefyddol; mae’n cynnwys pynciau fel moeseg a moesau ac yn addysgu sgiliau bywyd a pharch."
Lana Jones
"Rwy’n dod o bentref fach yng Nghymru sy’n wledig iawn heb fawr ddim amrywiaeth. Hoffwn addysgu pobl am y gwir ac nad yw’r hyn a welant yn y cyfryngau yn cynnwys y gwir i gyd. Dywed pobl mai crefydd yw’r broblem, ond nid ar crefydd mai’r bai, ond y bobl."
Nikita Forbes
"Mae Addysg Grefyddol yn sylfaen i’n systemau a chyfreithiau cyfansoddiadol. Addysgu negeseuon cyson i geisio dileu’r stereoteipiau. Mae Abertawe yn gwneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant ac mae hynny’n cynnwys amrywiaeth. Dathlu gwahaniaethau a pham bod pobl yn gwneud yr hyn a wnânt. I rai, crefydd yw eu bywyd ac mae deall crefydd yn golygu gallu deall pobl.
Cefais fy achub gan athro - rwyf yma o’u herwydd nhw. Gall beth a sut maent yn addysgu effeithio ar fywyd rhywun. Achub rhywun arall yw un o’m prif goliau."
Ashley Gibbons-Green
"Diben Addysg Grefydd yw trafod, ac mae hynny mor berthnasol. Mae’n ddiddorol iawn oherwydd fe ddysgais i am wahanol ddiwylliannau a sut mae pobl eraill ynn byw eu bywydau. Mae’n rhoi i bobl ifanc yr holl ffeithiau er mwyn iddynt ddewis drostyn nhw eu hunain. Mae’n datblygu syniadau cenedlaethau’r dyfodol am faterion."
Alys Rosser
"Mae Addysg grefyddol ynn trafod pynciau anodd ac yn gwrando ar y ddwy ochr i alluogi pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’n galluogi pobl ifanc i ffurfio barn."
Hannah Jones
"Mae cwricwlwm Addysg Grefyddol wedi newid; bellach, mae’n cynnwys llythrennedd, rhifedd, gallu digidol a’r Dyniaethau. Yn y gorffennol, fe ganolbwyntiodd ar Gristnogaeth a heddiw mae’n edrych ar lawer o grefyddau. Yna, mae’r holl wybodaeth yno i’w galluogi i wneud eu penderfyniad eu hunain. Mae’n eich addysgu am bawb arall yn y byd - yn ehangu cymdeithas. Mae’r byd yn mynd yn llai."
Strwythur y Rhaglen
Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:
- Modylau Gorfodol
- Datblygu sgiliau ymchwil
- Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg
- Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
- Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
- Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion
Darpariaeth prifysgol
Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.
Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.
Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.
Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol
Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.
Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.
Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.
Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.
Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.
Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.