Mae ein tîm Cymorth Dysgu wrth law i gefnogi eich astudiaethau. Gall pob myfyriwr gael mynediad i’n sesiynau Sgiliau Astudio ac archebu slot i weithio un-i-un gyda’n tîm sgiliau astudio.
Rydym hefyd yn darparu cymorth academaidd cynhwysfawr i Fyfyrwyr Anabl. Bydd ein tîm yn cynorthwyo myfyrwyr wrth wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), gan gynnwys mynediad at asesiad a diagnosis ar gyfer Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD) lle bo angen. Mae ein tîm cymwysedig proffesiynol o Gynorthwywyr Anfeddygol wrth law i weithio gyda myfyrwyr sydd wedi cael diagnosis i gynorthwyo gyda’u dysgu ac i’w helpu i gyflawni eu potensial.
Beth bynnag yw eu statws o ran y Lwfans Myfyrwyr Anabl, mae’r tîm Cymorth Dysgu wrth law i gefnogi myfyrwyr drwy amgylchiadau annisgwyl ac amseroedd anodd sydd wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth gan y tîm a gallant wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol lle bo’n briodol.