Mae diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn golygu:

  • Eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • Sicrhau nad oes nam ar eu hiechyd a'u datblygiad mewn unrhyw ffordd
  • Sicrhau eu bod yn gallu tyfu i fyny'n ddiogel a manteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae bywyd yn eu cynnig

Gall unrhyw un yn ein cymuned fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso sy'n golygu bod diogelu yn gyfrifoldeb ar y cyd i bob un ohonom. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth gadw ein gilydd yn ddiogel.

Er bod grwpiau a allai fod yn fwy agored i gamdriniaeth neu esgeulustod, mae'r risg yn fwy tebygol o gynyddu oherwydd amgylchiadau yn hytrach na nodweddion personol ac yn aml mae'n ganlyniad i gyfuniad o ffactorau. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw'n ddiogel, ewch i'n tudalennau Cadw'n Ddiogel.

Eich cyfrifoldeb yn aelod o gymuned y Brifysgol yw bod yn effro i arwyddion o gam-drin ac esgeulustod a rhannu unrhyw bryderon sydd gennych â'r Brifysgol er mwyn i ni allu ymchwilio iddyn nhw a chynnig cymorth.

Mae'r Brifysgol yn gweithio ynghyd â'n staff, ein myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a'n rhwydweithiau rhanbarthol i helpu i ddiogelu ein cymuned. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau lleol, yr Heddlu ac asiantaethau statudol eraill i rannu gwybodaeth, i nodi materion ac i ymateb i heriau.

Yn rhan o'r gweithgarwch partneriaeth lleol hwn, mae'r Brifysgol yn bodloni'i dyletswydd statudol mewn perthynas ag atal pobl fregus rhag cael eu denu i eithafiaeth neu derfysgaeth.

Os ydych chi'n pryderu y cewch chi neu eraill eich denu i eithafiaeth neu eich bod mewn perygl o radicaleiddio, dilynwch lwybr adrodd Achosion Pryder.

Diogelu a Chefnogi Myfyrwyr Presennol PREVENT