Argyfwng
Os oes argyfwng yn codi ac rydych ar y campws dylech gysylltu â’r Tîm Gweithrediadau 24/7 ar 07767 842738.
Os oes argyfwng yn codi ac rydych oddi ar y campws dylech alw 999.
Cadwch yn ddiogel
Eich cyfrifoldeb chi fel aelod o gymuned y Brifysgol yw cadw llygad am arwyddion o gam-drin ac esgeulustod ac i rannu unrhyw bryderon sydd gennych gyda’r Brifysgol fel y gallwn weithredu ar sail hynny a chynnig cymorth. Os ydych yn pryderu am fyfyriwr arall, cwblhewch y ffurflen Achos Pryder. Gallwch adrodd eich pryderon yn ddienw os ydych chi’n dymuno. Gallai eich pryderon gynnwys materion yn ymwneud ag iechyd, llesiant neu ymddygiad myfyriwr, neu amgylchiadau a allai fod yn effeithio ar eu cynnydd academaidd neu reolaeth gyffredinol ar fywyd yn y Brifysgol.
Gwasanaethau Llesiant Myfyrwyr
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Mae’r tîm Llesiant yn cynnig ystod o wasanaethau a luniwyd i gefnogi myfyrwyr i fynd i’r afael â’u hastudiaethau yn effeithiol. Mae’r tîm Llesiant yn darparu cyngor ac arweiniad proffesiynol a chyfrinachol mewn perthynas â llesiant ac iechyd meddwl myfyrwyr. Mae gwybodaeth am y gwasanaethau Llesiant a ddarperir a sut i gael mynediad atynt ar gael yma.
Ymrwymiad y Brifysgol
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo llesiant a diogelwch myfyrwyr, staff ac ymwelwyr ar draws ein gweithrediadau a’n hamgylchedd.
O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn agored i niwed ac mae gan y Brifysgol ystod o wasanaethau a pholisïau yn eu lle i ymateb i’r angen sy’n codi a helpu eu diogelu.
Mae ein Polisi Diogelu yn egluro’r fframwaith sydd ar gael i ddiogelu rhag risg, cam-drin a niwed posibl, ac i ymateb yn briodol i bryderon.
Mae’r egwyddorion yn y Polisi yn nodi bod y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i:
- Ddarparu amgylchedd diogel i bob un o'i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr;
- Darparu amgylchedd sy’n ddiogel rhag niwed i’r rhai sydd o dan 18 oed;
- Cynnal hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed i fod yn ddiogel rhag niwed, yn rhydd rhag anaf ac i fod mewn amgylchedd diogel ac iach.
Mae’r Polisi’n seiliedig ar Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru. Mae’r Polisi hefyd yn cydnabod cyfrifoldebau ehangach y Brifysgol o ran Dyletswydd Prevent y DU a’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth neu gael eu radicaleiddio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â themâu Prevent, cysylltwch â’r Swyddog Arweiniol Prevent Dros Dro, Rhys Dart.
Swyddogion Diogelu Dynodedig y Drindod Dewi Sant:
Swyddog Dynodedig Arweiniol: Michou Burckett St Laurent (Pennaeth Llesiant Myfyrwyr) m.bstlaurent@uwtsd.ac.uk
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: Rhys Dart r.dart@uwtsd.ac.uk
Pro Is-Ganghellor Cysylltiol (Profiad Academaidd): Mirjam Plantinga m.plantinga@uwtsd.ac.uk
Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol: Jane O’Rourke J.ORourke@uwtsd.ac.uk