Help mewn Argyfwng neu Sefyllfa Frys
Os ydych chi’n cael argyfwng meddygol, neu broblem critigol neu sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999.
Os ydych chi angen siarad gyda rhywun, mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol drwy’r dydd, bob dydd, ar 116 123. Mae hwn yn rif cyfrinachol ac ni fydd y rhif yn dangos ar eich cofnodion ffôn. Hefyd, mae peth o ddarpariaeth y Samariaid ar gael yn yr iaith Gymraeg.
Os ydych yn teimlo’n sâl a hoffech gyngor, mae gan Galw Iechyd Cymru linell gymorth 24/7, sef 0845 46 47.
Mae Adran Gwasanaethau Myfyrwyr y brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys cwnsela, a gwasanaeth ymgynghorol iechyd meddwl. Cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Sylwer: NID gwasanaeth brys yw hwn.