Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn estyn croeso cyfartal i’r rheiny a chanddynt ffydd crefyddol a’r rheiny nad oes ganddynt grefydd. Mae’n ceisio bod yn gymdeithas gynhwysol lle caiff anghenion pawb eu cydnabod a lle mae cymorth ar gael. Mae rhan o’r ymrwymiad hwn yn cynnwys sicrhau bod yr holl staff a myfyrwyr yn cael cyfleoedd i archwilio a dathlu crefydd, weithiau trwy gymunedau ffydd lleol y tu hwnt i’r brifysgol. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o gampws i gampws o ganlyniad i sail hanesyddol a chyd-destun presennol.

Nid dim ond i’r rheiny sy’n ystyried eu hunain yn ‘grefyddol’ y mae’r ddarpariaeth Ffydd ac Ysbrydolrwydd. Gall gynnwys achlysuron i gwrdd ag ystod amrywiol o bobl ddiddorol trwy ddigwyddiadau cymdeithasol neu i wrando ar siaradwyr diddorol, ymgysylltiol, yn ogystal â chyfleoedd i fod yn fwy ymrwymedig i faterion o heddwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd neu i gymryd rhan mewn elusennau a gwirfoddoli.

Yn fyr, nod y ddarpariaeth Ffydd ac Ysbrydolrwydd yw cyfoethogi profiad pawb o’r brifysgol, gan alluogi i bob aelod o’r brifysgol ddatblygu agwedd aeddfed, wybodus at fywyd ac i gynnig nhw eu hunain mewn gwasanaeth i eraill. Y gôl yw helpu unigolion i fod yn gyfoethocach ac yn llawn brwdfrydedd i gyrraedd eu potensial llawn - yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn ysbrydol.

Ceir manylion y ddarpariaeth benodol sydd ar bob campws yn y dolenni isod.

Caplaniaeth Caerfyrddin | Caplaniaeth Llambed | Abertawe