Croeso...

Gobeithiwn y bydd eich cyfnod yn y Brifysgol yn un cyffrous a buddiol, gan gynnig platfform gwych ar gyfer y dyfodol. Mae’r Gaplaniaeth yng Nghaerfyrddin yma i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau.

Felly beth yw’r Gaplaniaeth?

Cynigwn help mewn dwy ffordd benodol:

  • Mae’r Gaplaniaeth yn cefnogi bywyd ysbrydol y Brifysgol.

Trwy fywyd y Capel mae’n cynnig cyfleoedd rheolaidd i’r myfywyr a’r staff:

    • addoli;
    • darganfod ffydd am y tro cyntaf;
    • archwilio ysbrydolrwydd;
    • bod yn rhan o gymuned o bobl sy’n gofalu am ei gilydd, lle y gwerthfawrogir pob un.
  • Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig gofal bugeiliol i bob aelod o’r Brifysgol.

O dro i dro, mae angen rhywun i wrando arnom ynghyd â help i’n tywys drwy gyfnod anodd. Mae’r Caplan yn darparu gweinidogaeth gyfrinachol, ddwyieithog i’r holl staff a myfyrwyr o bob cefndir ac ymlyniad crefyddol. Cewch hyd i fanylion am y Caplan yn adran ‘Y Caplan’. Mewn ffordd fwy anffurfiol, mae’r rhai sy’n gysylltiedig â bywyd y Capel yn cefnogi ei gilydd, gan greu cyfeillgarwch dwfn sy’n parhau.

Mae’r Capel yn rhan o’r Hen Goleg, gyda mynedfa ar y prif goridor gyferbyn â’r Cwad.

  • Offrymir addoliad yma yn ddyddiol o Ddydd Llun i Ddydd Gwener;
  • Mae’r Capel ar agor drwy gydol y dydd fel man tawel ble y gallwch weddïo, myfyrio neu fod yn llonydd.
  • Cedwir y sagrafen fendigedig yma a gall yr eiconau gwreiddiol, o waith y Chwaer Theresa Margaret CHN, fod yn gymorth i’n harwain i mewn i weddi.
  • Yma, gallwch gynnau cannwyll fel arwydd o’ch gweddi neu adael cais am weddi ar y bwrdd gweddi, gan wybod y bydd rhywun arall yn parhau i weddïo dros eich consyrn penodol chi.

Lolfa’r Capel

Dyma’r ystafell yr ewch drwyddi ar y ffordd i mewn i’r Capel: lle o letygarwch a chymdeithasu, chwerthin a hwyl, bwyta ac yfed, astudio a thyfu. Mae croeso i ymlacio ar un o’r soffas, cael eich sbarduno i weithio dros heddwch a chyfiawnder neu ddarllen un o’r llyfrau i’ch ysbrydoli.

Gwasanaethau rheolaidd yn y Capel

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein haddoliad yn adlewyrchu ieithoedd y campws cyn gymaint â phosibl. Dyma’r patrwm addoli arferol:

DiwrnodAmserGwasanaeth
Dydd Llun 9.00am Boreol Weddi
Dydd Mawrth 9.00am Boreol Weddi
Dydd Mercher 9.00am Boreol Weddi
Dydd Iau 9.00am Boreol Weddi
Dydd Iau 12.15pm Cwrdd Distaw: Myfyrdod yn y Traddodiad Cristnogol
Dydd Iau 1.15pm Cymun Bendigaid
Dydd Gwener 9.00am Boreol Weddi

Mae'r patrwm hwn yn rhedeg yn ystod y tymor yn unig ond weithiau cynhelir ambell wasanaeth yn ystod y gwyliau.

Pererindod i Taizé

Pentref bychan yn Nwyrain Ffrainc yw Taizé, a fu’n gartref, ers y 1940au, i gymuned Gristnogol ryfeddol. Heddiw mae pobl ifanc o bedwar ban byd ac o gefndiroedd ffydd amrywiol yn ymweld ar gyfer wythnos o weddi, astudiaeth a hwyl mewn lleoliad gwych.

Rhaid ei brofi er mwyn ei werthfawrogi: gall fod yn ddigwyddiad i newid eich bywyd! Gobeithiwn gael pererindod y Gaplaniaeth yno; cysylltwch â’r Caplan am fwy o fanylion.

Mae gennym gasgliad o lyfrau yn Lolfa’r Capel sydd ar gael i’w benthyg, gyda themâu yn cynnwys astudiaethau beiblaidd, diwinyddiaeth, ysbrydolrwydd, litwrgi a moeseg.

Dydd Gŵyl Ddewi 2018

Cynhelir gwasanaeth i dathlu dydd gŵyl Nawddsant Cymru, Dewi Sant, yn y Capel Nos Iau 1 Mawrth am 5.30pm, gyda bwffe i ddilyn. Yn pregethu eleni fydd y Barch. Beti-Wyn James. Estynnir croeso cynnes i bawb.

Mae'r Caplan, y Parch. Ddr. Ainsley Griffiths, yn offeiriad (gweinidog ordeiniedig) yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae ef ar gael ar gyfer holl aelodau’r Brifysgol, beth bynnag yw eu cefndir crefyddol, gan gynnig gweinidogaeth gyfrinachol, ddwyieithog, heb farnu.

Cewch hyd i'w swyddfa ar lawr gwaelod adeilad Carwyn James (ystafell CJ007).

Gallwch hefyd gysylltu ag Ainsley ar 01267 676607 / 07946 036936 neu ar e-bost: ainsley.griffiths@pcydds.ac.uk