Caplaniaeth Campws Llambed
Capel Prifysgol Dewi Sant
Mae’r Capel yn eiddo i fyfyrwyr a staff y Brifysgol ac ymdrechwn i fod yn dra chynhwysol yn ein croeso.
Mae’r Capel ar agor y rhan fwyaf o’r amser ac mae croeso i unrhyw un ddefnyddio’r lle i fyfyrio’n dawel, gweddïo neu i gymryd amser i ymdawelu ynghanol prysurdeb y dydd.
Mae gweinidogaeth y Capel yn agored i bawb o unrhyw enwad neu i’r rheini heb enwad, ac mae croeso mawr i bawb i unrhyw un o wasanaethau’r Capel (i weld manylion llawn holl wasanaethau’r Gaplaniaeth gweler tudalen “Gwasanaethau” y wefan hon).
Sefydliad Anglicanaidd yw’r Capel o ran ei draddodiad. Mae’n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru ac o'r herwydd yn defnyddio defodau a seremonïau'r Eglwys yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gweinidogaeth y Capel yn agored i bawb o unrhyw enwad neu i’r rheini heb enwad, ac mae croeso mawr i bawb i unrhyw un o wasanaethau’r Capel.
Cynhelir gwasanaethau yn ystod y tymor yn unig. Ein prif wasanaeth yn ystod yr wythnos yw’r Cymun Bendigaid ar ddydd Iau am 12:30pm. Gweler hysbysfwrdd y capel neu cysylltwch â’r Caplan i gael gwybodaeth am y gwasanaethau eraill.
Mae Ysgoloriaeth organ gyda bwrsari ar gael hefyd i fyfyriwr â’r cymwysterau priodol. Gan y bydd rhai gwersi organ yn cael eu darparu yn rhan o becyn yr ysgoloriaeth, byddai’n bosibl i bianydd fod yn gymwys i’w derbyn hefyd.
Cysegrwyd y Capel gan yr Esgob Jenkinson o Dyddewi ar 23 Awst 1827, bron chwe mis ar ôl i’r myfyrwyr cyntaf gael eu derbyn i Goleg Dewi Sant. Cynhaliwyd gwasanaethau dyddiol o’r cychwyn, yr oedd yr holl staff a myfyrwyr yn eu mynychu. Roeddent yn cynnwys ffurfiau byrrach o’r Weddi Foreol a Hwyrol ar ddyddiau’r wythnos a gwasanaethau llawn y Weddi Foreol a Hwyrol ar y Sul. Dethlid y Cymun Bendigaid unwaith y mis, sef y drefn arferol yn y cyfnod hwn.
Roedd tua hanner y gwasanaethau yn Saesneg a hanner yn Gymraeg. Gosodwyd y paentiad sydd i’w weld erbyn hyn yn Eil yr Ymwelwyr yn wreiddiol y tu cefn i’r allor. Copi o’r Teulu Bendigaid gan Correggio ydyw ac mae’r llun gwreiddiol yn Parma. Trwy gydol esgobaeth yr Esgob Jenkinson, ac am gyfnod helaeth o esgobaeth ei olynydd, Connop Thirlwall, y Capel oedd y lleoliad arferol ar gyfer ordeiniadau yn esgobaeth Tyddewi. Y Capel oedd un o’r addoldai Anglicanaidd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dathliad wythnosol o’r Cymun Bendigaid, a hynny erbyn yr 1870au.
Er mwyn dathlu jiwbilî aur Coleg Dewi Sant yn 1877 penderfynwyd ail-adeiladu’r Capel oedd erbyn hynny’n cael ei ystyried yn annigonol. Cynlluniwyd y Capel newydd gan T. G. Jackson a daeth y gwaith pren ar gyfer seddi’r côr sydd â chanopi o’r Coleg Newydd, Rhydychen.
Nid oedd ei gynlluniau’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pulpud ond roedd un wedi cael ei osod erbyn 1901. Gwaith Jackson yw’r nenfwd paentiedig ond ni chafodd y sgrin y bwriedid ei rhoi rhwng prif gorff y Capel ac Eil yr Ymwelwyr fyth ei gosod. Cysegrwyd y Capel newydd ar 24 Mehefin 1880, a’r pregethwr yn y seremoni hon oedd yr Esgob Ollivant o Landaf, a oedd, ac yntau’n Is-brifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, wedi pregethu adeg cysegru’r Capel gwreiddiol 53 mlynedd ynghynt.
Yn 1879 gorchmynnodd yr Esgob Basil Jones o Dyddewi fod rhaid cael gwared â’r ffurfiau byrrach o’r Weddi Foreol a Hwyrol a ddefnyddid ar ddyddiau’r wythnos a defnyddio gwasanaethau llawn bob dydd, i’w cymryd yn eu tro gan aelodau’r staff mewn urddau eglwysig, ac y dylid lleihau nifer y gwasanaethau Cymraeg.
Yn yr 1880au cynhelid y Weddi Foreol a Hwyrol ar ddyddiau’r wythnos am 8am a 5.30pm, ond ar brynhawn Gwener yn unig y byddai’r Gosber yn Gymraeg. Gwasanaethau’r Sul oedd y Cymun Bendigaid am 8.30am, Boreol Weddi Gorawl am 11am, gyda Chymun ar Gân ar Sul cyntaf y mis, a’r Gosber am 7pm. Cyflwynwyd anthemau rheolaidd ar y Sul gan y prif gantor newydd, Edmund Tyrrell Green, yn 1895. Sefydlodd Green hefyd Gymdeithas Dewi Sant ar gyfer datblygiad ysbrydol staff a myfyrwyr.
Yn 1906 comisiynwyd W D Caröe i gynllunio Capel newydd ond ni chafodd y cynllun fyth ei weithredu. Fodd bynnag, cafodd yr organ ei hadnewyddu yn 1908, am gost o £200. Yn 1914 cyflwynwyd dathliad o’r Cymun Bendigaid yn ystod yr wythnos, sef ar ddydd Mercher, a dathliad dyddiol yn 1925.
Gwisgwyd urddwisgoedd ewcharistaidd am y tro cyntaf yn 1933 ac yn 1934 fe’u gwnaed yn orfodol yn y Cymun ar Gân, ond nid mewn dathliadau geiriol. Yn 1935 newidiwyd patrwm gwasanaethau’r Sul i Gymun Bendigaid am 8am, Boreol Weddi Gorawl am 10am, Pregeth am 10.30am, Cymun ar Gân am 11am a’r Gosber am 6.30pm. Roedd disgwyl i staff a myfyrwyr fynychu naill ai’r Foreol Weddi a Phregeth neu Bregeth a Chymun ar Gân ar foreau Sul.
Yn 1922 dadorchuddiwyd carreg goffa i’r rhyfel a ddyluniwyd gan W. D. Caröe. Cyflwynwyd pulpud newydd, oedd hefyd wedi’i ddylunio gan Caröe, yn 1928 ac fe gysegrwyd reredos newydd yn 1934. Gwnaed gwaith atgyweirio i’r organ hefyd yn 1934 ac yn 1936 rhoddwyd blaen cerfiedig newydd i fwrdd yr allor. Cyfanswm cost yr holl welliannau hyn oedd bron i £1400. Er hynny, roedd y Capel yn dal i gael ei ystyried yn annigonol ar gyfer anghenion y coleg ac awgrymwyd Capel newydd gan y Prifathro Archdall yn 1939.
Cyfrannodd yr Esgob Prosser o Dyddewi £1000 tuag at y Capel newydd yn 1943 ac fe gomisiynwyd Ben Roderick o Aberdâr i baratoi cynlluniau ar gyfer capel, neuadd ddiwinyddol a dau dŷ athrawol newydd, a fyddai wedi llenwi’r llecyn agored rhwng Adeiladau Dewi Sant a Chaergaint. Roedd Capel newydd yn dal yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd yn 1948 ond ni ddaeth dim ohonynt.
Hyd at 1975 pan ymddeolodd J. R. Lloyd Thomas, y Prifathro olaf mewn urddau eglwysig, y Prifathro oedd yn gyfrifol am y Capel a’i wasanaethau. Wedi hynny penodwyd caplan llawn amser. Yn 2005-6 gwnaed cryn waith ail-drefnu ar y Capel i’w wneud yn lleoliad mwy addas ar gyfer litwrgi ewcharistaidd newydd yr Eglwys yng Nghymru.
Tynnwyd y pulpud allan ac fe osodwyd bwrdd allor a darllenfa newydd. Ar yr un pryd tynnwyd allan y rhan fwyaf o’r seddi yn Eil yr Ymwelwyr ac yn eu lle gosodwyd cadeiriau y gellid eu defnyddio mewn ffordd fwy hyblyg ar gyfer gwasanaethau llai neu gyfarfodydd o gynulleidfa’r Capel.
Arweinir y Gaplaniaeth gan Gaplan y Brifysgol, y Parchedig Ddr Emma Whittick, sy’n Offeiriad Anglicanaidd. Mae ar gael i bobl a allai ddymuno ei gweld am gymorth bugeiliol, arweiniad ysbrydol, sacrament cymodi, neu unrhyw reswm arall. Mae’r Caplan ar gael i gefnogi’r holl staff a myfyrwyr beth bynnag fo eu cred grefyddol, hil, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Yn ogystal mae gan y Gaplaniaeth dîm o fyfyrwyr sy’n helpu paratoi ar gyfer gwasanaethau. Mae’r swyddi hyn ar agor i bawb, ac yn aml bydd swydd wag ar ddechrau’r flwyddyn. Cysylltwch â’r Caplan os oes gennych ddiddordeb.
Caplan y Brifysgol: Y Parchg Ddr Emma Whittick
Mae Emma'n barod i weld staff a myfyrwyr naill ai trwy apwyntiad neu trwy alw heibio ei swyddfa yn yr Hen Adeilad. Ei rhif ffôn yw: 01570 424781 a’i e-bost yw: emma.whittick@uwtsd.ac.uk