Uned Gyfoethogi
Mae’r Uned yn cefnogi'r Pwyllgor Dysgu, Addysgu a Chyfoethogi (PDAC) a gweithrediad y Strategaeth Dysgu, Addysgu a Chyfoethogi (SDAC) yn benodol.
- Ymgynnull a threfnu cyfarfodydd PDAC a chyfathrebu gyda’i aelodau.
- Rhoi cymorth swyddogion wrth iddynt gynhyrchu cofnodion a dogfennau eraill ar gyfer PDAC.
- Cysylltu â swyddogion y Senedd a Phwyllgorau eraill y Brifysgol ynghylch busnes PDAC.
- Rheoli’r berthynas rhwng y Brifysgol a’r Academi Addysg Uwch (AAU)
- Ymgynnull a threfnu Paneli Achredu a Chydnabod Cymrodorion yr AAU.
- Trefnu, hyrwyddo a dosbarthu gweithgarwch datblygiad proffesiynol dysgu ac addysgu
- Trefnu, hyrwyddo a dosbarthu gweithgarwch â thema Cyfeiriadau’r Dyfodol a Chyfoethogi
- Hyrwyddo, cefnogi a dosbarthu ysgolheictod dysgu ac addysgu, ac ymchwil addysgaidd staff a myfyrwyr y Brifysgol.
- Hyrwyddo a rheoli Cyfnodolyn Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol
- Hyrwyddo a chydlynu Grwpiau Cyfoethogi PDAC sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau strategol.
- Ymgymryd ag archwiliad blynyddol o ymchwil a gwaith ysgolheictod staff sy’n addysgu Lefel 6 a 7.
- Hyrwyddo a chynnal trosolwg o ymchwil mewn dysgu myfyrwyr israddedig e.e. cymryd rhan yng Nghynhadledd Ymchwil Israddedig Prydain a chyhoeddi’r Y Myfyriwr Ymchwil
- Creu a chynnal offer ac adnoddau cyfathrebu, fel bwletinau, tudalennau gwe, Moodle, cyfryngau cymdeithasol ayyb
Arweinir yr Uned gan y Pro Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Chyfoethogi), yr Athro Simon Haslett, sy’n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, gyda chefnogaeth Victoria Watkins.
Gallwch gysylltu â’r Uned ar 01792481102 neu victoria.watkins@uwtsd.ac.uk